Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau ar Gyfer Astudio Storïau o’r Beibl

Cwestiynau ar Gyfer Astudio Storïau o’r Beibl

Stori 1

Duw yn Dechrau Creu

  1. O le daeth pob peth da, ac a allwch chi roi enghraifft?

  2. Beth oedd y peth cyntaf i Dduw ei greu?

  3. Pam roedd yr angel cyntaf yn un arbennig iawn?

  4. Sut fath o le oedd y ddaear yn y dechreuad? (Gweler y llun.)

  5. Sut aeth Duw ati i baratoi’r ddaear ar gyfer anifeiliaid a phobl?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Jeremeia 10:12.

    Beth mae’r greadigaeth yn ei ddangos inni am briodoleddau Duw? (Esei. 40:26; Rhuf. 11:33)

  2. Darllenwch Colosiaid 1:15-17.

    Pa ran a gafodd Iesu yn y creu, a sut mae gwybod hyn yn effeithio ar ein hagwedd tuag ato? (Col. 1:15-17)

  3. Darllenwch Genesis 1:1-10.

    1. Pwy oedd yn gyfrifol am greu’r ddaear? (Gen. 1:1)

    2. Beth ddigwyddodd ar ddydd cyntaf y creu? (Gen. 1:3-5)

    3. Disgrifiwch beth ddigwyddodd ar ail ddydd y creu. (Gen. 1:7, 8)

Stori 2

Gardd Brydferth

  1. Sut gwnaeth Duw baratoi’r ddaear i fod yn gartref inni?

  2. Disgrifiwch y gwahanol anifeiliaid y mae Duw wedi eu creu. (Gweler y llun.)

  3. Pam roedd gardd Eden mor arbennig?

  4. Beth oedd bwriad Duw ar gyfer y ddaear gyfan?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 1:11-25.

    1. Beth greodd Duw ar y trydydd dydd? (Gen. 1:12)

    2. Beth ddigwyddodd ar y pedwerydd dydd? (Gen. 1:16)

    3. Pa fathau o anifeiliaid a greodd Duw ar y pumed a’r chweched dydd? (Gen. 1:20, 21, 25)

  2. Darllenwch Genesis 2:8, 9.

    Pa ddwy goeden arbennig a blannodd Duw yn yr ardd, a beth roedden nhw’n ei gynrychioli?

Stori 3

Y Bobl Gyntaf

  1. Sut mae’r llun yn Stori 3 yn wahanol i’r llun yn Stori 2?

  2. Pwy wnaeth y dyn cyntaf, a beth oedd enw’r dyn?

  3. Pa waith a roddodd Duw i Adda?

  4. Pam achosodd Duw i Adda fynd i gysgu’n drwm?

  5. Am faint roedd Adda ac Efa yn gallu byw, a pha waith a roddodd Jehofa iddyn nhw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Salm 83:18. (Beibl Cysegr-lân)

    Beth yw enw Duw, a beth sydd mor unigryw am awdurdod Duw? (Ex. 6:2, BC; Dan. 4:17)

  2. Darllenwch Genesis 1:26-31.

    1. Beth oedd uchafbwynt gwaith Duw ar y chweched dydd, a sut roedd y greadigaeth honno yn wahanol i’r anifeiliaid? (Gen. 1:26)

    2. Sut gwnaeth Jehofa ddarparu bwyd i’r anifeiliaid ac i ddyn? (Gen. 1:30)

  3. Darllenwch Genesis 2:7-25.

    1. Beth roedd rhaid i Adda ei wneud er mwyn enwi’r holl anifeiliaid? (Gen. 2:19)

    2. Sut mae Genesis 2:24 yn ein helpu ni i ddeall safonau Jehofa ynglŷn â phriodi, gwahanu, ac ysgaru? (Math. 19:4-6, 9)

Stori 4

Gadael Gardd Eden

  1. Beth sy’n digwydd i Adda ac Efa yn y llun?

  2. Pam gwnaeth Jehofa eu cosbi?

  3. Beth ddywedodd y sarff wrth Efa?

  4. Pwy wnaeth i’r sarff siarad ag Efa?

  5. Pam roedd rhaid i Adda ac Efa adael y Baradwys?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 2:16, 17; 3:1-1324.

    1. Sut roedd y cwestiwn a ofynnodd y sarff i Efa yn gwneud iddi amau Jehofa? (Gen. 3:1-5; 1 Ioan 5:3)

    2. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth esiampl ddrwg Efa? (Phil. 4:8; Iago 1:14, 15; 1 Ioan 2:16)

    3. Sut dangosodd Adda ac Efa nad oedden nhw’n derbyn y cyfrifoldeb am yr hyn roedden nhw wedi ei wneud? (Gen. 3:12, 13)

    4. Sut roedd y ceriwbiaid a osodwyd i’r dwyrain o ardd Eden yn cefnogi awdurdod Jehofa? (Gen. 3:24)

  2. Darllenwch Datguddiad 12:9.

    I ba raddau mae Satan wedi llwyddo i droi’r ddynoliaeth yn erbyn llywodraeth Duw? (1 Ioan 5:19)

Stori 5

Bywyd yn Troi’n Anodd

  1. Pa fath o fywyd oedd gan Adda ac Efa y tu allan i ardd Eden?

  2. Yn araf deg, beth ddigwyddodd i Adda ac Efa, a pham?

  3. Pam byddai plant Adda ac Efa yn heneiddio ac yn marw?

  4. Pe bai Adda ac Efa wedi bod yn ufudd i Jehofa, pa fath o fywyd bydden nhw a’u plant wedi ei gael?

  5. Sut gwnaeth anufudd-dod Efa achosi poen iddi?

  6. Beth oedd enwau dau fab cyntaf Adda ac Efa?

  7. Pwy yw’r plant eraill yn y llun?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 3:16-23 a 4:1, 2.

    1. Sut roedd y felltith a roddodd Jehofa ar y ddaear yn effeithio ar fywyd Adda? (Gen. 3:17-19; Rhuf. 8:20, 22)

    2. Pam roedd enw Efa, sy’n golygu “Un Byw,” yn enw addas arni? (Gen. 3:20)

    3. Sut dangosodd Jehofa ei fod yn ystyried anghenion Adda ac Efa, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw bechu? (Gen. 3:7, 21)

  2. Darllenwch Datguddiad 21:3, 4.

    Pa bethau drwg y byddwch chi’n falch o weld diwedd arnyn nhw?

Stori 6

Mab Da a Mab Drwg

  1. O ran gwaith, sut roedd dewis Cain ac Abel yn wahanol?

  2. Pa offrymau a gynigiodd Cain ac Abel i Dduw?

  3. Pam roedd Duw wedi ei blesio gan offrwm Abel ond nid gan offrwm Cain?

  4. Pa fath o ddyn oedd Cain, a sut gwnaeth Jehofa geisio ei roi ar ben ffordd?

  5. Beth a wnaeth Cain i Abel pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain yn y cae?

  6. Beth ddigwyddodd i Cain ar ôl iddo ladd ei frawd?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 4:2-26.

    1. Sut disgrifiodd Jehofa sefyllfa beryglus Cain? (Gen. 4:7)

    2. Sut dangosodd Cain beth oedd yn ei galon? (Gen. 4:9)

    3. Beth yw barn Jehofa tuag at dywallt gwaed rhywun dieuog? (Gen. 4:10; Esei. 26:21)

  2. Darllenwch 1 Ioan 3:11, 12.

    1. Pam roedd Cain mor flin, a sut mae hyn yn rhybudd i ni heddiw? (Gen. 4:4, 5; Diar. 14:30; 28:22)

    2. Sut mae’r Beibl yn dangos ei bod hi’n bosibl inni gadw’n ffyddlon, hyd yn oed os yw pob aelod o’n teulu yn gwrthwynebu Jehofa? (Salm 27:10; Math. 10:21, 22)

  3. Darllenwch Ioan 11:25.

    Beth mae Jehofa yn ei addo ynglŷn â’r rhai sy’n marw yn achos cyfiawnder? (Ioan 5:24)

Stori 7

Dyn Dewr

  1. Sut roedd Enoch yn wahanol?

  2. Pam roedd pobl yn nyddiau Enoch mor ddrwg?

  3. Pa bethau drwg roedd y bobl yn eu gwneud? (Gweler y llun.)

  4. Pam roedd yn rhaid i Enoch fod yn ddewr?

  5. Pa mor hir roedd pobl yn byw yn nyddiau Enoch, ond faint oedd oed Enoch pan fu farw?

  6. Beth ddigwyddodd ar ôl i Enoch farw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 5:21-24, 27.

    1. Pa fath o berthynas oedd gan Enoch â Jehofa? (Gen. 5:24)

    2. Yn ôl y Beibl, pwy oedd y dyn hynaf erioed, a faint oedd ei oed pan fu farw? (Gen. 5:27)

  2. Darllenwch Genesis 6:5.

    Pa mor ddrwg aeth y byd ar ôl i Enoch farw, a sut mae hyn yn cymharu â’n dyddiau ni? (2 Tim. 3:13)

  3. Darllenwch Hebreaid 11:5.

    Pam roedd Enoch yn “rhyngu bodd Duw,” a beth ddigwyddodd oherwydd hynny? (Gen. 5:22)

  4. Darllenwch Jwdas 14, 15.

    Sut gall Cristnogion heddiw efelychu dewrder Enoch wrth iddyn nhw rybuddio pobl am Armagedon? (2 Tim. 4:2; Heb. 13:6)

Stori 8

Cewri ar y Ddaear

  1. Beth ddigwyddodd ar ôl i rai o angylion Duw wrando ar Satan?

  2. Pam gwnaeth rhai o’r angylion roi’r gorau i’w gwaith yn y nefoedd a dod i lawr i’r ddaear?

  3. Pam mai peth drwg oedd i’r angylion ddod i lawr i’r ddaear a gwneud cyrff dynol iddyn nhw eu hunain?

  4. Sut roedd plant yr angylion yn wahanol i blant eraill?

  5. Sut roedd plant yr angylion yn ymddwyn ar ôl iddyn nhw dyfu’n gewri? (Gweler y llun.)

  6. Ar ôl i Enoch farw, pa ddyn da oedd yn byw ar y ddaear, a pham roedd Duw yn hoff ohono?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 6:1-8.

    Sut mae Genesis 6:6 yn dangos bod ein hymddygiad yn effeithio ar deimladau Jehofa? (Salm 78:40, 41; Diar. 27:11)

  2. Darllenwch Jwdas 6.

    Beth yw’r rhybudd i ni yn hanes yr angylion drwg yn nyddiau Noa? (1 Cor. 3:5-9; 2 Pedr 2:9, 10)

Stori 9

Noa yn Adeiladu Arch

  1. Faint o bobl oedd yn nheulu Noa, a beth oedd enwau’r tri mab?

  2. Pa beth rhyfedd gofynnodd Duw i Noa ei wneud, a pham?

  3. Beth oedd ymateb cymdogion Noa pan glywon nhw am yr arch?

  4. Beth ddywedodd Duw wrth Noa ynglŷn â’r anifeiliaid?

  5. Ar ôl i Dduw gau drws yr arch, beth roedd yn rhaid i Noa a’i deulu ei wneud?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 6:9-22.

    1. Beth oedd yn arbennig am Noa fel un a oedd yn addoli’r gwir Dduw? (Gen. 6:9, 22)

    2. Beth yw agwedd Jehofa tuag at drais, a sut dylai hyn ddylanwadu ar y math o adloniant rydyn ni’n ei ddewis? (Gen. 6:11, 12; Salm 11:5)

    3. Sut gallwn ni ddilyn esiampl Noa os cawn gyngor drwy gyfundrefn Jehofa? (Gen. 6:22; 1 Ioan 5:3)

  2. Darllenwch Genesis 7:1-9.

    Er bod Noa yn amherffaith, sut mae’r ffaith fod Jehofa yn ei ystyried yn gyfiawn yn ein calonogi ni heddiw? (Gen. 7:1; Diar. 10:16; Esei. 26:7)

Stori 10

Y Dilyw

  1. Pam nad oedd neb yn gallu mynd i mewn i’r arch ar ôl iddi ddechrau bwrw glaw?

  2. Am faint o amser roedd Jehofa yn gwneud iddi fwrw glaw, a pha mor ddwfn oedd y dŵr?

  3. Beth ddigwyddodd i’r arch wrth i lefel y dŵr godi?

  4. A wnaeth y cewri oroesi’r Dilyw, a beth ddigwyddodd i dadau’r cewri?

  5. Beth ddigwyddodd i’r arch ar ôl pum mis?

  6. Pam gwnaeth Noa ollwng cigfran allan o’r arch?

  7. Sut roedd Noa yn gwybod bod lefel y dŵr ar y ddaear wedi gostwng?

  8. Beth ddywedodd Duw wrth Noa ar ôl iddo ef a’i deulu fod yn yr arch am dros flwyddyn?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 7:10-24.

    1. I ba raddau y dinistriwyd bywyd ar y ddaear? (Gen. 7:23)

    2. Faint o amser gymerodd i’r dyfroedd fynd i lawr? (Gen. 7:24)

  2. Darllenwch Genesis 8:1-17.

    Sut mae Genesis 8:17 yn dangos nad oedd pwrpas gwreiddiol Jehofa ar gyfer y ddaear wedi newid? (Gen. 1:22)

  3. Darllenwch 1 Pedr 3:19, 20.

    1. Pan aeth yr angylion gwrthryfelgar yn ôl i’r nefoedd, beth oedd dedfryd Duw arnyn nhw? (Jwd. 6)

    2. Sut mae hanes Noa a’i deulu yn codi ein hyder yng ngallu Jehofa i achub ei bobl? (2 Pedr 2:9)

Stori 11

Yr Enfys Gyntaf

  1. Fel mae’r llun yn dangos, beth oedd y peth cyntaf i Noa ei wneud ar ôl iddo adael yr arch?

  2. Ar ôl y Dilyw, pa orchymyn roddodd Duw i Noa a’i deulu?

  3. Pa addewid wnaeth Duw?

  4. Pan fyddwn ni’n gweld enfys, beth dylen ni ei gofio?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 8:18-22.

    1. Beth gallwn ni ei wneud heddiw sy’n gwneud i Jehofa glywed “arogl hyfryd”? (Gen. 8:21; Heb. 13:15, 16)

    2. Beth ddywedodd Jehofa am gyflwr calon dyn, ac felly, pam dylen ni ofalu am ein calonnau? (Gen. 8:21; Math. 15:18, 19)

  2. Darllenwch Genesis 9:9-17.

    1. Pa gyfamod wnaeth Jehofa â holl greaduriaid y ddaear? (Gen. 9:10, 11)

    2. Am faint bydd cyfamod yr enfys yn para? (Gen. 9:16)

Stori 12

Codi Tŵr Mawr

  1. Pwy oedd Nimrod, a beth oedd barn Duw amdano?

  2. Pam roedd y bobl yn gwneud brics? (Gweler y llun.)

  3. Pam nad oedd y gwaith adeiladu yn plesio Jehofa?

  4. Sut gwnaeth Duw atal y bobl rhag adeiladu’r tŵr?

  5. Beth oedd enw’r ddinas, a beth yw ystyr yr enw?

  6. Beth ddigwyddodd i’r bobl ar ôl i Dduw ddrysu’r ieithoedd?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 10:1, 8-10.

    Pa fath o ddyn oedd Nimrod, a beth yw’r wers inni? (Diar. 3:31)

  2. Darllenwch Genesis 11:1-9.

    Pam roedd y bobl yn adeiladu’r tŵr, a pham roedd y prosiect yn sicr o fethu? (Gen. 11:4; Diar. 16:18; Ioan 5:44)

Stori 13

Abraham—Ffrind i Dduw

  1. Pa fath o bobl oedd yn byw yn ninas Ur?

  2. Pwy yw’r dyn yn y llun, pryd cafodd ei eni, a ble roedd ef yn byw?

  3. Beth ddywedodd Duw wrth Abraham am ei wneud?

  4. Pam roedd Abraham yn cael ei alw’n ffrind i Dduw?

  5. Pwy aeth gydag Abraham pan adawodd Ur?

  6. Beth ddywedodd Duw wrth Abraham ar ôl iddo gyrraedd Canaan?

  7. Pan oedd Abraham yn 99 mlwydd oed, pa addewid a roddodd Duw iddo?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 11:27-32.

    1. Sut roedd Abraham a Lot yn perthyn? (Gen. 11:27)

    2. Er bod y Beibl yn dweud mai Tera a gychwynnodd am wlad Canaan gyda’i deulu, sut rydyn ni’n gwybod mai Abraham oedd yr un a benderfynodd symud? Pam gwnaeth Abraham symud? (Gen. 11:31; Act. 7:2-4)

  2. Darllenwch Genesis 12:1-7.

    Beth arall ddatgelodd Jehofa ynglŷn â’r cyfamod ag Abraham, ar ôl i Abraham gyrraedd gwlad Canaan? (Gen. 3:15; 12:7; Gal. 3:16)

  3. Darllenwch Genesis 17:1-8, 15-17.

    1. Pa enw newydd gafodd Abram ar ôl iddo droi’n 99 mlwydd oed, a pham? (Gen. 17:5)

    2. Pa fendithion addawodd Jehofa i Sara? (Gen. 17:15, 16)

  4. Darllenwch Genesis 18:9-19.

    1. Yn ôl Genesis 18:19, beth yw cyfrifoldeb pob tad? (Deut. 6:6, 7; Eff. 6:4)

    2. Pa brofiad gafodd Sara sy’n dangos na allwn ni guddio dim byd rhag Jehofa? (Gen. 18:12, 15; Salm 44:21)

Stori 14

Profi Ffydd Abraham

  1. Beth addawodd Duw i Abraham, a sut cadwodd Duw ei addewid?

  2. Fel y gwelwn yn y llun, sut profodd Duw ffydd Abraham?

  3. Beth a wnaeth Abraham er nad oedd yn deall y rheswm am orchymyn Duw?

  4. Beth ddigwyddodd pan gododd Abraham y gyllell i ladd ei fab?

  5. Pa mor gryf oedd ffydd Abraham yn Nuw?

  6. Beth roddodd Duw i Abraham ei offrymu yn lle Isaac, a sut?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 21:1-7.

