Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 114

Diwedd Pob Drygioni

Diwedd Pob Drygioni

BETH rwyt ti’n ei weld yma? Ie, byddin ar gefn ceffylau gwynion. Wyt ti’n gweld o ble maen nhw’n dod? Mae’r ceffylau yn carlamu i lawr o’r nef yng nghanol y cymylau! A oes ceffylau go iawn yn y nefoedd?

Nac oes, oherwydd nid yw ceffylau go iawn yn gallu rhedeg ar gymylau, nac ydyn? Ond eto y mae sôn yn y Beibl am geffylau yn y nefoedd. Wyt ti’n gwybod pam?

Wel, ar un adeg roedd ceffylau yn cael eu defnyddio mewn rhyfeloedd. Felly er mwyn dangos bod Duw yn mynd i ryfela yn erbyn pobl ar y ddaear, mae’r Beibl yn disgrifio marchogion yn dod o’r nefoedd. Mae’r Beibl yn galw’r rhyfel hwn yn Armagedon. Bydd rhyfel Armagedon yn cael gwared ar bob drygioni ar y ddaear.

Bydd Iesu ar y blaen yn rhyfel Armagedon. Iesu, cofia, yw’r un y mae Jehofa wedi ei ddewis i fod yn frenin ar ei Deyrnas. Dyna pam mae coron am ei ben. Mae’r cleddyf yn dangos ei fod yn barod i ladd gelynion Duw. A ddylai hynny fod yn syndod inni?

Edrycha yn ôl ar Stori 10. Beth rwyt ti’n ei weld yn y llun? Ie, daeth y Dilyw mawr a dinistrio’r bobl ddrwg i gyd. Pwy anfonodd y Dilyw? Jehofa Dduw. Nesaf, edrycha ar Stori 15. Beth ddigwyddodd? Anfonodd Jehofa dân a dinistrio Sodom a Gomorra.

Tro i Stori 33. Wyt ti’n gweld beth sy’n digwydd i’r Eifftiaid? Pwy wnaeth i’r dyfroedd syrthio a boddi’r dynion drwg? Jehofa. Fe’i gwnaeth er mwyn amddiffyn ei bobl. Yn Stori 36 a Stori 76, rydyn ni’n gweld bod Jehofa hyd yn oed wedi gadael i’r Israeliaid gael eu dinistrio oherwydd eu drygioni.

Felly, ni ddylen ni synnu bod Jehofa yn mynd i anfon ei fyddin o’r nef i gael gwared ar yr holl ddrygioni ar y ddaear. Ond meddylia am beth mae hyn yn ei olygu! Tro i’r dudalen nesaf inni gael gweld.