RHAN 8
Gwireddu Addewidion Duw
Yn y Beibl, rydyn ni’n darllen nid yn unig am y gorffennol ond hefyd am y dyfodol. Nid yw pobl yn gallu rhagweld y dyfodol. Dyna sut rydyn ni’n gwybod bod y Beibl yn llyfr oddi wrth Dduw. Felly, beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am y dyfodol?
Y mae’n sôn am ryfel mawr Duw. Yn y rhyfel hwn bydd Duw yn cael gwared ar yr holl ddrygioni sydd yn y byd. Ond bydd y rhai sydd yn gwasanaethu Duw yn cael eu cadw’n ddiogel. Dan deyrnasiad Iesu Grist, bydd gweision Duw yn byw mewn heddwch. Fydd neb yn mynd yn sâl nac yn marw, a bydd pawb yn hapus am byth.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at y baradwys newydd y bydd Duw yn ei chreu ar y ddaear. Ond mae yna bethau y mae’n rhaid inni eu gwneud os ydyn ni am fyw yn y baradwys. Yn y stori olaf byddwn ni’n dysgu am hynny, ac am y pethau hyfryd sydd gan Dduw ar gyfer pobl ffyddlon. Gad inni ddarllen RHAN 8 i weld beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol.
YN Y RHAN HON
STORI 114
Diwedd Pob Drygioni
Pam y mae Duw yn anfon ei fyddin, gyda Iesu yn eu harwain, i fewn i brwydr Armagedon?
STORI 115
Paradwys Newydd ar y Ddaear
Ar un adeg roedd pobl yn byw ym Mharadwys ar y ddaear, a fe ddigwyddith eto yn y dyfodol.WEB:OnSiteAdTitleParadwys Newydd ar y Ddaear
STORI 116
Byw am Byth
Ydy dysgu am Jehofa Dduw ac Iesu Grist yn ddigon? Os ‘na’ yw’r ateb, beth arall sydd rhaid inni wneud?