    Pam gwnaeth Abraham enwaedu ei fab Isaac pan oedd yn wyth diwrnod oed? (Gen. 17:10-12; 21:4)

  2. Darllenwch Genesis 22:1-18.

    1. Sut dangosodd Isaac ei fod yn ymostwng i’w dad, Abraham? (Gen. 22:7-9)

    2. Sut gwnaeth esiampl Isaac greu darlun o rywbeth pwysig iawn a fyddai’n digwydd yn y dyfodol? (1 Cor. 5:7; Phil. 2:8, 9)

Stori 15

Gwraig Lot

  1. Pam gwnaeth Abraham a Lot wahanu?

  2. Pam dewisodd Lot fyw yn Sodom?

  3. Pa fath o bobl oedd yn byw yn Sodom?

  4. Pa rybudd a roddodd y ddau angel i Lot?

  5. Pam cafodd gwraig Lot ei throi’n golofn o halen?

  6. Beth gallwn ni ei ddysgu o hanes gwraig Lot?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 13:5-13.

    Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Abraham ynglŷn â’r ffordd i ddatrys problemau sy’n codi rhwng unigolion? (Gen. 13:8, 9; Rhuf. 12:10; Phil. 2:3, 4)

  2. Darllenwch Genesis 18:20-33.

    Sut mae ystyried ymateb Jehofa i bryderon Abraham yn rhoi hyder inni y bydd Jehofa a Iesu yn barnu’n gyfiawn? (Gen. 18:25, 26; Math. 25:31-33)

  3. Darllenwch Genesis 19:1-29.

    1. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r adnodau hyn am farn Duw ynglŷn â pherthynas rywiol rhwng dau o’r un rhyw? (Gen. 19:5, 13; Lef. 20:13)

    2. Sut roedd ymateb Lot i gyfarwyddyd Duw yn wahanol i ymateb Abraham, a beth mae hyn yn ei ddysgu i ni? (Gen. 19:15, 16, 19, 20; 22:3)

  4. Darllenwch Luc 17:28-32.

    Yn ei chalon, beth oedd agwedd gwraig Lot tuag at bethau materol, a beth yw’r wers i ni? (Luc 12:15; 17:31, 32; Math. 6:19-21, 25)

  5. Darllenwch 2 Pedr 2:6-8.

    Sut gallwn ni efelychu Lot yn ein hagwedd tuag at y byd annuwiol o’n cwmpas? (Esec. 9:4; 1 Ioan 2:15-17)

Stori 16

Gwraig Dda i Isaac

  1. Pwy yw’r dyn a’r ferch yn y llun?

  2. Beth a wnaeth Abraham er mwyn cael gwraig i’w fab, a pham?

  3. Sut cafodd gweddi gwas Abraham ei hateb?

  4. Beth ddywedodd Rebeca pan ofynnwyd iddi a oedd hi’n fodlon priodi Isaac?

  5. Pam roedd Isaac yn hapus unwaith eto?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 24:1-67.

    1. Sut roedd cymeriad da Rebeca yn amlwg pan wnaeth hi gyfarfod gwas Abraham ger y ffynnon? (Gen. 24:17-20; Diar. 31:17, 31)

    2. Pa esiampl sydd i Gristnogion heddiw yn y ffordd yr aeth Abraham ati i gael gwraig i Isaac? (Gen. 24:37, 38; 1 Cor. 7:39; 2 Cor. 6:14)

    3. Pam mae’n bwysig inni wneud amser i fyfyrio, fel y gwnaeth Isaac? (Gen. 24:63; Salm 77:12; Phil. 4:8)

Stori 17

Jacob ac Esau

  1. Pwy oedd Jacob ac Esau, a sut roedden nhw’n wahanol iawn i’w gilydd?

  2. Faint oedd oed Jacob ac Esau pan fu farw eu taid Abraham?

  3. Pam roedd tad a mam Esau yn teimlo’n drist iawn?

  4. Pam roedd Esau yn dal dig yn erbyn ei frawd, Jacob?

  5. Beth ddywedodd Isaac wrth ei fab Jacob ynglŷn â phriodi?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 25:5-11, 20-34.

    1. Beth broffwydodd Jehofa ynglŷn â dau fab Rebeca? (Gen. 25:23)

    2. Beth oedd y gwahaniaeth rhwng agwedd Jacob ac agwedd Esau tuag at yr enedigaeth-fraint? (Gen. 25:30-34)

  2. Darllenwch Genesis 26:34, 35; 27:1-46; a 28:1-5.

    1. Sut dangosodd Esau nad oedd yn gweld gwerth pethau ysbrydol? (Gen. 26:34, 35; 27:46)

    2. Er mwyn i Jacob dderbyn bendith Duw, beth ddywedodd Isaac wrtho am ei wneud? (Gen. 28:1-4)

  3. Darllenwch Hebreaid 12:16, 17.

    Beth mae hanes Esau yn ei ddangos ynglŷn â’r hyn a all ddigwydd i bobl nad ydyn nhw’n gweld gwerth pethau ysbrydol?

Stori 18

Jacob yn Mynd i Haran

  1. Pwy yw’r ferch yn y llun, a beth wnaeth Jacob i’w helpu hi?

  2. Beth roedd Jacob yn fodlon ei wneud er mwyn cael priodi Rachel?

  3. Beth wnaeth Laban pan ddaeth hi’n amser i Jacob briodi Rachel?

  4. Beth cytunodd Jacob i’w wneud er mwyn cael Rachel yn wraig?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 29:1-30.

    1. Hyd yn oed ar ôl i Laban dwyllo Jacob, sut dangosodd Jacob ei fod yn ddyn da? (Gen. 25:27; 29:26-28)

    2. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl dda Jacob? (Math. 5:37)

    3. Sut mae esiampl Jacob yn dangos y gwahaniaeth rhwng cariad go iawn a gwirioni’n ffôl? (Gen. 29:18, 20, 30; Can. 8:6)

    4. Beth yw enwau’r pedair merch a ddaeth yn rhan o deulu Jacob a chael plant iddo? (Gen. 29:23, 24, 28, 29)

Stori 19

Teulu Mawr Jacob

  1. Beth oedd enwau’r chwe mab a gafodd Jacob o’i wraig gyntaf, Lea?

  2. Beth oedd enwau’r ddau fab a gafodd Jacob o Silpa, morwyn Lea?

  3. Beth oedd enwau’r ddau fab a gafodd Jacob o Bilha, morwyn Rachel?

  4. Beth oedd enwau’r ddau fab a gafodd Rachel, ond beth ddigwyddodd pan gafodd yr ail fab ei eni?

  5. Fel y gwelwn yn y llun, faint o feibion a gafodd Jacob, a phwy oedd eu disgynyddion nhw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 29:32-35; 30:1-26; a 35:16-19.

    Fel y gwelwn yn achos 12 mab Jacob, beth oedd yr arfer o ran enwi bechgyn ymhlith yr Hebreaid gynt?

  2. Darllenwch Genesis 37:35.

    Er mai Dina yn unig sy’n cael ei henwi yn y Beibl, sut rydyn ni’n gwybod bod gan Jacob fwy nag un ferch? (Gen. 37:34, 35)

Stori 20

Dina yn Mynd i Helynt

  1. Pam nad oedd Abraham ac Isaac yn dymuno i’w plant briodi pobl o wlad Canaan?

  2. A oedd Jacob yn hapus o weld Dina’n gwneud ffrindiau â merched Canaan?

  3. Pwy yw’r dyn yn y llun sy’n edrych ar Dina, a pha beth drwg a wnaeth?

  4. Beth wnaeth Simeon a Lefi ar ôl iddyn nhw glywed am yr hyn oedd wedi digwydd i’w chwaer?

  5. Oedd Jacob yn cytuno gyda’r hyn a wnaeth Simeon a Lefi?

  6. Sut dechreuodd yr holl helynt yn y teulu?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 34:1-31.

    1. Pam roedd rhywfaint o gyfrifoldeb ar Dina am yr hyn a ddigwyddodd iddi? (Gal. 6:7)

    2. Sut gall pobl ifanc ddangos eu bod nhw wedi dysgu o esiampl Dina? (Diar. 13:20; 1 Cor. 15:33; 1 Ioan 5:19)

Stori 21

Brodyr Cas Joseff

  1. Pam roedd brodyr Joseff yn genfigennus ohono, a beth wnaethon nhw?

  2. Beth roedd brodyr Joseff eisiau ei wneud iddo, ond beth ddywedodd Reuben?

  3. Beth ddigwyddodd pan ddaeth criw o Ismaeliaid heibio?

  4. Beth wnaeth brodyr Joseff er mwyn gwneud i Jacob gredu bod Joseff wedi marw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 37:1-35.

    1. Sut gall Cristnogion heddiw ddilyn esiampl Joseff drwy roi gwybod am unrhyw ddrwg yn y gynulleidfa? (Gen. 37:2; Lef. 5:1; 1 Cor. 1:11)

    2. Beth arweiniodd i frodyr Joseff wneud rhywbeth mor greulon iddo? (Gen. 37:11, 18; Diar. 27:4; Iago 3:14-16)

    3. Beth a wnaeth Jacob, sydd yn naturiol pan fo rhywun yn galaru? (Gen. 37:35)

Stori 22

Joseff yn y Carchar

  1. Faint oedd oed Joseff pan gafodd ei werthu, a beth ddigwyddodd pan gyrhaeddodd yr Aifft?

  2. Pam cafodd Joseff ei anfon i’r carchar?

  3. Pa gyfrifoldeb gafodd Joseff yn y carchar?

  4. Yn y carchar, beth ddywedodd Joseff wrth drulliad Pharo ac wrth bobydd Pharo?

  5. Beth ddigwyddodd ar ôl i’r trulliad gael ei ryddhau o’r carchar?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 39:1-23.

    Er nad oedd Duw eto wedi rhoi gorchymyn ysgrifenedig yn erbyn godinebu, beth a wnaeth i Joseff ffoi rhag gwraig Potiffar? (Gen. 2:24; 20:3; 39:9)

  2. Darllenwch Genesis 40:1-23.

    1. Disgrifiwch freuddwyd y trulliad a’r dehongliad a gafodd Joseff gan Jehofa. (Gen. 40:9-13)

    2. Beth oedd breuddwyd y pobydd, a beth oedd ystyr y freuddwyd? (Gen. 40:16-19)

    3. Sut mae’r gwas ffyddlon a chall heddiw wedi efelychu agwedd Joseff? (Gen. 40:8; Salm 36:9; Ioan 17:17; Act. 17:2, 3)

    4. Sut mae Genesis 40:20 yn bwrw goleuni ar agwedd y Cristion tuag at ddathlu penblwyddi? (Preg. 7:1; Marc 6:21-28)

Stori 23

Breuddwydion Pharo

  1. Beth ddigwyddodd i Pharo un noson?

  2. Pam roedd y trulliad yn cofio Joseff o’r diwedd?

  3. Fel y gwelir yn y llun, pa ddwy freuddwyd a gafodd Pharo?

  4. Yn ôl Joseff, beth oedd ystyr y breuddwydion?

  5. Sut daeth Joseff i fod y dyn pwysicaf yn yr Aifft ac eithrio Pharo ei hun?

  6. Pam daeth brodyr Joseff i’r Aifft, a pham nad oedden nhw yn ei adnabod?

  7. Pa freuddwyd a gofiodd Joseff, a beth roedd hynny’n ei helpu i’w ddeall?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 41:1-57.

    1. Sut gwnaeth Joseff roi’r clod i Jehofa, a sut gall Cristnogion heddiw ddilyn ei esiampl? (Gen. 41:16, 25, 28; Math. 5:16; 1 Pedr 2:12)

    2. Sut mae’r blynyddoedd o ddigonedd a’r blynyddoedd o newyn yn ddarlun o’r gwahaniaeth rhwng cyflwr ysbrydol pobl Jehofa heddiw a chyflwr ysbrydol eglwysi’r Gwledydd Cred? (Gen. 41:29, 30; Amos 8:11, 12)

  2. Darllenwch Genesis 42:1-8 a 50:20.

    A fyddai’n anghywir i addolwyr Jehofa ymgrymu i rywun er mwyn dangos parch i’w safle, os dyna’r arfer yn y wlad honno? (Gen. 42:6)

Stori 24

Rhoi Prawf ar y Brodyr

  1. Pam gwnaeth Joseff gyhuddo ei frodyr o fod yn ysbïwyr?

  2. Pam gadawodd Jacob i’w fab ieuengaf, Benjamin, fynd i’r Aifft?

  3. Sut daeth cwpan arian Joseff i fod yn sach Benjamin?

  4. Beth a gynigiodd Jwda er mwyn i Benjamin gael ei ryddhau?

  5. Sut roedd brodyr Joseff wedi newid?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 42:9-38.

    Sut mae geiriau Joseff yn Genesis 42:18 yn berthnasol i’r rhai sydd â chyfrifoldebau yng nghyfundrefn Jehofa heddiw? (Neh. 5:15; 2 Cor. 7:1, 2)

  2. Darllenwch Genesis 43:1-34.

    1. Er mai Reuben oedd y cyntaf-anedig, beth sy’n dangos mai Jwda oedd yn cynrychioli ei frodyr? (Gen. 43:3, 8, 9; 44:14, 18; 1 Cron. 5:2)

    2. Sut rhoddodd Joseff brawf arall ar ei frodyr, a pham? (Gen. 43:33, 34)

  3. Darllenwch Genesis 44:1-34.

    1. Beth awgrymodd Joseff amdano ef ei hun fel na fyddai ei frodyr yn ei adnabod? (Gen. 44:5, 15; Lef. 19:26)

    2. Sut dangosodd brodyr Joseff eu bod nhw wedi cael gwared ar deimladau cenfigennus tuag at eu brawd? (Gen. 44:13, 33, 34)

Stori 25

Symud i’r Aifft

  1. Beth ddigwyddodd ar ôl i Joseff ddweud wrth ei frodyr pwy oedd ef?

  2. Beth eglurodd Joseff i’w frodyr?

  3. Beth ddywedodd Pharo ar ôl iddo glywed am frodyr Joseff?

  4. Pa mor fawr oedd teulu Jacob pan symudon nhw i’r Aifft?

  5. Pa enw a roddwyd ar deulu Jacob, a pham?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Genesis 45:1-28.

    Sut mae hanes Joseff yn dangos bod Jehofa yn gallu troi profiadau drwg yn fendith? (Gen. 45:5-8; Esei. 8:10; Phil. 1:12-14)

  2. Darllenwch Genesis 46:1-27.

    Beth ddywedodd Jehofa wrth Jacob i’w gysuro ar y ffordd i’r Aifft? (Gen. 46:1-4)

Stori 26

Ffyddlondeb Job

  1. Pwy oedd Job?

  2. Beth ceisiodd Satan ei wneud, ac a oedd yn llwyddiannus?

  3. Pa ganiatâd gafodd Satan gan Jehofa, a pham?

  4. Pam dywedodd gwraig Job wrtho: ‘Melltithia Dduw a marw’? (Gweler y llun.)

  5. Fel y gwelir yn yr ail lun, sut bendithiodd Jehofa Job, a pham?

  6. Os ydyn ni’n ffyddlon i Jehofa fel yr oedd Job, pa fendithion y gallwn ni eu disgwyl?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Job 1:1-22.

    Sut gall Cristnogion heddiw efelychu Job? (Job 1:1; Phil. 2:15; 2 Pedr 3:14)

  2. Darllenwch Job 2:1-13.

    Beth oedd y gwahaniaeth rhwng ymateb Job i erledigaeth Satan ac ymateb ei wraig? (Job 2:9, 10; Diar. 19:3; Mich. 7:7; Mal. 3:14)

  3. Darllenwch Job 42:10-17.

    1. Sut mae’r wobr a gafodd Job am aros yn ffyddlon i Jehofa yn debyg i’r wobr a gafodd Iesu? (Job 42:12; Phil. 2:9-11)

    2. Sut mae’r bendithion a dderbyniodd Job am aros yn ffyddlon i Dduw yn ein calonogi ni? (Job 42:10, 12; Heb. 6:10; Iago 1:2-4, 12; 5:11)

Stori 27

Brenin Drwg yn yr Aifft

  1. Yn y llun, pwy yw’r dyn â chwip yn ei law, a phwy y mae’n ei chwipio?

  2. Ar ôl i Joseff farw, beth ddigwyddodd i’r Israeliaid?

  3. Pam roedd yr Eifftiaid yn ofni’r Israeliaid?

  4. Pa orchymyn roddodd Pharo i’r bydwragedd a oedd yn helpu gwragedd yr Israeliaid?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 1:6-22.

    1. Sut dechreuodd Jehofa gyflawni ei addewid i Abraham? (Ex. 1:7; Gen. 12:2; Act. 7:17)

    2. Sut dangosodd bydwragedd yr Hebreaid eu bod nhw’n gweld bywyd yn sanctaidd? (Ex. 1:17; Gen. 9:6)

    3. Pa fendithion gafodd y bydwragedd oherwydd eu ffyddlondeb i Jehofa? (Ex. 1:20, 21; Diar. 19:17)

    4. Sut gwnaeth Satan geisio atal pwrpas Jehofa ynglŷn â Had addawedig Abraham? (Ex. 1:22; Math. 2:16)

Stori 28

Babi yn Cael ei Achub

  1. Pwy yw’r babi yn y llun, ac ym mys pwy y mae’n cydio?

  2. Beth wnaeth mam Moses er mwyn ei achub?

  3. Pwy yw’r ferch fach yn y llun, a beth a wnaeth hi?

  4. Pan ddaeth merch Pharo o hyd i’r babi, beth awgrymodd Miriam?

  5. Beth ddywedodd y dywysoges wrth fam Moses?

Cwestiwn ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 2:1-10.

    Pa gyfle gafodd mam Moses i’w hyfforddi a’i ddysgu tra ei fod yn fabi, a sut mae hynny yn esiampl i rieni heddiw? (Ex. 2:9, 10; Deut. 6:6-9; Diar. 22:6; Eff. 6:4; 2 Tim. 3:15)

Stori 29

Moses yn Ffoi

  1. Ble cafodd Moses ei fagu, ond beth roedd yn ei wybod am ei rieni?

  2. Beth wnaeth Moses pan oedd yn 40 mlwydd oed?

  3. Beth ddywedodd Moses wrth un o’r Israeliaid a oedd yn ymladd, a beth oedd ateb y dyn?

  4. Pam gwnaeth Moses ffoi o’r Aifft?

  5. I ba wlad aeth Moses, a pha deulu daeth Moses i’w adnabod yno?

  6. Beth wnaeth Moses yn ystod y 40 mlynedd nesaf?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 2:11-25.

    Er gwaethaf blynyddoedd o addysg yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, sut dangosodd Moses ei fod yn ffyddlon i Jehofa ac i’w bobl? (Ex. 2:11, 12; Heb. 11:24)

  2. Darllenwch Actau 7:22-29.

    Pa wers rydyn ni’n ei dysgu o’r hyn a ddigwyddodd pan aeth Moses ati ar ei liwt ei hun i geisio rhyddhau’r Israeliaid? (Act. 7:23-25; 1 Pedr 5:6, 10)

Stori 30

Perth yn Llosgi

  1. Beth yw enw’r mynydd yn y llun?

  2. Disgrifiwch yr olygfa ryfedd a welodd Moses pan aeth i fynydd Horeb.

  3. Beth ddywedodd y llais yn y berth ar dân, a llais pwy oedd yn siarad?

  4. Beth oedd ymateb Moses pan ddywedodd Duw wrtho y byddai’n arwain Israel allan o’r Aifft?

  5. Beth byddai Moses yn ei ddweud, petai’r bobl yn gofyn pwy a’i hanfonodd?

  6. Sut byddai Moses yn gallu profi mai Duw oedd wedi ei anfon?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 3:1-22.

