Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 115

Paradwys Newydd ar y Ddaear

Paradwys Newydd ar y Ddaear

EDRYCHA ar y coed, y blodau, a’r mynyddoedd yn y llun. Onid yw’n lle hardd? Wyt ti’n gweld y carw’n bwyta o law y bachgen? Edrycha ar y llewod a’r ceffylau draw wrth y llyn? A fyddet ti’n hoffi byw mewn lle tebyg i hyn?

Mae Duw yn dymuno iti fyw am byth mewn paradwys ar y ddaear. Y mae’n dymuno iti gael iechyd perffaith a pheidio byth â bod yn sâl. Dyma addewid y Beibl i’r rhai fydd yn byw yn y baradwys: ‘Bydd Duw gyda nhw. Fydd dim marwolaeth, dim crio, dim poenau. Mae’r pethau hyn i gyd wedi mynd.’

Iesu yw’r un a fydd yn gyfrifol am droi’r ddaear yn baradwys. Wyt ti’n gwybod pryd y bydd hyn yn digwydd? Ie, ar ôl iddo gael gwared ar yr holl ddrygioni ar y ddaear. Cofia, pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn iacháu pobl a hyd yn oed yn atgyfodi’r meirw. Roedd gwyrthiau Iesu yn dangos beth y bydd yn ei wneud pan fydd yn Frenin ar Deyrnas Dduw.

Elli di ddychmygu pa mor braf fydd bywyd yn y baradwys? Bydd Iesu, a’r rhai y mae wedi eu dewis i fod yn frenhinoedd, yn rheoli o’r nefoedd. Byddan nhw’n gofalu am bawb ar y ddaear, a sicrhau eu bod nhw’n hapus. Gad inni weld beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn cael byw am byth yn y baradwys.