    Os ydyn ni’n teimlo’n anghymwys, sut mae profiad Moses yn dangos y bydd Jehofa yn ein cef­nogi i wneud ei ewyllys? (Ex. 3:11, 13; 2 Cor. 3:5, 6)

  2. Darllenwch Exodus 4:1-20.

    1. Sut newidiodd agwedd Moses yn ystod y 40 mlynedd y bu’n byw ym Midian, a pha wers sydd yma i’r rhai sy’n rhoi eu bryd ar gyfrifoldebau yn y gynulleidfa? (Ex. 2:11, 12; 4:10, 13; Mich. 6:8; 1 Tim. 3:1, 6, 10)

    2. Hyd yn oed os yw Jehofa yn ein disgyblu trwy ei gyfundrefn, pa obaith mae esiampl Moses yn ei roi inni? (Ex. 4:12-14; Salm 103:14; Heb. 12:4-11)

Stori 31

Gerbron Pharo

  1. Sut roedd gweld gwyrthiau Moses ac Aaron yn effeithio ar yr Israeliaid?

  2. Beth ddywedodd Moses ac Aaron wrth Pharo, a beth oedd ateb Pharo?

  3. Beth ddigwyddodd pan daflodd Aaron ei wialen ar y llawr? (Gweler y llun.)

  4. Sut dysgodd Jehofa wers i Pharo, a beth oedd ymateb Pharo?

  5. Beth ddigwyddodd ar ôl y degfed pla?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 4:27-31 a 5:1-23.

    Beth roedd Pharo yn ei feddwl pan ddywedodd nad oedd yn adnabod Jehofa? (Ex. 5:2; 1 Sam. 2:12; Rhuf. 1:21)

  2. Darllenwch Exodus 6:1-13, 26-30.

    1. Er bod Abraham, Isaac, a Jacob yn gwybod enw Jehofa, beth nad oedden nhw yn ei ddeall ynglŷn ag ystyr yr enw? (Ex. 3:13, 14; 6:3; Gen. 12:8)

    2. Sut rydyn ni’n teimlo o wybod fod Jehofa wedi defnyddio dyn oedd yn meddwl ei fod yn anghymwys? (Ex. 6:12, 30; Luc 21:13-15)

  3. Darllenwch Exodus 7:1-13.

    1. Wrth gyhoeddi barn Jehofa i Pharo, sut roedd Moses ac Aaron yn gosod esiampl i weision Duw heddiw? (Ex. 7:2, 3, 6; Act. 4:29-31)

    2. Sut dangosodd Jehofa ei fod yn rhagori ar dduwiau’r Aifft? (Ex. 7:12; 1 Cron. 29:12)

Stori 32

Y Deg Pla

  1. Gan ddefnyddio’r lluniau, disgrifiwch y tri phla cyntaf a ddaeth ar yr Aifft.

  2. Sut roedd y tri phla cyntaf yn wahanol i’r lleill?

  3. Beth oedd y pedwerydd, y pumed, a’r chweched pla?

  4. Disgrifiwch y seithfed, yr wythfed, a’r nawfed pla.

  5. Beth oedd yn rhaid i’r Israeliaid ei wneud cyn y degfed pla?

  6. Beth oedd y degfed pla, a beth ddigwyddodd ar ôl y pla hwnnw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 7:19–8:23.

    1. Er bod swynwyr yr Aifft yn gallu copïo y ddau bla cyntaf a anfonodd Jehofa, beth roedden nhw’n gorfod ei gyfaddef ar ôl y trydydd pla? (Ex. 8:18, 19; Math. 12:24-28)

    2. Sut dangosodd y pedwerydd pla fod Jehofa yn gallu amddiffyn ei bobl, a sut mae hynny’n calonogi pobl Dduw heddiw sy’n wynebu’r “gorthrymder mawr”? (Ex. 8:22, 23; Dat. 7:13, 14; 2 Cron. 16:9)

  2. Darllenwch Exodus 8:24; 9:3, 6, 10, 11, 14, 16, 23-25; a 10:13-15, 21-23.

    1. Pa ddau grŵp roedd Pharo a’i swynwyr yn eu cynrychioli, a beth na all y ddau grŵp hynny ei wneud heddiw? (Ex. 8:10, 18, 19; 9:14)

    2. Sut mae Exodus 9:16 yn ein helpu ni i ddeall pam nad yw Jehofa wedi cael gwared ar Satan eto? (Rhuf. 9:21, 22)

  3. Darllenwch Exodus 12:21-32.

    Sut cafodd llawer o fywydau eu hachub oherwydd y Pasg cyntaf, ac at beth roedd y Pasg yn cyfeirio? (Ex. 12:21-23; Ioan 1:29; Rhuf. 5:18, 19, 21; 1 Cor. 5:7)

Stori 33

Croesi’r Môr Coch

  1. Faint o ddynion Israel, ynghyd â merched a phlant, a adawodd yr Aifft, a phwy arall aeth gyda nhw?

  2. Sut oedd Pharo yn teimlo ar ôl iddo ganiatáu i’r Israeliaid fynd, a beth a wnaeth?

  3. Beth wnaeth Jehofa er mwyn atal yr Eifftwyr rhag ymosod ar yr Israeliaid?

  4. Beth ddigwyddodd wrth i Moses estyn ei ffon dros y Môr Coch, a beth wnaeth yr Israeliaid?

  5. Beth ddigwyddodd ar ôl i’r Eifftwyr ruthro i mewn i’r môr ar ôl yr Israeliaid?

  6. Sut dangosodd yr Israeliaid eu bod nhw’n hapus ac yn ddiolchgar i Jehofa am eu hachub nhw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 12:33-36.

    Sut gwnaeth Jehofa sicrhau bod ei bobl yn cael eu talu am yr holl flynyddoedd y buon nhw’n gaethweision yn yr Aifft? (Ex. 3:21, 22; 12:35, 36)

  2. Darllenwch Exodus 14:1-31.

    Sut mae geiriau Moses yn Exodus 14:13, 14 yn calonogi gweision Jehofa heddiw wrth iddyn nhw wynebu brwydr Armagedon? (2 Cron. 20:17; Salm 91:8)

  3. Darllenwch Exodus 15:1-8, 20, 21.

    1. Pam mae’n bwysig i weision Jehofa ganu mawl iddo? (Ex. 15:1, 2; Salm 105: 2, 3; Dat. 15:3, 4)

    2. Pa esiampl osododd Miriam a’r merched wrth y Môr Coch i wragedd Cristnogol heddiw ynglŷn â chanu mawl i Jehofa? (Ex. 15:20, 21; Salm 68:11, beibl.net)

Stori 34

Math Newydd o Fwyd

  1. Beth mae’r bobl yn ei godi oddi ar y ddaear, a beth yw ei enw? (Gweler y llun.)

  2. Beth ddywedodd Moses wrth y bobl ynglŷn â chasglu’r manna?

  3. Beth ddywedodd Jehofa wrth y bobl am ei wneud ar y chweched dydd, a pham?

  4. Pa wyrth wnaeth Jehofa pan oedd angen cadw’r manna ar gyfer y seithfed dydd?

  5. Am faint o flynyddoedd roedd Jehofa yn rhoi’r manna i’r bobl?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 16:1-36 a Numeri 11:7-9.

    1. Beth mae Exodus 16:8 yn ei ddangos ynglŷn â’r angen inni barchu’r rhai sydd wedi eu penodi yn y gynulleidfa Gristnogol? (Heb. 13:17)

    2. Yn yr anialwch, sut roedd yr Israeliaid yn cael eu hatgoffa’n ddyddiol eu bod nhw’n dibynnu’n llwyr ar Jehofa? (Ex. 16:14-16, 35; Deut. 8:2, 3)

    3. Yn ôl Iesu, beth oedd ystyr y manna, a sut rydyn ni’n elwa ar y “bara o’r nef”? (Ioan 6:31-35, 40)

  2. Darllenwch Josua 5:10-12.

    1. Am faint o flynyddoedd roedd yr Israeliaid yn bwyta manna, a sut roedd hynny’n brawf arnyn nhw? (Ex. 16:35; Num. 11:4-6)

    2. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn? (1 Cor. 10:10, 11)

Stori 35

Jehofa yn Rhoi’r Gyfraith

  1. Tua deufis ar ôl gadael yr Aifft, ble cododd yr Israeliaid eu gwersyll?

  2. Beth roedd Jehofa yn dymuno i’w bobl ei wneud, a beth oedd eu hateb?

  3. Pam rhoddodd Jehofa ddwy lech o gerrig i Moses?

  4. Heblaw am y Deg Gorchymyn, pa ddeddfau eraill a roddodd Jehofa i’r Israeliaid?

  5. Yn ôl Iesu Grist, pa ddau orchymyn yw’r pwysicaf?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 19:1-25; 20:1-21; 24:12-18; a 31:18.

    Sut mae’r geiriau yn Exodus 19:8 yn ein helpu ni i ddeall gofynion ymgysegriad Cristnogol? (Math. 16:24; 1 Pedr 4:1-3)

  2. Darllenwch Deuteronomium 6:4-6; Lefiticus 19:18; a Mathew 22:36-40.

    Sut mae Cristnogion yn dangos cariad at Dduw ac at eu cymdogion? (Marc 6:34; Act. 4:20; Rhuf. 15:2)

Stori 36

Y Llo Aur

  1. Beth mae’r bobl yn ei wneud a pham? (Gweler y llun.)

  2. Pam roedd Jehofa yn ddig iawn, a beth wnaeth Moses pan welodd beth roedd y bobl yn ei wneud?

  3. Beth ddywedodd Moses wrth rai o’r dynion?

  4. Beth yw gwers y stori hon?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 32:1-35.

    1. Sut mae’r hanes hwn yn dangos beth yw barn Jehofa ar gymysgu gau grefydd â gwir addoliad? (Ex. 32:4-6, 10; 1 Cor. 10:7, 11)

    2. Pam dylai’r Cristion fod yn ofalus wrth ddewis adloniant, megis canu a dawnsio? (Ex. 32:18, 19; Eff. 5:15, 16; 1 Ioan 2:15-17)

    3. Sut roedd llwyth Lefi yn esiampl dda o sefyll yn gadarn dros gyfiawnder? (Ex. 32:25-28; Salm 18:25)

Stori 37

Pabell i Addoli Duw

  1. Beth yw’r adeilad yn y llun, ac ar gyfer beth y mae’n cael ei ddefnyddio?

  2. Pam dywedodd Jehofa wrth Moses am adeiladu pabell a fyddai’n hawdd ei thynnu i lawr?

  3. Beth yw’r gist yn yr ystafell fechan ym mhen draw’r babell, a beth y mae’n ei gynnwys?

  4. Pwy ddewisodd Jehofa i fod yn archoffeiriad, a beth oedd gwaith yr archoffeiriad?

  5. Beth oedd y tri pheth yn ystafell fawr y babell?

  6. Beth oedd yng nghyntedd y tabernacl, ac ar gyfer beth roedd y pethau hyn yn cael eu defnyddio?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Exodus 25:8-40; 26:1-37; 27:1-8; a 28:1.

    Beth roedd y ceriwbiaid ar “arch y dystiolaeth” yn ei gynrychioli? (Ex. 25:20, 22; Num. 7:89; 2 Bren. 19:15)

  2. Darllenwch Exodus 30:1-10, 17-21; 34:1, 2; a Hebreaid 9:1-5.

    1. Pam gofynnodd Jehofa i offeiriaid y tabernacl gadw’n gorfforol lân, a sut dylai hynny ddylanwadu arnon ni heddiw? (Ex. 30:18-21; 40:30, 31; Heb. 10:22)

    2. Yn ei lythyr at y Cristnogion Hebreaidd, sut dangosodd Paul fod y tabernacl a chyfamod y Gyfraith wedi darfod? (Heb. 8:13; 9:1, 9; 10:1)

Stori 38

Y Deuddeg Ysbïwr

  1. Beth sy’n anarferol am y clwstwr o rawnwin yn y llun, ac o le daeth y grawnwin?

  2. Pam anfonodd Moses ddeuddeg o ysbïwyr i wlad Canaan?

  3. Beth ddywedodd deg o’r ysbïwyr wrth Moses?

  4. Sut dangosodd dau o’r ysbïwyr eu bod nhw’n ymddiried yn Jehofa, a beth oedd eu henwau?

  5. Pam roedd Jehofa yn ddig, a beth ddywedodd ef wrth Moses?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Numeri 13:1-33.

    1. Pwy gafodd eu dewis i ysbïo’r wlad, a pha gyfle arbennig oedd ganddyn nhw? (Num. 13:2, 3, 18-20)

    2. Pam roedd ymateb Josua a Caleb yn wahanol iawn i ymateb gweddill yr ysbïwyr, a beth y mae hyn yn ei ddysgu i ni? (Num. 13:28-30; Math. 17:20; 2 Cor. 5:7)

  2. Darllenwch Numeri 14:1-38.

    1. Pa rybudd y dylen ni ei ystyried ynglŷn â grwgnach yn erbyn cynrychiolwyr Jehofa ar y ddaear? (Num. 14:2, 3, 27; Math. 25:40, 45; 1 Cor. 10:10)

    2. Sut mae Numeri 14:24 yn dangos bod gan Jehofa ddiddordeb personol ym mhob un o’i weision? (1 Bren. 19:18; Diar. 15:3)

Stori 39

Ffon Aaron yn Blodeuo

  1. Pwy wrthryfelodd yn erbyn awdurdod Moses ac Aaron, a beth ddywedon nhw wrth Moses?

  2. Beth ddywedodd Moses wrth Cora a’i ddilynwyr?

  3. Beth ddywedodd Moses wrth y bobl, a beth ddigwyddodd ar ôl iddo orffen siarad?

  4. Beth ddigwyddodd i Cora a’i ddilynwyr?

  5. Beth wnaeth Eleasar, mab Aaron, â thuserau’r rhai a fu farw, a pham?

  6. Pam achosodd Jehofa i ffon Aaron flodeuo? (Gweler y llun.)

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Numeri 16:1-49.

    1. Beth wnaeth Cora a’i ddilynwyr, a pham mai gwrthryfel yn erbyn Jehofa oedd hyn? (Num. 16:9, 10, 18; Lef. 10:1, 2; Diar. 11:2)

    2. Pa agwedd anghywir a ddatblygodd yng nghalonnau Cora a 250 o ‘benaethiaid ac arweinwyr y cynulliad’? (Num. 16:1-3; Diar. 15:33; Esei. 49:7)

  2. Darllenwch Numeri 17:1-11 a 26:10.

    1. Pan flodeuodd ffon Aaron, beth roedd hynny yn ei ddangos, a pham dywedodd Jehofa y dylid ei chadw yn yr arch? (Num. 17:5, 8, 10; Heb. 9:4)

    2. Pa wers bwysig medrwn ni ei dysgu o ffon Aaron yn blodeuo? (Num. 17:10; Act. 20:28; Phil. 2:14; Heb. 13:17)

Stori 40

Moses yn Taro’r Graig

  1. Sut roedd Jehofa yn gofalu am yr Israeliaid yn yr anialwch?

  2. Am beth roedd yr Israeliaid yn cwyno yn Cades?

  3. Sut rhoddodd Jehofa ddŵr i’r bobl a’u hanifeiliaid?

  4. Yn y llun, pwy yw’r dyn sy’n tynnu sylw at ei hun, a pham mae’n gwneud hynny?

  5. Pam roedd Jehofa yn ddig wrth Moses ac Aaron, a sut cawson nhw eu cosbi?

  6. Beth ddigwyddodd ar Fynydd Hor, a phwy oedd archoffeiriad nesaf Israel?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Numeri 20:1-13, 22-29 a Deuteronomium 29:5.

    1. Beth medrwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Jehofa yn gofalu am ei bobl yn yr anialwch? (Deut. 29:5; Math. 6:31; Heb. 13:5; Iago 1:17)

    2. Beth oedd ymateb Jehofa pan fethodd Moses ac Aaron ei sancteiddio o flaen pobl Israel? (Num. 20:12; 1 Cor. 10:12; Dat. 4:11)

    3. Beth gallwn ni ei ddysgu o ymateb Moses i ddisgyblaeth Jehofa? (Num. 12:3; 20:12, 27, 28; Deut. 32:4; Heb. 12:7-11)

Stori 41

Y Sarff Bres

  1. Yn y llun, beth mae Moses wedi ei roi ar y polyn, a pham dywedodd Jehofa wrtho am wneud hyn?

  2. Sut dangosodd y bobl nad oedden nhw’n ddiolchgar am yr holl bethau roedd Duw wedi eu gwneud drostyn nhw?

  3. Beth gofynnodd y bobl i Moses ei wneud ar ôl i Jehofa anfon nadroedd gwenwynig i’w cosbi?

  4. Pam dywedodd Jehofa wrth Moses am wneud y sarff bres?

  5. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r stori hon?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Numeri 21:4-9.

    1. Sut mae agwedd anniolchgar yr Israeliaid tuag at ddarpariaethau Jehofa yn rhybudd i ni? (Num. 21:5, 6; Rhuf. 2:4)

    2. Yn ystod y canrifoedd wedyn, sut roedd yr Israeliaid yn defnyddio’r sarff bres, a beth wnaeth y Brenin Heseceia? (Num. 21:9; 2 Bren. 18:1-4)

  2. Darllenwch Ioan 3:14, 15.

    Ym mha ffordd roedd y sarff bres ar y polyn yn creu darlun o’r ffordd y byddai Iesu’n marw? (Gal. 3:13; 1 Pedr 2:24)

Stori 42

Asen Sy’n Siarad

  1. Pwy oedd Balac, a pham anfonodd am Balaam?

  2. Pam gorweddodd asen Balaam i lawr ar y ffordd?

  3. Beth ddywedodd yr asen wrth Balaam?

  4. Beth ddywedodd angel wrth Balaam?

  5. Beth ddigwyddodd pan geisiodd Balaam felltithio Israel?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Numeri 21:21-35.

    Pam gwnaeth Israel orchfygu Sihon, brenin yr Amoriaid, ac Og, brenin Basan? (Num. 21:21, 23, 33, 34)

  2. Darllenwch Numeri 22:1-40.

    Pam roedd Balaam eisiau melltithio Israel, a pha wers sydd yma i ni? (Num. 22:16, 17; Diar. 6:16, 18; 2 Pedr 2:15; Jwd. 11)

  3. Darllenwch Numeri 23:1-30.

    Er bod Balaam yn siarad fel petai’n addoli Jehofa, sut roedd ei weithredoedd yn dangos yn wahanol? (Num. 23:3, 11-14; 1 Sam. 15:22)

  4. Darllenwch Numeri 24:1-25.

    Sut mae’r hanes hwn yn cryfhau ein ffydd y bydd bwriad Jehofa yn cael ei wireddu? (Num. 24:10; Esei. 54:17)

Stori 43

Arweinydd Newydd

  1. Yn y llun, pwy yw’r ddau ddyn sy’n sefyll wrth ymyl Moses?

  2. Beth ddywedodd Jehofa wrth Josua?

  3. Pam dringodd Moses i gopa Mynydd Nebo, a beth ddywedodd Jehofa wrtho?

  4. Faint oedd oed Moses pan fu farw?

  5. Pam roedd y bobl yn drist, ond pa reswm oedd ganddyn nhw i fod yn hapus?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Numeri 27:12-23.

    Pa gyfrifoldeb roddodd Jehofa i Josua, a sut mae Jehofa yn gofalu am ei bobl heddiw? (Num. 27:15-19; Act. 20:28; Heb. 13:7)

  2. Darllenwch Deuteronomium 3:23-29.

    Pam nad oedd Moses ac Aaron yn cael mynd i mewn i Wlad yr Addewid, a beth mae hyn yn ei ddysgu i ni? (Deut. 3:25-27; Num. 20:12, 13)

  3. Darllenwch Deuteronomium 31:1-8, 14-23.

    Sut mae geiriau olaf Moses i Israel yn dangos ei fod wedi derbyn disgyblaeth Jehofa yn ostyngedig? (Deut. 31:6-8, 23)

  4. Darllenwch Deuteronomium 32:45-52.

    Sut dylai Gair Duw effeithio ar ein bywydau? (Deut. 32:47; Lef. 18:5; Heb. 4:12)

  5. Darllenwch Deuteronomium 34:1-12.

    Er na welodd Moses erioed Jehofa yn llythrennol, beth mae Deuteronomium 34:10 yn ei ddangos am ei berthynas â Jehofa? (Ex. 33:11, 20; Num. 12:8)

Stori 44

Cuddio Ysbïwyr

  1. Ble roedd Rahab yn byw?

  2. Pwy yw’r ddau ddyn yn y llun, a pham roedden nhw yn Jericho?

  3. Beth gorchmynnodd brenin Jericho i Rahab ei wneud, a beth oedd ei hateb?

  4. Sut gwnaeth Rahab helpu’r ddau ddyn, a pha gymwynas ofynnodd hi ganddyn nhw?

  5. Pa addewid roddodd y ddau ysbïwr i Rahab?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Josua 2:1-24.

    Pan aeth yr Israeliaid yn erbyn Jericho, sut cafodd geiriau Exodus 23:27 eu cyflawni? (Jos. 2:9-11)

  2. Darllenwch Hebreaid 11:31.

    Sut mae esiampl Rahab yn dangos pa mor bwysig yw ffydd? (Rhuf. 1:17; Heb. 10:39; Iago 2:25)

Stori 45

Croesi’r Iorddonen

  1. Pa wyrth a wnaeth Jehofa er mwyn i’r Israeliaid groesi’r Iorddonen?

  2. Sut roedd yn rhaid i’r Israeliaid ddangos eu ffydd cyn iddyn nhw fedru croesi’r Iorddonen?

  3. Pam dywedodd Jehofa wrth Josua am godi deuddeg carreg o’r afon?

  4. Beth ddigwyddodd cyn gynted ag y daeth yr offeiriaid allan o’r Iorddonen?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Josua 3:1-17.

    1. Fel mae’r hanes hwn yn ei ddangos, beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn derbyn cymorth a bendith Jehofa? (Jos. 3:13, 15; Diar. 3:5; Iago 2:22, 26)

    2. Beth oedd cyflwr yr Iorddonen pan groesodd yr Israeliaid i Wlad yr Addewid, a sut daeth hynny â chlod i enw Jehofa? (Jos. 3:15; 4:18; Salm 66:5-7)

  2. Darllenwch Josua 4:1-18.

    Beth oedd pwrpas y deuddeg carreg a gafodd eu cymryd o’r Iorddonen a’u codi’n bentwr yn Gilgal? (Jos. 4:4-7, 19-24)

Stori 46

Muriau Jericho

  1. Beth ddywedodd Jehofa y dylai’r fyddin a’r offeiriaid ei wneud am chwe diwrnod?

  2. Beth roedd y dynion i’w wneud ar y seithfed dydd?

  3. Fel y gwelwch yn y llun, beth sy’n digwydd i furiau Jericho?

  4. Pam y mae edau goch yn hongian o’r ffenestr?

  5. Beth ddywedodd Josua wrth y milwyr am ei wneud i’r bobl ac i’r ddinas, ond beth am yr arian, yr aur, y pres, a’r haearn?

  6. Beth roedd rhaid i’r ddau ysbïwr ei wneud?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Josua 6:1-25.

    1. Sut mae gorymdaith yr Israeliaid o amgylch Jericho ar y seithfed dydd yn debyg i waith pregethu Tystion Jehofa yn ystod y dyddiau diwethaf? (Jos. 6:15, 16; Esei. 60:22; Math. 24:14; 1 Cor. 9:16)

    2. Sut cafodd y broffwydoliaeth yn Josua 6:26 ei chyflawni ryw 500 mlynedd yn ddiweddarach, a beth mae hynny’n ei ddysgu i ni am air Jehofa? (1 Bren. 16:34; Esei. 55:11)

Stori 47

Lleidr yn Israel

  1. Yn y llun, pwy yw’r dyn sy’n claddu’r pethau gwerthfawr o Jericho, a phwy yw’r bobl eraill sy’n ei helpu?

  2. Pam roedd yr hyn a wnaeth Achan a’i deulu mor ddrwg?

  3. Beth oedd ateb Jehofa i gwestiwn Josua am y rheswm i’r Israeliaid gael eu trechu ym mrwydr Ai?

  4. Ar ôl i Achan a’i deulu ddod o flaen Josua, beth ddigwyddodd iddyn nhw?

  5. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hyn a ddigwyddodd i Achan?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Josua 7:1-26.

    1. Beth mae gweddïau Josua yn ei ddangos am ei berthynas â Jehofa? (Jos. 7:7-9; Salm 119:145; 1 Ioan 5:14)

    2. Beth mae esiampl Achan yn ei ddangos, a sut mae hyn yn rhybudd i ni? (Jos. 7:11, 14, 15; Diar. 15:3; 1 Tim. 5:24; Heb. 4:13)

  2. Darllenwch Josua 8:1-29.

    Pa gyfrifoldeb ynglŷn â’r gynulleidfa sydd gan bob un ohonon ni heddiw? (Jos. 7:13; Lef. 5:1; Diar. 28:13)

Stori 48

Trigolion Doeth Gibeon

  1. Sut roedd pobl Gibeon yn wahanol i bobl y dinasoedd gerllaw?

  2. Beth wnaeth pobl Gibeon a pham? (Gweler y llun.)

  3. Pa gytundeb a wnaeth Josua ac arweinwyr Israel â phobl Gibeon, ond beth ddaeth i’r golwg dri diwrnod yn ddiweddarach?

  4. Beth ddigwyddodd pan glywodd brenhinoedd o ddinasoedd eraill fod pobl Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Josua 9:1-27.

    1. Gan fod Jehofa wedi gorchymyn cenedl Israel i ‘ddistrywio holl drigolion’ y wlad, pa rinweddau Jehofa a welwn ar waith wrth iddo arbed bywydau pobl Gibeon? (Jos. 9:22, 24; Math. 9:13; Act. 10:34, 35; 2 Pedr 3:9)

    2. Trwy gadw at y cyfamod a wnaeth gyda phobl Gibeon, sut mae Josua yn esiampl dda i Gristnogion heddiw? (Jos. 9:18, 19; Math. 5:37; Eff. 4:25)

  2. Darllenwch Josua 10:1-5.

    Sut mae’r dyrfa fawr heddiw yn efelychu pobl Gibeon, ac o ganlyniad i hynny, beth y maen nhw’n ei wynebu? (Jos. 10:4; Sech. 8:23; Math. 25:35-40; Dat. 12:17)

Stori 49

Achub Pobl Gibeon

  1. Yn y llun, beth mae Josua yn ei ddweud, a pham?

  2. Sut gwnaeth Jehofa helpu Josua a’i filwyr?

  3. Faint o frenhinoedd wnaeth Josua eu trechu, a faint o flynyddoedd gymerodd hynny?

  4. Pam gwnaeth Josua rannu tir Canaan?

  5. Faint oedd oedran Josua pan fu farw, a beth ddigwyddodd i’r bobl wedyn?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Josua 10:6-15.

    Pa hyder sydd gennyn ni heddiw o wybod bod Jehofa yn gallu gwneud i’r haul a’r lleuad aros yn llonydd? (Jos. 10:8, 10, 12, 13; Salm 18:3; Diar. 18:10)

  2. Darllenwch Josua 12:7-24.

    Pwy ddylai gael y clod am drechu 31 o frenhinoedd yng ngwlad Canaan, a pham mae hyn yn bwysig inni heddiw? (Jos. 12:7; 24:11-13; Deut. 31:8; Luc 21:9, 25-28)

  3. Darllenwch Josua 14:1-5.

    Sut cafodd y tir ei rannu rhwng llwythau Israel, a beth mae hyn yn ei awgrymu am ein hetifeddiaeth yn y Baradwys? (Jos. 14:2; Esei. 65:21; Esec. 47:21-23; 1 Cor. 14:33)

  4. Darllenwch Barnwyr 2:8-13.

    Yn debyg i Josua yn Israel, dylanwad pwy sy’n atal gwrthgiliad heddiw? (Barn. 2:8, 10, 11; Math. 24:45-47; 2 Thes. 2:3-6; Titus 1:7-9; Dat. 1:1; 2:1, 2)

Stori 50

Dwy Ddynes Ddewr

  1. Pwy oedd y barnwyr, a beth oedd enwau rhai ohonyn nhw?

  2. Pa fraint arbennig gafodd Debora, a beth roedd hynny’n ei olygu?

  3. Pa neges oddi wrth Jehofa a roddodd Debora i Barac pan ddaeth y Brenin Jabin a’i gadfridog, Sisera, i ymosod ar Israel?

  4. Yn ôl Debora, pwy fyddai’n cael y clod am y fuddugoliaeth?

  5. Sut dangosodd Jael ei bod hi’n ddynes ddewr?

  6. Beth ddigwyddodd ar ôl i’r Brenin Jabin farw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Barnwyr 2:14-22.

    Sut gwnaeth yr Israeliaid ennyn dicter Jehofa, a beth mae hyn yn ei ddysgu i ni? (Barn. 2:20; Diar. 3:1, 2; Esec. 18:21-23)

  2. Darllenwch Barnwyr 4:1-24.

    Beth mae esiamplau Debora a Jael yn ei ddysgu i wragedd Cristnogol ynglŷn â ffydd a dewrder? (Barn. 4:4, 8, 9, 14, 21, 22; Diar. 31:30; 1 Cor. 16:13)

  3. Darllenwch Barnwyr 5:1-31.

    Sut mae geiriau cân buddugoliaeth Barac a Debora hefyd yn berthnasol ar gyfer gweddi ynglŷn ag Armagedon? (Barn. 5:3, 31; 1 Cron. 16:8-10; Dat. 7:9, 10; 16:16; 19:19-21)

Stori 51

Ruth a Naomi

  1. Pam roedd Naomi wedi mynd i wlad Moab?

  2. Pwy oedd Ruth ac Orpa?

  3. Beth oedd ymateb Ruth ac Orpa pan ddywedodd Naomi wrthyn nhw am fynd yn ôl at eu pobl?

  4. Pwy oedd Boas, a sut gwnaeth Boas helpu Ruth a Naomi?

  5. Beth oedd enw mab Boas a Ruth, a pham y dylen ni ei gofio?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Ruth 1:1-17.

    1. Pa eiriau hyfryd defnyddiodd Ruth i fynegi ei chariad tuag at Naomi? (Ruth 1:16, 17)

    2. Sut mae agwedd y ‘defaid eraill’ tuag at yr eneiniog ar y ddaear heddiw yn debyg i agwedd Ruth? (Ioan 10:16; Sech. 8:23)

  2. Darllenwch Ruth 2:1-23.

    Sut mae Ruth yn esiampl dda i ferched heddiw? (Ruth 2:17, 18; Diar. 23:22; 31:15)

  3. Darllenwch Ruth 3:5-13.

    1. Beth roedd Boas yn ei feddwl am y ffaith fod Ruth yn barod i’w briodi ef yn hytrach na phriodi dyn ifanc?

    2. Beth mae agwedd Ruth yn ei ddysgu inni am gariad? (Ruth 3:10; 1 Cor. 13:4, 5)

  4. Darllenwch Ruth 4:7-17.

    Sut gall dynion Cristnogol ddilyn esiampl Boas heddiw? (Ruth 4:9, 10; 1 Tim. 3:1, 12, 13; 5:8)

Stori 52

Gideon a’i Fyddin Fechan

  1. Pam roedd yr Israeliaid mewn cymaint o helynt?

  2. Pam dywedodd Jehofa wrth Gideon fod gormod o ddynion yn ei fyddin?

  3. Faint o filwyr oedd gan Gideon ar ôl iddo anfon y dynion ofnus adref?

  4. Sut gwnaeth Jehofa leihau byddin Gideon i 300 o ddynion? (Gweler y llun.)

  5. Sut trefnodd Gideon y 300 o ddynion, a sut enillodd Israel y frwydr?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Barnwyr 6:36-40.

    1. Sut sicrhaodd Gideon ei fod yn dilyn ewyllys Duw?

    2. Sut rydyn ni’n canfod beth yw ewyllys Jehofa heddiw? (Diar. 2:3-6; Math. 7:7-11; 2 Tim. 3:16, 17)

  2. Darllenwch Barnwyr 7:1-25.

    1. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r dynion gwyliadwrus, o’u cymharu â’r rhai esgeulus? (Barn. 7:3, 6; Rhuf. 13:11, 12; Eff. 5:15-17)

    2. Fel roedd y 300 yn dysgu drwy wylio Gideon, sut rydyn ni’n dysgu drwy wylio Iesu, y Gideon Mwyaf? (Barn. 7:17; Math. 11:29, 30; 28:19, 20; 1 Pedr 2:21)

    3. Sut mae Barnwyr 7:21 yn ein helpu ni i fod yn hapus ble bynnag rydyn ni’n gwasanaethu Jehofa? (1 Cor. 4:2; 12:14-18; Iago 4:10)

  3. Darllenwch Barnwyr 8:1-3.

    Wrth geisio datrys anghydfod gyda brawd neu chwaer, beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd y gwnaeth Gideon ddatrys yr anghydfod â phobl Effraim? (Diar. 15:1; Math. 5:23, 24; Luc 9:48)

Stori 53

Addewid Jefftha

  1. Pwy oedd Jefftha, a beth oedd yn digwydd yn ei oes ef?

  2. Beth addawodd Jefftha i Jehofa?

  3. Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid a chyrraedd adref, pam roedd Jefftha yn drist?

  4. Beth ddywedodd merch Jefftha pan glywodd hi am addewid ei thad?

  5. Pam roedd y bobl yn caru merch Jefftha?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Barnwyr 10:6-18.

    Sut mae hanes anffyddlondeb Israel yn rhybudd i ni? (Barn. 10:6, 15, 16; Rhuf. 15:4; Dat. 2:10)

  2. Darllenwch Barnwyr 11:1-11, 29-40.

    1. Er bod y Beibl yn dweud bod Jefftha wedi cynnig ei ferch “yn boethoffrwm,” sut rydyn ni’n gwybod na chafodd ei llosgi’n aberth dynol? (Barn. 11:31; Lef. 16:24; Deut. 18:10, 12)

    2. Ym mha ffordd y gwnaeth Jefftha offrymu ei ferch yn aberth?

    3. Beth gallwn ni ei ddysgu o agwedd Jefftha tuag at ei addewid i Jehofa? (Barn. 11:35, 39; Preg. 5:4, 5; Math. 16:24)

    4. Sut mae merch Jefftha yn esiampl dda i Gristnogion ifanc sy’n dymuno gwasanaethu Jehofa yn llawn amser? (Barn. 11:36; Math. 6:33; Phil. 3:8)

Stori 54

Y Dyn Cryfaf Erioed

  1. Beth yw enw’r dyn cryfaf erioed, a phwy roddodd y nerth iddo?

  2. Beth wnaeth Samson i lew mawr? (Gweler y llun.)

  3. Yn y llun, pa gyfrinach y mae Samson yn ei rhannu â Delila, a sut gwnaeth hynny arwain iddo gael ei ddal gan y Philistiaid?

  4. Ar ddiwrnod ei farwolaeth, sut gwnaeth Samson ladd 3,000 o Philistiaid?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Barnwyr 13:1-14.

    Sut mae Manoa a’i wraig yn esiampl dda i rieni sy’n magu plant? (Barn. 13:8; Salm 127:3; Eff. 6:4)

  2. Darllenwch Barnwyr 14:5-9 ac 15:9-16.

    1. Beth mae’r hanesion am nerth aruthrol Samson yn ei ddangos am y ffordd y mae ysbryd glân Jehofa yn gweithio?

    2. Sut mae’r ysbryd glân yn ein helpu ni heddiw? (Barn. 14:6; 15:14; Sech. 4:6; Act. 4:31)

  3. Darllenwch Barnwyr 16:18-31.

    Sut roedd cwmni drwg yn effeithio ar Samson, a beth mae hyn yn ei ddysgu i ni? (Barn. 16:18, 19; 1 Cor. 15:33)

Stori 55

Samuel yn Was i Dduw

  1. Beth yw enw’r bachgen yn y llun, a phwy yw’r bobl eraill?

  2. Un diwrnod, beth ddywedodd Hanna mewn gweddi i Jehofa tra oedd hi’n ymweld â’r tabernacl, a sut gwnaeth Jehofa ei hateb hi?

  3. Faint oedd oed Samuel pan aeth i wasanaethu ym mhabell Jehofa, a beth roedd ei fam yn ei roi iddo bob blwyddyn?

  4. Beth oedd enwau meibion Eli, a pha fath o ddynion oedden nhw?

  5. Sut galwodd Jehofa ar Samuel, a pha neges roddodd Jehofa iddo?

  6. Beth a wnaeth Samuel ar ôl iddo dyfu, a beth ddigwyddodd pan aeth yn hen?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Samuel 1:1-28.

    1. Sut mae Elcana yn esiampl dda i bob penteulu o ran trefnu i’r teulu addoli Jehofa? (1 Sam. 1:3, 21; Math. 6:33; Phil. 1:10)

    2. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Hanna wrth iddi ymdrin â phroblem a achosodd benbleth fawr iddi? (1 Sam. 1:10, 11; Salm 55:22; Rhuf. 12:12)

  2. Darllenwch 1 Samuel 2:11-36.

    Sut dangosodd Eli fod ganddo fwy o barch at ei feibion nag at Jehofa, a sut mae hyn yn rhybudd i ni? (1 Sam. 2:22-24, 27, 29; Deut. 21:18-21; Math. 10:36, 37)

  3. Darllenwch 1 Samuel 4:16-18.

    Pa newyddion drwg a ddaeth o faes y gad, a sut effeithiodd hyn ar Eli?

  4. Darllenwch 1 Samuel 8:4-9.

    Sut pechodd Israel yn erbyn Jehofa, a sut medrwn ni gefnogi ei Deyrnas heddiw? (1 Sam. 8:5, 7; Ioan 17:16; Iago 4:4)

Stori 56

Brenin Cyntaf Israel

  1. Beth mae Samuel yn ei wneud yn y llun, a pham?

  2. Pam roedd Jehofa yn hoff iawn o Saul, a sut ddyn oedd Saul?

  3. Beth oedd enw mab Saul, a beth a wnaeth?

  4. Pam penderfynodd Saul wneud yr offrwm yn hytrach nag aros i Samuel ei wneud?

  5. Beth gallwn ni ei ddysgu o hanes Saul?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Samuel 9:15-21 a 10:17-27.

    Sut roedd agwedd ostyngedig Saul yn ei helpu i beidio ag ymateb yn fyrbwyll pan ddywedodd rhai dynion bethau amharchus amdano? (1 Sam. 9:21; 10:21, 22, 27; Diar. 17:27)

  2. Darllenwch 1 Samuel 13:5-14.

    Beth oedd pechod Saul yn Gilgal? (1 Sam. 10:8; 13:8, 9, 13)

  3. Darllenwch 1 Samuel 15:1-35.

    1. Beth oedd pechod difrifol Saul ynglŷn ag Agag, brenin Amalec? (1 Sam. 15:2, 3, 8, 9, 22)

    2. Sut ceisiodd Saul gyfiawnhau’r hyn a wnaeth a rhoi’r bai ar bobl eraill? (1 Sam. 15:24)

    3. Beth y dylen ni ei gofio os yw rhywun yn rhoi cyngor inni? (1 Sam. 15:19-21; Salm 141:5; Diar. 9:8, 9; 11:2)

Stori 57

Duw yn Dewis Dafydd

  1. Beth yw enw’r bachgen yn y llun, a sut rydyn ni’n gwybod ei fod yn ddewr?

  2. Ble roedd Dafydd yn byw, a beth oedd enw ei dad a’i daid?

  3. Pam dywedodd Jehofa wrth Samuel am fynd i dŷ Jesse ym Methlehem?

  4. Beth ddigwyddodd pan ddaeth Jesse â saith o’i feibion a’u cyflwyno i Samuel?

  5. Beth ddywedodd Jehofa wrth Samuel pan ddaeth Dafydd i mewn?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Samuel 17:34, 35.

    Sut mae’r digwyddiadau hyn yn dangos bod Dafydd yn ddewr, a’i fod yn dibynnu ar Jehofa? (1 Sam. 17:37)

  2. Darllenwch 1 Samuel 16:1-14.

    1. Sut mae geiriau Jehofa yn 1 Samuel 16:7 yn ein helpu ni i beidio â dangos ffafriaeth ac i beidio â barnu rhywun ar yr olwg gyntaf? (Act 10:34, 35; 1 Tim. 2:4)

    2. Sut mae hanes Saul yn dangos y gall ysbryd drwg, sef awydd i wneud drwg, lenwi’r bwlch pan fydd Jehofa yn cymryd ei ysbryd glân oddi ar rywun? (1 Sam. 16:14; Math. 12:43-45; Gal. 5:16)

Stori 58

David and Goliath

  1. Sut gwnaeth Goliath herio byddin Israel?

  2. Pa mor dal oedd Goliath, a pha wobr addawodd y Brenin Saul i unrhyw ddyn oedd yn medru lladd Goliath?

  3. Beth oedd ateb Dafydd pan ddywedodd Saul wrtho ei fod yn rhy ifanc i ymladd yn erbyn Goliath?

  4. Wrth ateb Goliath, sut dangosodd Dafydd ei fod yn ymddiried yn llwyr yn Jehofa?

  5. Fel y gweli di yn y llun, beth ddefnyddiodd Dafydd i ladd Goliath, a beth ddigwyddodd i’r Philistiaid ar ôl hynny?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Samuel 17:1-54.

    1. Pam roedd Dafydd yn gallu bod mor ddewr, a sut medrwn ni efelychu ei esiampl? (1 Sam. 17:37, 45; Eff. 6:10, 11)

    2. Wrth chwarae gemau, pam na fyddai Cristnogion eisiau bod fel Goliath a dangos agwedd gystadleuol? (1 Sam. 17:8; Gal. 5:26; 1 Tim. 4:8)

    3. Sut mae geiriau Dafydd yn dangos bod ganddo ffydd yng ngallu Duw i fod yn gefn iddo? (1 Sam. 17:45-47; 2 Cron. 20:15)

    4. Sut mae’r hanes hwn yn dangos mai brwydr rhwng gau dduwiau a’r gwir Dduw Jehofa oedd hon mewn gwirionedd? (1 Sam. 17:43, 46, 47)

    5. Sut mae Cristnogion eneiniog yn efelychu esiampl Dafydd drwy ymddiried yn llwyr yn Jehofa? (1 Sam. 17:37; Jer. 1:17-19; Dat. 12:17)

Stori 59

Dafydd yn Gorfod Ffoi

  1. Pam roedd Saul yn genfigennus o Dafydd, ond sut roedd mab Saul, Jonathan, yn wahanol?

  2. Beth ddigwyddodd un diwrnod pan oedd Dafydd yn canu’r delyn i Saul?

  3. Beth ddywedodd Saul y byddai’n rhaid i Dafydd ei wneud cyn priodi ei ferch Michal, a pham dywedodd Saul hynny?

  4. Tra oedd Dafydd yn canu’r delyn i Saul, beth ddigwyddodd am y trydydd tro? (Gweler y llun.)

  5. Sut achubodd Michal fywyd Dafydd, a beth roedd yn rhaid i Dafydd ei wneud am saith mlynedd?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Samuel 18:1-30.

    1. Sut roedd cariad Jonathan tuag at Dafydd yn ddarlun o gariad y ‘defaid eraill’ tuag at y ‘praidd bychan’? (1 Sam. 18:1; Ioan 10:16; Luc 12:32; Sech. 8:23)

    2. O gofio’r ffaith y gallai Jonathan fod wedi etifeddu’r orsedd, sut mae 1 Samuel 18:4 yn dangos agwedd ostyngedig Jonathan tuag at yr un a ddewisodd Jehofa i fod yn frenin?

    3. Sut mae esiampl Saul yn dangos bod cenfigen yn gallu arwain at bechod difrifol, a beth yw’r wers i ni? (1 Sam. 18:7-9, 25; Iago 3:14-16)

  2. Darllenwch 1 Samuel 19:1-17.

    Sut rhoddodd Jonathan ei fywyd yn y fantol pan aeth i weld Saul a siarad o blaid Dafydd? (1 Sam. 19:1, 4-6; Diar. 16:14)

Stori 60

Abigail a Dafydd

  1. Beth yw enw’r ferch yn y llun sy’n dod i gyfarfod Dafydd, a sut un yw hi?

  2. Pwy yw Nabal?

  3. Pam anfonodd Dafydd rai o’i ddynion at Nabal i ofyn am gymwynas?

  4. Beth ddywedodd Nabal wrth ddynion Dafydd, a beth oedd ymateb Dafydd?

  5. Sut dangosodd Abigail ei bod hi’n ferch gall iawn?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Samuel 22:1-4.

    Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl teulu Dafydd am y ffordd y dylen ni gefnogi ein brodyr a’n chwiorydd Cristnogol? (Diar. 17:17; 1 Thes. 5:14)

  2. Darllenwch 1 Samuel 25:1-43.

    1. Pam mae’r Beibl yn defnyddio geiriau dirmygus i ddisgrifio Nabal? (1 Sam. 25:2-5, 10, 14, 21, 25)

    2. Beth gall gwragedd Cristnogol heddiw ei ddysgu o esiampl Abigail? (1 Sam. 25:32, 33; Diar. 31:26; Eff. 5:24)

    3. Pa ddau beth drwg y llwyddodd Abigail i rwystro Dafydd rhag eu gwneud? (1 Sam. 25:31, 33; Rhuf. 12:19; Eff. 4:26)

    4. Sut mae ymateb Dafydd i eiriau Abigail yn helpu dynion heddiw i efelychu agwedd Duw tuag at ferched? (Act. 21:8, 9; Rhuf. 2:11; 1 Pedr 3:7)

Stori 61

Dafydd yn Frenin

  1. Beth wnaeth Dafydd ac Abisai tra bo Saul yn cysgu yn ei wersyll?

  2. Pa gwestiynau ofynnodd Dafydd i Saul?

  3. Ble aeth Dafydd ar ôl gadael Saul?

  4. Pam gwnaeth Dafydd gyfansoddi cân drist?

  5. Faint oedd oed Dafydd pan gafodd ei gyhoeddi’n frenin yn Hebron, a beth oedd enwau rhai o’i feibion?

  6. Yn nes ymlaen, o ble roedd Dafydd yn teyrnasu?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Samuel 26:1-25.

    1. Sut mae geiriau Dafydd yn 1 Samuel 26:11 yn dangos ei agwedd tuag at drefn theocrataidd? (Salm 37:7; Rhuf. 13:2)

    2. Sut mae geiriau Dafydd yn 1 Samuel 26:23 yn ein helpu ni i ymdrin â phobl sy’n ymateb yn gas? (1 Bren. 8:32; Salm 18:20)

  2. Darllenwch 2 Samuel 1:26.

    Sut gall Cristnogion heddiw feithrin yr un fath o gariad ag a fu rhwng Dafydd a Jonathan? (1 Pedr 4:8; Col. 3:14; 1 Ioan 4:12)

  3. Darllenwch 2 Samuel 5:1-10.

    1. Am faint o flynyddoedd teyrnasodd Dafydd, a sut cafodd yr amser hwnnw ei rannu? (2 Sam. 5:4, 5)

    2. Pam roedd Dafydd yn frenin mor llwyddiannus, a beth mae hynny’n ei ddysgu i ni? (2 Sam. 5:10; 1 Sam. 16:13; 1 Cor. 1:31; Phil. 4:13)

Stori 62

Helynt yn Nheulu Dafydd

  1. Gyda chymorth Jehofa, beth ddigwyddodd yn y pen draw i wlad Canaan?

  2. Beth ddigwyddodd un noson pan oedd Dafydd yn cerdded ar do’r palas?

  3. Pam roedd Jehofa yn ddig iawn tuag at Dafydd?

  4. Yn y llun, pwy gafodd ei anfon gan Jehofa i ddweud wrth Dafydd am ei bechodau, ac am beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo?

  5. Pa helyntion a ddaeth i Dafydd?

  6. Ar ôl Dafydd, pwy ddaeth yn frenin ar Israel?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 2 Samuel 11:1-27.

    1. Sut mae cadw’n brysur yng ngwasanaeth Jehofa yn ein cadw ni’n ddiogel?

    2. Sut cafodd Dafydd ei ddenu i bechu, a sut mae hyn yn rhybudd i weision Jehofa heddiw? (2 Sam. 11:2; Math. 5:27-29; 1 Cor. 10:12; Iago 1:14, 15)

  2. Darllenwch 2 Samuel 12:1-18.

    1. Sut gall henuriaid a rhieni efelychu’r ffordd i Nathan roi cyngor i Dafydd? (2 Sam. 12:1-4; Diar. 12:18; Math. 13:34)

    2. Pam y dangosodd Jehofa drugaredd tuag at Dafydd? (2 Sam. 12:13; Salm 32:5; 2 Cor. 7:9, 10)

Stori 63

Doethineb Solomon

  1. Pa gwestiwn ofynnodd Jehofa i Solomon, a beth oedd ei ateb?

  2. Gan fod ateb Solomon yn plesio Jehofa, beth a addawodd Jehofa iddo?

  3. Pa broblem anodd roedd rhaid i Solomon ei datrys ynglŷn â’r ddwy wraig?

  4. Sut gwnaeth Solomon ddatrys y broblem? (Gweler y llun.)

  5. Sut roedd bywyd o dan deyrnasiad Solomon, a pham?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Brenhinoedd 3:3-28.

    1. Beth gall dynion sy’n cael breintiau yng nghyfundrefn Jehofa ei ddysgu o eiriau Solomon yn 1 Brenhinoedd 3:7? (Salm 119:105; Diar. 3:5, 6)

    2. Sut mae cais Solomon yn esiampl dda o’r pethau y mae’n addas inni weddïo amdanyn nhw? (1 Bren. 3:9, 11; Diar. 30:8, 9; 1 Ioan 5:14)

    3. Sut mae’r ffordd y deliodd Solomon â’r ddadl rhwng y ddwy wraig yn codi ein hyder yn Iesu Grist, sydd yn frenin “mwy na Solomon”? (1 Bren. 3:28; Esei. 9:6, 7; 11:2-4; Math. 12:42)

  2. Darllenwch 1 Brenhinoedd 4:29-34.

    1. Beth oedd ateb Jehofa pan ofynnodd Solomon am galon ddeallus? (1 Bren. 4:29)

    2. O ystyried yr ymdrech a wnaeth bobl i ddod i wrando ar ddoethineb Solomon, sut y dylen ni deimlo am astudio Gair Duw? (1 Bren. 4:29, 34; Ioan 17:3; 2 Tim. 3:16)

Stori 64

Adeiladu’r Deml

  1. Faint o amser gymerodd i Solomon adeiladu teml Jehofa, a pham roedd y gwaith mor ddrud?

  2. Faint o brif ystafelloedd oedd yn y deml, a beth oedd yn yr ystafell fewnol?

  3. Ar ôl i’r deml gael ei gorffen, beth ddywedodd Solomon yn ei weddi?

  4. Sut dangosodd Jehofa fod gweddi Solomon wedi ei blesio?

  5. Pa ddylanwad gafodd gwragedd Solomon arno, a beth ddigwyddodd iddo?

  6. Pam roedd Jehofa yn ddig wrth Solomon, a beth ddywedodd Jehofa wrtho?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Cronicl 28:9, 10.

    O ystyried geiriau Dafydd yn 1 Cronicl 28:9, 10, beth dylen ni geisio ei wneud yn ein bywyd bob dydd? (Salm 19:14; Phil. 4:8, 9)

  2. Darllenwch 2 Cronicl 6:12-21, 32-42.

    1. Sut dangosodd Solomon nad yw unrhyw adeilad a godir gan ddyn yn ddigon mawr ar gyfer y Duw Goruchaf? (2 Cron. 6:18; Act. 17:24, 25)

    2. Beth mae geiriau Solomon yn 2 Cronicl 6:32, 33 yn ei ddangos am Jehofa? (Act. 10:34, 35; Gal. 2:6)

  3. Darllenwch 2 Cronicl 7:1-5.

    Fel yr Israeliaid gynt a welodd ogoniant Jehofa a’i glodfori, sut dylen ni ymateb pan welwn ni’r ffordd y mae Jehofa wedi bendithio ei bobl? (2 Cron. 7:3; Salm 22:22; 34:1; 96:2)

  4. Darllenwch 1 Brenhinoedd 11:9-13.

    Sut mae bywyd Solomon yn dangos pwysigrwydd aros yn ffyddlon tan y diwedd? (1 Bren. 11:4, 9; Math. 10:22; Dat. 2:10)

Stori 65

Rhannu’r Deyrnas

  1. Pwy yw’r dynion yn y llun?

  2. Beth wnaeth Aheia gyda’i fantell, a beth roedd hyn yn ei olygu?

  3. Beth ceisiodd Solomon ei wneud i Jeroboam?

  4. Pam gwnaeth y bobl ddewis Jeroboam yn frenin dros y deg llwyth?

  5. Pam gwnaeth Jeroboam ddau lo aur, a beth ddigwyddodd i’r wlad yn fuan wedi hynny?

  6. Beth ddigwyddodd i deyrnas y ddau lwyth ac i deml Jehofa yn Jerwsalem?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Brenhinoedd 11:26-43.

    Sut ddyn oedd Jeroboam, a beth addawodd Jehofa iddo petai’n gwrando ar ei gyfraith? (1 Bren. 11:28, 38)

  2. Darllenwch 1 Brenhinoedd 12:1-33.

    1. Beth gall rhieni a henuriaid ei ddysgu o esiampl ddrwg Rehoboam ynglŷn â chamddefnyddio awdurdod? (1 Bren. 12:13; Preg. 7:7; 1 Pedr 5:2, 3)

    2. Wrth wneud penderfyniadau pwysig yn eu bywydau, at bwy y dylai pobl ifanc heddiw droi am gyngor dibynadwy? (1 Bren. 12:6, 7; Diar. 1:8, 9; 2 Tim. 3:16, 17; Heb. 13:7)

    3. Pam sefydlodd Jeroboam ddwy ganolfan ar gyfer addoli’r lloeau aur, a sut dangosodd hynny ddiffyg ffydd yn Jehofa? (1 Bren. 11:37; 12:26-28)

    4. Pwy arall arweiniodd bobl y deg llwyth mewn gau addoliad? (1 Bren. 12:32, 33)

Stori 66

Y Frenhines Ddrwg

  1. Pwy oedd Jesebel?

  2. Pam roedd y Brenin Ahab yn drist?

  3. Beth wnaeth Jesebel er mwyn cael gwinllan Naboth ar gyfer ei gŵr, Ahab?

  4. Pwy anfonodd Jehofa i gosbi Jesebel?

  5. Beth ddigwyddodd pan gyrhaeddodd Jehu balas Jesebel? (Gweler y llun.)

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Brenhinoedd 16:29-33 ac 18:3, 4.

    Pa mor ddrwg oedd y sefyllfa yn Israel yn ystod teyrnasiad y Brenin Ahab? (1 Bren. 16:33)

  2. Darllenwch 1 Brenhinoedd 21:1-16.

    1. Sut dangosodd Naboth ei fod yn ddewr ac yn ffyddlon i Jehofa? (1 Bren. 21:1-3; Lef. 25:23-28)

    2. Beth mae esiampl Ahab yn ei ddysgu i ni am y ffordd y dylen ni ymateb os ydyn ni’n cael ein siomi? (1 Bren. 21:4; Rhuf. 5:3-5)

  3. Darllenwch 2 Brenhinoedd 9:30-37.

    Beth gallwn ni ei ddysgu o sêl Jehu wrth iddo wneud ewyllys Jehofa? (2 Bren. 9:4-10; 2 Cor. 9:1, 2; 2 Tim. 4:2)

Stori 67

Ymddiried yn Jehofa

  1. Pwy oedd Jehosaffat, a phryd roedd yn byw?

  2. Pam roedd ofn ar yr Israeliaid, a beth wnaeth nifer mawr ohonyn nhw?

  3. Beth oedd ateb Jehofa i weddi Jehosaffat?

  4. Beth wnaeth Jehofa cyn i’r frwydr ddechrau?

  5. Beth mae hanes Jehosaffat yn ei ddysgu inni?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 2 Cronicl 20:1-30.

    1. Sut gosododd Jehosaffat esiampl i weision Duw heddiw sy’n wynebu sefyllfaoedd bygythiol? (2 Cron. 20:12; Salm 25:15; 62:1)

    2. Gan fod Jehofa bob amser wedi cyfathrebu â’i bobl trwy sianel benodedig, pa sianel y mae’n ei defnyddio heddiw? (2 Cron. 20:14, 15; Math. 24:45-47; Ioan 15:15)

    3. Pan fydd Jehofa yn dechrau ‘rhyfel dydd mawr Duw, yr Hollalluog,’ sut bydd ein sefyllfa ni yn debyg i sefyllfa Jehosaffat? (2 Cron. 20:15, 17; 32:8; Dat. 16:14, 16)

    4. Yn debyg i’r Lefiaid, sut mae arloeswyr a chenhadon yn cyfrannu at y gwaith pregethu heddiw? (2 Cron. 20:19, 21; Rhuf. 10:13-15; 2 Tim. 4:2)

Stori 68

Atgyfodi Dau Fachgen

  1. Pwy yw’r bobl yn y llun, a beth ddigwyddodd i’r bachgen?

  2. Beth oedd gweddi Elias ynglŷn â’r bachgen, a beth ddigwyddodd wedyn?

  3. Beth oedd enw’r dyn a oedd yn helpu Eliseus?

  4. Pam cafodd Eliseus ei alw i dŷ gwraig yn Sunem?

  5. Beth wnaeth Eliseus, a beth ddigwyddodd i’r bachgen oedd wedi marw?

  6. Pa allu sydd gan Jehofa, fel y gwelwn yn hanes Elias ac Eliseus?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Brenhinoedd 17:8-24.

    1. Sut cafodd ufudd-dod a ffydd Elias eu profi? (1 Bren. 17:9; 19:1-4, 10)

    2. Sut roedd ffydd y wraig weddw o Sareffath yn eithriadol? (1 Bren. 17:12-16; Luc 4:25, 26)

    3. Sut mae profiad y wraig weddw o Sareffath yn cadarnhau geiriau Iesu ym Mathew 10:41, 42? (1 Bren. 17:10-12, 17, 23, 24)

  2. Darllenwch 2 Brenhinoedd 4:8-37.

    1. Beth mae hanes y wraig o Sunem yn ei ddysgu i ni ynglŷn â lletygarwch? (2 Bren. 4:8; Luc 6:38; Rhuf. 12:13; 1 Ioan 3:17)

    2. Sut gallwn ni fod yn garedig wrth weision Duw heddiw? (Act. 20:35; 28:1, 2; Gal. 6:9, 10; Heb. 6:10)

Stori 69

Helpu Dyn Pwysig

  1. Yn y llun, beth mae’r ferch yn ei ddweud wrth y ddynes?

  2. Pwy yw’r ddynes yn y llun, a beth oedd y ferch yn ei wneud yn nhŷ’r ddynes honno?

  3. Pa neges a roddodd Eliseus i’w was ar gyfer Naaman, a pham gwylltiodd Naaman?

  4. Beth ddigwyddodd ar ôl i Naaman wrando ar ei weision?

  5. Pam gwrthododd Eliseus anrheg Naaman, ond beth a wnaeth Gehasi?

  6. Beth ddigwyddodd i Gehasi, a beth yw’r wers i ni?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 2 Brenhinoedd 5:1-27.

    1. Sut gall esiampl y ferch o Israel annog pobl ifanc heddiw? (2 Bren. 5:3; Salm 8:2; 148:12, 13)

    2. Pan gawn ni gyngor o’r Beibl, sut mae cofio esiampl Naaman yn ein helpu ni? (2 Bren. 5:15; Heb. 12:5, 6; Iago 4:6)

    3. Beth gallwn ni ei ddysgu o gymharu esiampl Eliseus ag esiampl Gehasi? (2 Bren. 5:9, 10, 14-16, 20; Math. 10:8; Act. 5:1-5; 2 Cor. 2:17)

Stori 70

Jona a’r Pysgodyn Mawr

  1. Pwy oedd Jona, a beth ddywedodd Jehofa wrtho am ei wneud?

  2. Yn lle gwrando ar Jehofa, beth wnaeth Jona?

  3. Beth ddywedodd Jona wrth y morwyr am ei wneud er mwyn tawelu’r storm?

  4. Fel mae’r llun yn ei ddangos, beth ddigwyddodd pan suddodd Jona yn y môr?

  5. Am faint roedd Jona ym mol y pysgodyn mawr, a beth a wnaeth yno?

  6. Lle aeth Jona ar ôl iddo ddod allan o fol y pysgodyn mawr, a beth mae hyn yn ei ddysgu i ni?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Jona 1:1-17.

    Yn amlwg, sut roedd Jona yn teimlo am gael ei anfon i bregethu i bobl Ninefe? (Jona 1:2, 3; Diar. 3:7; Preg. 8:12)

  2. Darllenwch Jona 2:1, 2, 10.

    Sut mae profiad Jona yn rhoi hyder inni y bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau? (Salm 22:24; 34:6; 1 Ioan 5:14)

  3. Darllenwch Jona 3:1-10.

    1. Er i Jona fethu ar y dechrau, sut mae’r ffaith i Jehofa barhau i’w ddefnyddio yn ein calonogi ni? (Salm 103:14; 1 Pedr 5:10)

    2. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o brofiad Jona yn Ninefe am beidio â rhagfarnu pobl yn ein tiriogaeth? (Jona 3:6-9; Preg. 11:6; Act. 13:48)

Stori 71

Duw yn Addo Paradwys

  1. Pwy oedd Eseia, pryd roedd Eseia yn byw, a beth a ddangosodd Jehofa iddo?

  2. Beth yw ystyr y gair “paradwys,” a beth sy’n dod i’r meddwl pan glywi di’r gair?

  3. Beth ddywedodd Jehofa wrth Eseia am ei ysgrifennu ynglŷn â’r Baradwys i ddod?

  4. Pam roedd rhaid i Adda ac Efa adael y Baradwys?

  5. Beth mae Jehofa yn ei addo i’r rhai sydd yn ei garu?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Eseia 11:6-9.

    1. Sut mae’r Beibl yn disgrifio’r heddwch a fydd rhwng pobl ac anifeiliaid yn y byd newydd? (Salm 148:10, 13; Esei. 65:25; Esec. 34:25)

    2. Sut mae geiriau Eseia yn cael eu cyflawni mewn modd ysbrydol ymysg pobl Jehofa heddiw? (Rhuf. 12:2; Eff. 4:23, 24)

    3. Pwy sy’n haeddu’r clod am newid natur pobl heddiw ac yn y byd newydd? (Esei. 48:17, 18; Gal. 5:22, 23; Phil. 4:7)

  2. Darllenwch Datguddiad 21:3, 4.

    1. Sut mae’r Beibl yn dangos y bydd Duw yn preswylio gyda’r ddynoliaeth mewn modd ffigurol yn hytrach na chorfforol? (Lef. 26:11, 12; 2 Cron. 6:18; Esei. 66:1; Dat. 21:2, 3, 22-24)

    2. Pa fath o boen a dagrau fydd wedi mynd heibio? (Luc 8:49-52; Rhuf. 8:21, 22; Dat. 21:4)

Stori 72

Duw yn Helpu Heseceia

  1. Pwy yw’r dyn yn y llun, a pham roedd yn pryderu’n fawr?

  2. Beth oedd y llythyrau roedd Heseceia wedi eu gosod allan o flaen Jehofa, a beth ddywedodd Heseceia yn ei weddi?

  3. Pa fath o frenin oedd Heseceia, a pha neges anfonodd Jehofa iddo drwy Eseia?

  4. Beth a wnaeth angel Jehofa i’r Asyriaid? (Gweler y llun.)

  5. Er i deyrnas y ddau lwyth gael heddwch am gyfnod, beth ddigwyddodd ar ôl i Heseceia farw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 2 Brenhinoedd 18:1-36.

    1. Sut ceisiodd Rabsace, prif swyddog Asyria, danseilio ffydd pobl Israel? (2 Bren. 18:19, 21; Ex. 5:2; Salm 64:3)

    2. Sut mae Tystion Jehofa yn dilyn esiampl Heseceia wrth drin gwrthwynebwyr? (2 Bren. 18:36; Salm 39:1; Diar. 26:4; 2 Tim. 2:24)

  2. Darllenwch 2 Brenhinoedd 19:1-37.

    1. Sut mae pobl Jehofa heddiw yn dilyn esiampl Heseceia wrth wynebu amser caled? (2 Bren. 19:1, 2; Diar. 3:5, 6; Heb. 10:24, 25; Iago 5:14, 15)

    2. Ym mha dair ffordd cafodd y Brenin Senacherib ei drechu, a phwy mae Senacherib yn ei gynrychioli mewn proffwydoliaeth? (2 Bren. 19:32, 35, 37; Dat. 20:2, 3)

  3. Darllenwch 2 Brenhinoedd 21:1-6, 16.

    Pam y gellir dweud bod Manasse yn un o’r brenhinoedd mwyaf creulon i deyrnasu dros Jerwsalem? (2 Cron. 33:4-6, 9)

Stori 73

Y Brenin Da Olaf

  1. Faint oedd oed Joseia pan ddaeth yn frenin, ac ar ôl iddo fod yn frenin am saith mlynedd, beth a wnaeth?

  2. Beth mae Joseia yn ei wneud yn y llun cyntaf?

  3. Beth gwnaeth yr archoffeiriad ei ddarganfod yn ystod y gwaith i atgyweirio’r deml?

  4. Pam rhwygodd Joseia ei ddillad?

  5. Pa neges oddi wrth Jehofa oedd gan y broffwydes Hulda ar gyfer Joseia?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 2 Cronicl 34:1-28.

    1. Sut mae Joseia yn esiampl dda i’r rhai sydd wedi cael plentyndod anodd? (2 Cron. 33:21-25; 34:1, 2; Salm 27:10)

    2. Pa gamau mawr gymerodd Joseia er mwyn hybu gwir addoliad yn ystod blwyddyn 8, 12, ac 18 o’i deyrnasiad? (2 Cron. 34:3, 8)

    3. O ran cynnal a chadw ein haddoldai, beth y gallwn ni ei ddysgu o esiampl y Brenin Joseia a’r Archoffeiriad Hilceia? (2 Cron. 34:9-13; Diar. 11:14; 1 Cor. 10:31)

Stori 74

Dyn Nad Oedd Ofn Arno

  1. Pwy yw’r dyn ifanc yn y llun?

  2. Pan gafodd Jeremeia ei benodi’n broffwyd, beth oedd ei ymateb, ond beth a ddywedodd Jehofa wrtho?

  3. Pa neges roedd Jeremeia yn ei rhoi dro ar ôl tro i’r bobl?

  4. Sut roedd yr offeiriaid yn ceisio rhoi taw ar Jeremeia, ond sut dangosodd Jeremeia nad oedd ofn arno?

  5. Beth ddigwyddodd pan wrthododd yr Israeliaid newid eu ffyrdd drwg?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Jeremeia 1:1-8.

    1. Fel mae esiampl Jeremeia yn dangos, beth sy’n gwneud rhywun yn gymwys i wasanaethu Jehofa? (2 Cor. 3:5, 6)

    2. Sut mae esiampl Jeremeia yn annog Cristnogion ifanc heddiw? (Preg. 12:1; 1 Tim. 4:12)

  2. Darllenwch Jeremeia 10:1-5.

    Pa eglureb drawiadol a ddefnyddiodd Jeremeia i ddangos mai ofer yw rhoi ffydd mewn eilunod? (Jer. 10:5; Esei. 46:7; Hab. 2:19)

  3. Darllenwch Jeremeia 26:1-16.

    1. Wrth rybuddio pobl heddiw, sut mae’r eneiniog wedi bod yn ufudd i’r gorchymyn a roddodd Jehofa i Jeremeia i lefaru “heb atal gair”? (Jer. 26:2; Deut. 4:2; Act. 20:27)

    2. Sut mae Jeremeia yn esiampl dda i Dystion Jehofa heddiw o ran cyhoeddi rhybudd Jehofa i’r cenhedloedd? (Jer. 26:8, 12, 14, 15; 2 Tim. 4:1-5)

  4. Darllenwch 2 Brenhinoedd 24:1-17.

    Beth oedd y canlyniadau trist pan oedd Jwda yn anffyddlon i Jehofa? (2 Bren. 24:2-4, 14)

Stori 75

Pedwar Bachgen Ffyddlon

  1. Pwy yw’r pedwar bachgen yn y llun, a pham maen nhw ym Mabilon?

  2. Beth oedd cynllun Nebuchadnesar ar gyfer y pedwar bachgen, a pha orchmynion a roddodd i’w weision?

  3. Beth ofynnodd Daniel ynglŷn â bwyd a diod iddo ef a’i dri ffrind?

  4. Ar ôl bwyta llysiau am ddeg diwrnod, sut roedd Daniel a’i ffrindiau yn cymharu â’r dynion ifanc eraill?

  5. Pam aeth Daniel a’i ffrindiau i weithio ym mhalas y brenin, a sut roedden nhw’n well na’r offeiriaid a’r dynion doeth?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Daniel 1:1-21.

    1. Er mwyn osgoi cael ein temtio a llwyddo i oresgyn ein gwendidau, faint o ymdrech fydd yn rhaid inni ei gwneud? (Dan. 1:8; Gen. 39:7, 10; Gal. 6:9)

    2. Sut gall pobl ifanc heddiw deimlo o dan bwysau i flasu danteithion y byd hwn? (Dan. 1:8; Diar. 20:1; 2 Cor. 6:17–7:1)

    3. Beth mae hanes y pedwar bachgen yn ei ddangos inni ynglŷn â gwerth yr addysg y mae’r byd yn ei chynnig? (Dan. 1:20; Esei. 54:13; 1 Cor. 3:18-20)

Stori 76

Dinistrio Jerwsalem

  1. Beth sy’n digwydd i Jerwsalem ac i’r Israeliaid? (Gweler y llun.)

  2. Pwy oedd Eseciel, a pha bethau ofnadwy ddangosodd Jehofa iddo?

  3. Beth ddywedodd Jehofa y byddai’n ei wneud oherwydd nad oedd y bobl yn ei barchu?

  4. Beth wnaeth y Brenin Nebuchadnesar ar ôl i’r Israeliaid wrthryfela?

  5. Pam gadawodd Jehofa i’r Israeliaid gael eu dinistrio mewn ffordd mor erchyll?

  6. Pam nad oedd neb yn byw yng ngwlad Israel yn y diwedd, ac am faint roedd y wlad yn wag?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 2 Brenhinoedd 25:1-26.

    1. Pwy oedd Sedeceia, beth ddigwyddodd iddo, a sut cyflawnodd hyn broffwydoliaeth yn y Beibl? (2 Bren. 25:5-7; Esec. 12:13-15)

    2. Yng ngolwg Jehofa, pwy oedd yn gyfrifol am anffyddlondeb Israel? (2 Bren. 25:9, 11, 12, 18, 19; 2 Cron. 36:14, 17)

  2. Darllenwch Eseciel 8:1-18.

    Sut mae eglwysi’r Gwledydd Cred yn debyg i’r Israeliaid a oedd yn addoli’r haul? (Esec. 8:16; Esei. 5:20, 21; Ioan 3:19-21; 2 Tim. 4:3)

Stori 77

Gwrthod Addoli Delw

  1. Pa orchymyn a roddodd Nebuchadnesar, brenin Babilon, i’r bobl?

  2. Pam gwrthododd ffrindiau Daniel ymgrymu o flaen y ddelw aur?

  3. Ar ôl i Nebuchadnesar roi cyfle arall i Sadrach, Mesach, ac Abednego, sut dangoson nhw eu bod nhw’n ymddiried yn Jehofa?

  4. Beth orchmynnodd Nebuchadnesar i’w ddynion ei wneud i Sadrach, Mesach, ac Abednego?

  5. Beth welodd Nebuchadnesar yn y ffwrnais?

  6. Pam rhoddodd y brenin glod i Dduw Sadrach, Mesach, ac Abednego, a sut maen nhw’n esiampl dda inni?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Daniel 3:1-30.

    1. Sut gallwn ni efelychu agwedd Sadrach, Mesach, ac Abednego wrth wynebu prawf ar ein ffydd? (Dan. 3:17, 18; Math. 10:28; Rhuf. 14:7, 8)

    2. Pa wers bwysig a ddysgodd Jehofa i Nebuchadnesar? (Dan. 3:28, 29; 4:34, 35)

Stori 78

Yr Ysgrifen ar y Wal

  1. Beth ddigwyddodd pan ddefnyddiodd brenin Babilon y llestri o deml Jehofa mewn gwledd?

  2. Beth ddywedodd Belsassar wrth ei ddynion doeth, ond beth nad oedd yr un o’r dynion doeth yn gallu ei wneud?

  3. Beth ddywedodd mam y brenin wrtho am ei wneud?

  4. Yn ôl Daniel, pam roedd Jehofa wedi anfon y llaw i ysgrifennu ar y wal?

  5. Sut esboniodd Daniel ystyr y geiriau ar y wal?

  6. Beth oedd yn digwydd tra oedd Daniel yn siarad?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Daniel 5:1-31.

    1. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng parchedig ofn â’r ofn a gododd ar Belsassar pan welodd yr ysgrifen ar y wal? (Dan. 5:6, 7; Salm 19:9; Rhuf. 8:35-39)

    2. Sut dangosodd Daniel ei fod yn ddewr pan siaradodd o flaen Belsassar a’r holl westeion pwysig? (Dan. 5:17, 18, 22, 26-28; Act. 4:29)

    3. Sut mae Daniel pennod 5 yn tynnu sylw at awdurdod brenhinol Jehofa dros y bydysawd? (Dan. 4:17, 25; 5:21)

Stori 79

Daniel yn Ffau’r Llewod

  1. Pwy oedd Dareius, a sut roedd yn teimlo tuag at Daniel?

  2. Beth a wnaeth Dareius dan ddylanwad dynion cenfigennus?

  3. Beth wnaeth Daniel pan glywodd am y gyfraith newydd?

  4. Pam nad oedd Dareius yn medru cysgu, a beth a wnaeth y bore wedyn?

  5. Beth oedd ateb Daniel i gwestiwn Dareius?

  6. Beth ddigwyddodd i’r dynion drwg a geisiodd ladd Daniel, a beth ysgrifennodd Dareius at bawb yn ei deyrnas?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Daniel 6:1-28.

    1. Sut mae’r cynllwyn yn erbyn Daniel yn debyg i’r hyn y mae gwrthwynebwyr wedi ceisio ei wneud i rwystro gwaith Tystion Jehofa heddiw? (Dan. 6:7; Salm 94:20; Esei. 10:1; Rhuf. 8:31)

    2. Sut gall gweision Duw heddiw efelychu esiampl Daniel drwy aros yn ufudd i’r “awdurdodau sy’n ben”? (Dan. 6:5, 10; Rhuf. 13:1; Act. 5:29)

    3. Sut medrwn ni efelychu esiampl Daniel a gwasanaethu Jehofa yn “barhaus”? (Dan. 6:16, 20; Phil. 3:16; Dat. 7:15)

Stori 80

Gadael Babilon

  1. Beth mae’r Israeliaid yn ei wneud? (Gweler y llun.)

  2. Sut cyflawnodd Cyrus y broffwydoliaeth a roddodd Jehofa i Eseia?

  3. Beth ddywedodd Cyrus wrth yr Israeliaid oedd yn methu mynd yn ôl i Jerwsalem?

  4. Beth roddodd Cyrus i’r bobl ar gyfer y deml yn Jerwsalem?

  5. Faint o amser cymerodd i’r Israeliaid gyrraedd Jerwsalem?

  6. Am faint o amser oedd y wlad yn hollol wag?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Eseia 44:28 a 45:1-4.

    1. Sut pwysleisiodd Jehofa fod y broffwydoliaeth ynglŷn â Cyrus yn sicr o ddod yn wir? (Esei. 55:10, 11; Rhuf. 4:17)

    2. Beth mae proffwydoliaeth Eseia ynglŷn â Cyrus yn ei ddangos am allu Jehofa i ragfynegi’r dyfodol? (Esei. 42:9; 45:21; 46:10, 11; 2 Pedr 1:20)

  2. Darllenwch Esra 1:1-11.

    Yn debyg i’r rhai oedd yn methu mynd yn ôl i Jerwsalem, sut gallwn ni gefnogi brodyr a chwiorydd sy’n gwasanaethu Jehofa yn llawn amser heddiw? (Esra 1:4, 6; Rhuf. 12:13; Col. 4:12)

Stori 81

Ymddiried yn Nuw

  1. Faint o bobl wnaeth y daith hir o Fabilon i Jerwsalem, ond sut gyflwr oedd ar y ddinas?

  2. Ar ôl cyrraedd, beth oedd y pethau cyntaf i’r Israeliaid eu hadeiladu, ond beth wnaeth eu gelynion?

  3. Pwy oedd Haggai a Sechareia, a beth oedd eu neges?

  4. Pam anfonodd Tatnai lythyr i Fabilon, a beth oedd yr ateb?

  5. Beth wnaeth Esra pan glywodd am gyflwr drwg teml Duw?

  6. Am beth roedd Esra yn gweddïo yn y llun, sut cafodd ei weddi ei hateb, a beth mae hyn yn ei ddysgu i ni?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Esra 3:1-13.

    Petaen ni’n byw mewn ardal lle nad oes yr un gynulleidfa, beth ddylen ni ddal ati i’w wneud? (Esra 3:3, 6; Act. 17:16, 17; Heb. 13:15)

  2. Darllenwch Esra 4:1-7.

    Pa esiampl dda osododd Sorobabel ar gyfer pobl Jehofa ynglŷn ag addoli gyda phobl o grefyddau eraill? (Ex. 34:12; 1 Cor. 15:33; 2 Cor. 6:14-17)

  3. Darllenwch Esra 5:1-517 a 6:1-22.

    1. Pam nad oedd y gwrthwynebwyr yn medru rhwystro’r gwaith i adeiladu’r deml? (Esra 5:5; Esei. 54:17)

    2. Sut gall henuriaid Cristnogol ddilyn esiampl henuriaid yr Iddewon wrth ddelio â gwrthwynebwyr? (Esra 6:14; Salm 32:8; Rhuf. 8:31; Iago 1:5)

  4. Darllenwch Esra 8:21-23, 28-36.

    Cyn inni fentro ar ryw lwybr newydd, pam byddai’n dda inni ddilyn esiampl Esra? (Esra 8:23; Salm 127:1; Diar. 10:22; Iago 4:13-15)

Stori 82

Mordecai ac Esther

  1. Pwy oedd Mordecai ac Esther?

  2. Pam roedd y Brenin Ahasferus eisiau gwraig newydd, a phwy a ddewisodd?

  3. Pwy oedd Haman, a pham roedd yn flin iawn?

  4. Pa gyfraith gafodd ei chreu, a beth wnaeth Esther ar ôl derbyn neges gan Mordecai?

  5. Beth ddigwyddodd i Haman, a beth ddigwyddodd i Mordecai?

  6. Sut cafodd yr Israeliaid eu hachub rhag eu gelynion?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Esther 2:12-18.

    Sut dangosodd Esther pa mor bwysig yw meithrin “ysbryd addfwyn a thawel”? (Esther 2:15; 1 Pedr 3:1-5)

  2. Darllenwch Esther 4:1-17.

    Fel Esther, pa gyfle sydd gennyn ni i ddangos ein ffyddlondeb i Jehofa heddiw? (Esther 4:13, 14; Math. 5:14-16; 24:14)

  3. Darllenwch Esther 7:1-6.

    Yn debyg i Esther, sut mae llawer o bobl Duw heddiw yn barod i gael eu herlid? (Esther 7:4; Math. 10:16-22; 1 Pedr 2:12)

Stori 83

Muriau Jerwsalem

  1. Sut roedd yr Israeliaid yn teimlo am ddiffyg muriau o gwmpas eu dinas?

  2. Pwy oedd Nehemeia?

  3. Beth oedd swydd Nehemeia, a pham roedd ei swydd yn un bwysig?

  4. Pa newyddion glywodd Nehemeia, a beth oedd ei ymateb?

  5. Sut roedd y Brenin Artaxerxes yn garedig wrth Nehemeia?

  6. Sut trefnodd Nehemeia y gwaith adeiladu fel nad oedd gelynion yr Israeliaid yn gallu ei atal?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Nehemeia 1:4-6 a 2:1-20.

    Sut gwnaeth Nehemeia geisio arweiniad Jehofa? (Neh. 2:4, 5; Rhuf. 12:12; 1 Pedr 4:7)

  2. Darllenwch Nehemeia 3:3-5.

    Beth gall henuriaid a gweision gweinidogaethol ei ddysgu o’r gwahaniaeth rhwng y Tecoiaid a’u “pendefigion”? (Neh. 3:5, 27; 2 Thes. 3:7-10; 1 Pedr 5:5)

  3. Darllenwch Nehemeia 4:1-23.

    1. Beth anogodd yr Israeliaid i ddal ati yn y gwaith adeiladu er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig? (Neh. 4:6, 8, 9; Salm 50:15; Esei. 65:13, 14)

    2. Sut mae esiampl yr Israeliaid yn ein hannog ni heddiw?

  4. Darllenwch Nehemeia 6:15.

    O ddysgu am furiau Jerwsalem yn cael eu codi o fewn deufis, beth gallwn ni ei ddysgu am rym ffydd? (Salm 56:3, 4; Math. 17:20; 19:26)

Stori 84

Angel yn Dod at Mair

  1. Pwy yw’r ferch yn y llun?

  2. Beth ddywedodd Gabriel wrth Mair?

  3. Sut eglurodd Gabriel i Mair ei bod hi am gael babi er nad oedd hi wedi priodi?

  4. Beth ddigwyddodd pan aeth Mair i ymweld ag Elisabeth?

  5. Beth oedd ymateb Joseff pan glywodd fod Mair yn disgwyl babi, ond pam newidiodd ei feddwl?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Luc 1:26-56.

    1. Beth mae Luc 1:35 yn ei awgrymu am unrhyw amherffeithrwydd etifeddol yn wy Mair pan gafodd bywyd Mab Duw ei drosglwyddo o’r nefoedd? (Hag. 2:11-13; Ioan 6:69; Heb. 7:26; 10:5)

    2. Sut cafodd Iesu ei glodfori ac yntau’n dal yn y groth? (Luc 1:41-43)

    3. Sut mae Mair yn esiampl dda i Gristnogion sy’n derbyn breintiau yng ngwasanaeth Jehofa heddiw? (Luc 1:38, 46-49; 17:10; Diar. 11:2)

  2. Darllenwch Mathew 1:18-25.

    Er nad oedd pobl yn galw Iesu yn Immanuel, sut cyflawnodd Iesu ystyr yr enw hwnnw tra ei fod ar y ddaear? (Math. 1:22, 23; Ioan 14:8-10; Heb. 1:1-3)

Stori 85

Genedigaeth Iesu

  1. Pwy yw’r babi yn y llun, ac ymhle mae Mair yn ei roi i gysgu?

  2. Pam cafodd Iesu ei eni mewn stabl gyda’r anifeiliaid?

  3. Yn y llun, pwy yw’r dynion sy’n cyrraedd y stabl, a beth roedd angel wedi ei ddweud wrthyn nhw?

  4. Pam roedd Iesu yn fabi mor arbennig?

  5. Pam gallwn ni ddweud mai Mab Duw oedd Iesu?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Luc 2:1-20.

    1. Pa ran gafodd Cesar Awgwstws yng nghyflawniad y broffwydoliaeth am enedigaeth Iesu? (Luc 2:1-4; Mich. 5:2)

    2. Beth mae’n rhaid i rywun ei wneud er mwyn cael ei gyfrif yn un o’r ‘rhai sydd wrth fodd’ Duw? (Luc 2:14; Math. 16:24; Ioan 17:3; Act. 3:19; Heb. 11:6)

    3. Os oedd gan y bugeiliaid reswm da dros lawenhau am enedigaeth Iachawdwr, pam mae mwy o reswm i weision Duw lawenhau heddiw? (Luc 2:10, 11; Eff. 3:8, 9; Dat. 11:15; 14:6)

Stori 86

Dilyn Seren

  1. Pwy yw’r dynion yn y llun, a pham mae un ohonyn nhw’n pwyntio at y seren?

  2. Pam roedd y Brenin Herod wedi cynhyrfu, a beth a wnaeth?

  3. I le mae’r seren yn arwain y dynion, ond pam aethon nhw yn ôl i’w gwlad eu hunain ar hyd ffordd arall?

  4. Beth a orchmynnodd Herod, a pham?

  5. Beth ddywedodd Jehofa wrth Joseff?

  6. Pwy a wnaeth i’r seren dywynnu?

Cwestiwn ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 2:1-23.

    Faint oedd oed Iesu ac ymhle roedd yn byw pan ddaeth y seryddion? (Math. 2:1, 11, 16)

Stori 87

Iesu yn y Deml

  1. Faint yw oed Iesu yn y llun, a ble mae Iesu?

  2. Beth roedd Joseff a’i deulu yn ei wneud bob blwyddyn?

  3. Ar ôl diwrnod o deithio yn ôl adref, pam aeth Joseff a Mair yn ôl i Jerwsalem?

  4. Ble roedd Iesu pan ddaeth Joseff a Mair o hyd iddo, a pham roedd y bobl wedi eu synnu?

  5. Beth ddywedodd Iesu wrth ei fam, Mair?

  6. Sut gallwn ni fod yn debyg i Iesu a dysgu am Dduw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Luc 2:41-52.

    1. Er bod y Gyfraith yn gofyn i’r dynion fynd i’r dathliadau blynyddol, pa esiampl dda osododd Joseff a Mair i rieni heddiw? (Luc 2:41; Deut. 16:16; 31:12; Diar. 22:6)

    2. Sut gosododd Iesu esiampl dda i bobl ifanc heddiw o ran bod yn ufudd i’w rhieni? (Luc 2:51; Deut. 5:16; Diar. 23:22; Col. 3:20)

  2. Darllenwch Mathew 13:53-56.

    Beth oedd enwau pedwar brawd Iesu, a beth aeth dau ohonyn nhw ymlaen i’w wneud yn y gynulleidfa Gristnogol? (Math. 13:55; Act. 12:17; 15:6, 13; 21:18; Gal. 1:19; Iago 1:1; Jwd. 1)

Stori 88

Ioan yn Bedyddio Iesu

  1. Pwy yw’r dynion yn y llun?

  2. Sut mae rhywun yn cael ei fedyddio?

  3. Fel arfer, pwy roedd Ioan yn ei fedyddio?

  4. Am ba reswm arbennig gofynnodd Iesu i Ioan ei fedyddio?

  5. Sut dangosodd Jehofa fod bedydd Iesu wedi ei blesio?

  6. Beth ddigwyddodd pan aeth Iesu i le tawel am 40 diwrnod?

  7. Pwy oedd disgyblion cyntaf Iesu, a beth oedd ei wyrth gyntaf?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 3:13-17.

    Pa batrwm osododd Iesu i’w ddisgyblion ynglŷn â bedydd? (Salm 40:7, 8; Math. 28:19, 20; Luc 3:21, 22)

  2. Darllenwch Mathew 4:1-11.

    Sut mae gallu Iesu i ddefnyddio’r Ysgrythurau yn ein hannog ni i astudio’r Beibl yn rheolaidd? (Math. 4:5-7; 2 Pedr 3:17, 18; 1 Ioan 4:1)

  3. Darllenwch Ioan 1:29-51.

    At bwy y cyfeiriodd Ioan Fedyddiwr ei ddisgyblion, a sut medrwn ni ddilyn ei esiampl heddiw? (Ioan 1:29, 35, 36; 3:30; Math. 23:10)

  4. Darllenwch Ioan 2:1-12.

    Beth ddysgwn ni o wyrth gyntaf Iesu am garedigrwydd Jehofa tuag at Ei weision? (Ioan 2:9, 10; Salm 84:11; Iago 1:17)

Stori 89

Glanhau’r Deml

  1. Pam roedd anifeiliaid yn cael eu gwerthu yn y deml?

  2. Pam roedd Iesu yn ddig?

  3. Beth wnaeth Iesu yn y deml, a pha orchymyn a roddodd i’r rhai a oedd yn gwerthu colomennod? (Gweler y llun.)

  4. Pan welodd dilynwyr Iesu yr hyn a wnaeth, am beth roedd hyn yn eu hatgoffa?

  5. Trwy ba ardal aeth Iesu ar ei ffordd yn ôl i Galilea?

Cwestiwn ychwanegol:

  1. Darllenwch Ioan 2:13-25.

    Wrth ystyried dicter Iesu ynglŷn â chyfnewid arian yn y deml, sut dylen ni deimlo am fasnachu yn Neuadd y Deyrnas? (Ioan 2:15, 16; 1 Cor. 10:24, 31-33)

Stori 90

Y Wraig Wrth y Ffynnon

  1. Pam roedd Iesu yn eistedd wrth ffynnon yn Samaria, a beth a ddywedodd wrth y wraig?

  2. Pam roedd y wraig wedi ei synnu; beth ddywedodd Iesu wrthi, a pham?

  3. Beth roedd Iesu yn ei feddwl wrth sôn am ddŵr bywiol, ond beth roedd y wraig yn ei feddwl?

  4. Pam roedd y wraig yn rhyfeddu at yr hyn roedd Iesu yn gwybod amdani, ac o ble daeth y wybodaeth hon?

  5. Pa wersi y gallwn ni eu dysgu o hanes y wraig wrth y ffynnon?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Ioan 4:5-43.

    1. O ddilyn esiampl Iesu, sut dylen ni drin pobl o gefndir gwahanol? (Ioan 4:9; 1 Cor. 9:22; 1 Tim. 2:3, 4; Titus 2:11)

    2. Pa fendithion ysbrydol y mae disgyblion Iesu yn eu cael? (Ioan 4:14; Esei. 58:11; 2 Cor. 4:16)

    3. Sut gallwn ni fod yn debyg i’r wraig o Samaria a oedd yn awyddus i rannu’r hyn roedd hi wedi ei ddysgu? (Ioan 4:7, 28; Math. 6:33; Luc 10:40-42)

Stori 91

Y Bregeth ar y Mynydd

  1. Yn y llun, ble mae Iesu yn dysgu’r bobl, a phwy yw’r dynion sy’n eistedd wrth ei ymyl?

  2. Beth yw enwau’r 12 apostol?

  3. Beth yw’r Deyrnas roedd Iesu yn pregethu amdani?

  4. Beth roedd Iesu yn dysgu’r bobl i weddïo amdano?

  5. Beth ddywedodd Iesu am y ffordd y dylai pobl drin ei gilydd?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 5:1-12.

    Sut gallwn ni gydnabod bod angen ysbrydol arnon ni? (Math. 5:3; Rhuf. 10:13-15; 1 Tim. 4:13, 15, 16)

  2. Darllenwch Mathew 5:21-26.

    Sut mae Mathew 5:23, 24 yn dangos bod ein perthynas â’n brodyr yn effeithio ar ein perthynas â Jehofa? (Math. 6:14, 15; Salm 133:1; Col. 3:13; 1 Ioan 4:20)

  3. Darllenwch Mathew 6:1-8.

    Ym mha ffyrdd dylai Cristnogion fod yn ofalus i beidio â bod yn hunan-gyfiawn? (Luc 18:11, 12; 1 Cor. 4:6, 7; 2 Cor. 9:7)

  4. Darllenwch Mathew 6:25-34.

    Beth ddywedodd Iesu am bwysigrwydd dibynnu ar Jehofa am bethau materol? (Ex. 16:4; Salm 37:25; Phil. 4:6)

  5. Darllenwch Mathew 7:1-11.

    Beth mae’r eglureb drawiadol ym Mathew 7:5 yn ei ddysgu inni? (Diar. 26:12; Rhuf. 2:1; 14:10; Iago 4:11, 12)

Stori 92

Iesu yn Atgyfodi’r Meirw

  1. Pwy yw tad y ferch yn y llun, a pham roedd ef a’i wraig yn poeni’n ofnadwy?

  2. Beth a wnaeth Jairus pan ddaeth o hyd i Iesu?

  3. Beth ddigwyddodd wrth i Iesu fynd i dŷ Jairus, a pha neges a gafodd Jairus ar ei ffordd adref?

  4. Pam roedd y bobl yn nhŷ Jairus yn gwneud hwyl am ben Iesu?

  5. Ar ôl mynd â thri o’i apostolion, a’r fam a’r tad i ystafell y ferch, beth a wnaeth Iesu?

  6. Pwy arall a wnaeth Iesu eu hatgyfodi, a beth mae hyn yn ei brofi?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Luc 8:40-56.

    Sut roedd Iesu yn drugarog wrth y wraig â’r gwaedlif, a beth mae hyn yn ei ddysgu i henuriaid heddiw? (Luc 8:43, 44, 47, 48; Lef. 15:25-27; Math. 9:12, 13; Col. 3:12-14)

  2. Darllenwch Luc 7:11-17.

    Pam mae ymateb Iesu i brofedigaeth y wraig weddw o Nain yn gysur i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid? (Luc 7:13; 2 Cor. 1:3, 4; Heb. 4:15)

  3. Darllenwch Ioan 11:17-44.

    Sut dangosodd Iesu mai peth normal yw galaru? (Ioan 11:33-36, 38; 2 Sam. 18:33; 19:1-4)

Stori 93

Iesu yn Bwydo’r Bobl

  1. Beth ddigwyddodd i Ioan Fedyddiwr, a sut roedd Iesu yn teimlo am hynny?

  2. Sut bwydodd Iesu’r dyrfa, a faint o fwyd oedd ar ôl?

  3. Pam roedd ofn ar y disgyblion, a beth ddigwyddodd i Pedr?

  4. Yn ddiweddarach, sut gwnaeth Iesu fwydo tyrfa arall?

  5. Pam fydd bywyd yn braf iawn pan fydd Iesu’n teyrnasu dros y ddaear?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 14:1-32.

    1. Beth mae Mathew 14:23-32 yn ei ddangos am bersonoliaeth Pedr?

    2. Sut mae’r Beibl yn dangos bod Pedr wedi aeddfedu ac wedi dysgu sut i reoli ei bersonoliaeth wyllt? (Math. 14:27-30; Ioan 18:10; 21:7; Act. 2:14, 37-40; 1 Pedr 5:6, 10)

  2. Darllenwch Mathew 15:29-38.

    Sut dangosodd Iesu barch tuag at y pethau materol a ddaeth oddi wrth ei Dad? (Math. 15:37; Ioan 6:12; Col. 3:15)

  3. Darllenwch Ioan 6:1-21.

    Sut gall Cristnogion heddiw ddilyn esiampl Iesu o ran eu perthynas â’r llywodraeth? (Ioan 6:15; Math. 22:21; Rhuf. 12:2; 13:1-4)

Stori 94

Mae Iesu yn Caru Plant

  1. Am beth roedd yr apostolion yn dadlau ar y ffordd?

  2. Pam gwnaeth Iesu osod plentyn bach i sefyll o flaen yr apostolion?

  3. Ym mha ffordd y dylai’r apostolion geisio bod yn fwy tebyg i blant?

  4. Rai misoedd yn ddiweddarach, sut dangosodd Iesu ei fod yn caru plant?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 18:1-4.

    Pam defnyddiodd Iesu eglurebau i ddysgu pobl? (Math. 13:34, 36; Marc 4:33, 34)

  2. Darllenwch Mathew 19:13-15.

    I dderbyn bendithion y Deyrnas, pa rinweddau plant bach y dylen ni eu hefelychu? (Salm 25:9; 138:6; 1 Cor. 14:20)

  3. Darllenwch Marc 9:33-37.

    Pa wers dysgodd Iesu i’w ddisgyblion am eisiau bod yn geffyl blaen? (Marc 9:35; Math. 20:25, 26; Gal. 6:3; Phil. 2:5-8)

  4. Darllenwch Marc 10:13-16.

    Pa mor hawdd oedd hi i bobl fynd at Iesu, a beth gall henuriaid ei ddysgu o’i esiampl? (Marc 6:30-34; Phil. 2:1-4; 1 Tim. 4:12)

Stori 95

Iesu yn Adrodd Stori

  1. Pa gwestiwn a ofynnodd dyn i Iesu, a pham?

  2. Weithiau, sut roedd Iesu yn dysgu gwers, a beth rydyn ni eisoes wedi ei ddysgu am Iddewon a Samariaid?

  3. Yn stori Iesu, beth ddigwyddodd i’r Iddew ar y ffordd i Jericho?

  4. Beth ddigwyddodd pan ddaeth offeiriad Iddewig a Lefiad heibio?

  5. Yn y llun, pwy sy’n helpu’r Iddew?

  6. Ar ddiwedd y stori, pa gwestiwn ofynnodd Iesu, a beth oedd ateb y dyn?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Luc 10:25-37.

    1. Yn hytrach nag ateb y cwestiwn yn uniongyrchol, sut helpodd Iesu’r dyn i resymu? (Luc 10:26; Math. 16:13-16)

    2. Sut roedd Iesu yn defnyddio eglurebau i chwalu rhagfarn y rhai oedd yn gwrando arno? (Luc 10:36, 37; 18:9-14; Titus 1:9)

Stori 96

Iesu yn Gwella Pobl

  1. Beth roedd Iesu yn ei wneud wrth deithio o gwmpas y wlad?

  2. Dair blynedd ar ôl iddo gael ei fedyddio, beth ddywedodd Iesu wrth ei apostolion?

  3. Pwy yw’r bobl yn y llun, a sut helpodd Iesu y wraig?

  4. Pam gwnaeth ymateb Iesu i gŵyn yr arweinwyr crefyddol godi cywilydd arnyn nhw?

  5. Beth wnaeth Iesu i’r ddau ddyn dall a oedd yn cardota ar ochr y ffordd ger Jericho?

  6. Pam roedd Iesu yn gwneud gwyrthiau?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 15:30, 31.

    Beth mae gwyrthiau Iesu yn ei ddangos am nerth Jehofa, a beth mae hynny’n ei ddysgu inni am addewidion Jehofa ar gyfer y dyfodol? (Salm 37:29; Esei. 33:24)

  2. Darllenwch Luc 13:10-17.

    Fe wnaeth Iesu rai o’i wyrthiau mwyaf pwysig ar y Saboth. Sut mae hynny’n dangos beth fydd yn digwydd pan fydd Iesu yn teyrnasu am fil o flynyddoedd? (Luc 13:10-13; Salm 46:9; Math. 12:8; Col. 2:16, 17; Dat. 21:1-4)

  3. Darllenwch Mathew 20:29-34.

    Sut mae’r hanes hwn yn dangos nad oedd Iesu byth yn rhy brysur i helpu pobl, a beth yw’r wers i ni? (Deut. 15:7; Iago 2:15, 16; 1 Ioan 3:17)

Stori 97

Gorymdaith Frenhinol

  1. Pan gyrhaeddodd Iesu bentref bach yn ymyl Jerwsalem, beth ddywedodd wrth ei ddisgyblion?

  2. Beth ddigwyddodd pan wnaeth Iesu nesáu at ddinas Jerwsalem? (Gweler y llun.)

  3. Beth oedd ymateb y plant o weld Iesu yn iacháu pobl a oedd yn ddall ac yn anabl?

  4. Beth ddywedodd Iesu wrth yr offeiriaid dig?

  5. Sut gallwn ni fod yn debyg i’r plant a oedd yn moli Iesu?

  6. Beth roedd y disgyblion yn awyddus i’w wybod?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 21:1-17.

    1. Sut roedd gorymdaith frenhinol Iesu yn wahanol iawn i orymdeithiau buddugol cadfridogion Rhufeinig? (Math. 21:4, 5; Sech. 9:9; Phil. 2:5-8; Col. 2:15)

    2. Pa wers gall rhai ifanc ei dysgu o esiampl y bechgyn a oedd yn dyfynnu geiriau Salm 118 wrth i Iesu fynd i mewn i’r deml? (Math. 21:9, 15; Salm 118:25, 26; 2 Tim. 3:15; 2 Pedr 3:18)

  2. Darllenwch Ioan 12:12-16.

    Beth oedd arwyddocâd y palmwydd yn nwylo’r bobl a oedd yn croesawu Iesu? (Ioan 12:13; Phil. 2:10; Dat. 7:9, 10)

Stori 98

Ar Fynydd yr Olewydd

  1. Pa un o’r dynion yn y llun yw Iesu, a phwy yw’r lleill?

  2. Beth roedd yr offeiriaid yn ceisio ei wneud i Iesu yn y deml, a beth ddywedodd Iesu wrthyn nhw?

  3. Beth a ofynnodd yr apostolion i Iesu?

  4. Pam disgrifiodd Iesu rai o’r pethau a fyddai’n digwydd ar y ddaear pan oedd ef yn teyrnasu yn y nefoedd?

  5. Beth ddywedodd Iesu y byddai’n digwydd cyn iddo gael gwared ar yr holl ddrygioni yn y byd?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 23:1-39.

    1. Er bod y Beibl yn dangos nad yw’n anaddas i Gristnogion ddefnyddio teitlau i ddangos parch, beth mae Mathew 23:8-11 yn ei ddangos ynglŷn â defnyddio teitlau crefyddol? (Act. 26:25; Rhuf. 13:7; 1 Pedr 2:13, 14)

    2. Sut roedd y Phariseaid yn ceisio rhwystro pobl rhag dod yn Gristnogion, a sut mae arweinwyr crefyddol yn gwneud pethau tebyg heddiw? (Math. 23:13; Luc 11:52; Ioan 9:22; 12:42; 1 Thes. 2:16)

  2. Darllenwch Mathew 24:1-14.

    1. Sut mae Mathew 24:13 yn dangos pwysigrwydd dyfalbarhau?

    2. Beth yw’r “diwedd” y mae sôn amdano ym Mathew 24:13? (Math. 16:27; Rhuf. 14:10-12; 2 Cor. 5:10)

  3. Darllenwch Marc 13:3-10.

    Pa eiriau ym Marc 13:10 sy’n dangos mai mater o frys yw pregethu’r newyddion da, a sut dylen ni ymateb i eiriau Iesu? (Rhuf. 13:11, 12; 1 Cor. 7:29-31; 2 Tim. 4:2)

Stori 99

Swper Arbennig

  1. Pam roedd Iesu a’r 12 apostol wedi dod at ei gilydd mewn ystafell fawr? (Gweler y llun.)

  2. Pwy yw’r dyn sy’n gadael, a beth roedd yn mynd i’w wneud?

  3. Pa swper arbennig a gyflwynodd Iesu ar ôl swper y Pasg?

  4. O beth roedd y Pasg yn atgoffa’r Israeliaid, ac o beth mae’r swper arbennig yn atgoffa dilynwyr Iesu?

  5. Ar ôl Swper yr Arglwydd, beth ddywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr, a beth wnaethon nhw wedyn?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 26:14-30.

    1. Sut mae Mathew 26:15 yn dangos bod Jwdas wedi bradychu Iesu yn fwriadol?

    2. Pa ddau bwrpas sydd i’r gwaed a dywalltodd Iesu? (Math. 26:27, 28; Jer. 31:31-33; Eff. 1:7; Heb. 9:19, 20)

  2. Darllenwch Luc 22:1-39.

    Beth mae’r Beibl yn ei feddwl pan ddywed fod Satan wedi mynd i mewn i Jwdas? (Luc 22:3; Ioan 13:2; Act. 1:24, 25)

  3. Darllenwch Ioan 13:1-20.

    1. O ystyried y geiriau yn Ioan 13:2, a oedd Jwdas yn gyfrifol am yr hyn a wnaeth, a beth yw’r wers i weision Duw heddiw? (Gen. 4:7; 2 Cor. 2:11; Gal. 6:1; Iago 1:13, 14)

    2. Beth a wnaeth Iesu i ddysgu gwers bwysig i’w ddisgyblion? (Ioan 13:15; Math. 23:11; 1 Pedr 2:21)

  4. Darllenwch Ioan 17:1-26.

    Beth oedd ystyr geiriau gweddi Iesu am i’w ddilynwyr fod “yn un”? (Ioan 17:11, 21-23; Rhuf. 13:8; 14:19; Col. 3:14)

Stori 100

Yng Ngardd Gethsemane

  1. Lle aeth Iesu a’r apostolion ar ôl gadael yr ystafell fawr, a beth ddywedodd Iesu wrthyn nhw am ei wneud?

  2. Beth roedd yr apostolion yn ei wneud pan ddaeth Iesu yn ôl atyn nhw, a sawl gwaith digwyddodd hyn?

  3. Pwy ddaeth i mewn i’r ardd, a beth a wnaeth Jwdas Iscariot? (Gweler y llun.)

  4. Pam rhoddodd Jwdas gusan i Iesu, a beth a wnaeth Pedr?

  5. Beth ddywedodd Iesu wrth Pedr, ond pam na wnaeth Iesu ofyn i’w Dad am help yr angylion?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 26:36-56.

    1. Sut roedd Iesu’n rhoi cyngor i’w ddisgyblion a sut mae hynny’n esiampl dda i henuriaid heddiw? (Math. 20:25-28; 26:40, 41; Gal. 5:17; Eff. 4:29, 31, 32)

    2. Beth oedd barn Iesu ar godi arfau yn erbyn cyd-ddyn? (Math. 26:52; Luc 6:27, 28; Ioan 18:36)

  2. Darllenwch Luc 22:39-53.

    Pan ddaeth angel i gryfhau Iesu yng ngardd Gethsemane, a oedd hynny’n dangos bod ffydd Iesu yn pallu? Eglurwch. (Luc 22:41-43; Esei. 49:8; Math. 4:10, 11; Heb. 5:7)

  3. Darllenwch Ioan 18:1-12.

    Sut amddiffynnodd Iesu ei ddisgyblion rhag ei elynion, a beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Iesu? (Ioan 10:11, 12; 18:1, 6-9; Heb. 13:6; Iago 2:25)

Stori 101

Iesu yn Cael ei Ladd

  1. Pwy oedd yn bennaf gyfrifol am farwolaeth Iesu?

  2. Beth wnaeth yr apostolion ar ôl i’r arweinwyr crefyddol fynd â Iesu i ffwrdd?

  3. Beth ddigwyddodd yn nhŷ’r archoffeiriad Caiaffas?

  4. Pam torrodd Pedr ei galon?

  5. Ar ôl i Iesu gael ei anfon yn ôl at Pilat, beth waeddodd y prif offeiriaid?

  6. Beth ddigwyddodd i Iesu yn gynnar brynhawn dydd Gwener, a pha addewid a roddodd i’r troseddwr ar y stanc wrth ei ymyl?

  7. Ble bydd y Baradwys y siaradodd Iesu amdani?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 26:57-75.

    Sut dangosodd aelodau o uchel lys yr Iddewon fod eu calonnau’n ddrwg? (Math. 26:59, 67, 68)

  2. Darllenwch Mathew 27:1-50.

    Pam gallwn ddweud nad oedd Jwdas yn wir edifar? (Math. 27:3, 4; Marc 3:29; 14:21; 2 Cor. 7:10, 11)

  3. Darllenwch Luc 22:54-71.

    Beth gallwn ni ei ddysgu o hanes Pedr yn gwadu Iesu ar y noson y cafodd ei fradychu a’i arestio? (Luc 22:60-62; Math. 26:31-35; 1 Cor. 10:12)

  4. Darllenwch Luc 23:1-49.

    Beth oedd ymateb Iesu i’r anghyfiawnder a wynebodd, a beth mae hyn yn ei ddysgu inni? (Luc 23:33, 34; Rhuf. 12:17-19; 1 Pedr 2:23)

  5. Darllenwch Ioan 18:12-40.

    Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffaith fod Pedr wedi dod dros ei ofn a mynd ymlaen i fod yn apostol arbennig? (Ioan 18:25-27; 1 Cor. 4:2; 1 Pedr 3:14, 15; 5:8, 9)

  6. Darllenwch Ioan 19:1-30.

    1. Beth oedd agwedd gytbwys Iesu tuag at bethau materol? (Ioan 2:1, 2, 9, 10; 19:23, 24; Math. 6:31, 32; 8:20)

    2. Sut mae geiriau olaf Iesu yn profi ei fod wedi llwyddo i gefnogi sofraniaeth Jehofa hyd at y diwedd? (Ioan 16:33; 19:30; 2 Pedr 3:14; 1 Ioan 5:4)

Stori 102

Mae Iesu yn Fyw

  1. Pwy yw’r bobl yn y llun, a ble maen nhw?

  2. Pam dywedodd Pilat wrth yr offeiriaid am anfon milwyr i warchod bedd Iesu?

  3. Yn gynnar ar y trydydd dydd ar ôl i Iesu farw, beth wnaeth angel, ond beth wnaeth yr offeiriaid?

  4. Pam roedd y gwragedd wedi eu syfrdanu o weld bod bedd Iesu yn wag?

  5. Pam rhedodd Pedr ac Ioan at fedd Iesu, a beth a welon nhw yno?

  6. Beth ddigwyddodd i gorff Iesu, ond beth roedd Iesu yn ei wneud er mwyn dangos i’w ddisgyblion ei fod yn fyw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Mathew 27:62-66 a 28:1-15.

    Pan gafodd Iesu ei atgyfodi, sut gwnaeth yr archoffeiriaid, y Phariseaid, a’r henuriaid bechu yn erbyn yr ysbryd glân? (Math. 12:24, 31, 32; 28:11-15)

  2. Darllenwch Luc 24:1-12.

    Sut mae hanes atgyfodiad Iesu yn dangos bod Jehofa yn ystyried gwragedd i fod yn dystion dibynadwy? (Luc 24:4, 9, 10; Math. 28:1-7)

  3. Darllenwch Ioan 20:1-12.

    Sut mae Ioan 20:8, 9 yn ein helpu ni i fod yn amyneddgar os nad ydyn ni’n deall cyflawniad rhyw broffwydoliaeth yn y Beibl? (Diar. 4:18; Math. 17:22, 23; Luc 24:5-8; Ioan 16:12)

Stori 103

Ymddangos i’r Disgyblion

  1. Beth ddywedodd Mair wrth y dyn yr oedd hi’n meddwl oedd y garddwr, ond beth a wnaeth iddi sylweddoli mai Iesu oedd y dyn?

  2. Beth ddigwyddodd i ddau o’r disgyblion ar y ffordd i bentref Emaus?

  3. Beth ddigwyddodd pan ddywedodd y ddau ddisgybl wrth yr apostolion eu bod nhw wedi gweld Iesu?

  4. Faint o weithiau roedd Iesu wedi ymddangos i’w ddisgyblion hyd yn hyn?

  5. Beth ddywedodd Thomas pan glywodd fod y disgyblion wedi gweld yr Arglwydd, a beth ddigwyddodd tua wythnos yn ddiweddarach?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Ioan 20:11-29.

    Ydy geiriau Iesu yn Ioan 20:23 yn golygu bod gan ddynion yr awdurdod i faddau pechodau? Eglurwch. (Salm 49:2, 7; Esei. 55:7; 1 Tim. 2:5, 6; 1 Ioan 2:1, 2)

  2. Darllenwch Luc 24:13-43.

    Sut gallwn ni sicrhau bod neges y Beibl yn cyffwrdd â’n calonnau? (Luc 24:32, 33; Esra 7:10; Act. 16:14; Heb. 5:11-14)

Stori 104

Yn ôl i’r Nefoedd

  1. Ar un achlysur, faint o ddisgyblion a welodd Iesu a beth roedd Iesu yn siarad amdano?

  2. Beth yw Teyrnas Dduw, a beth fydd yn digwydd ar y ddaear pan fydd Iesu’n teyrnasu am fil o flynyddoedd?

  3. Am faint o ddyddiau roedd Iesu’n ymddangos i’w ddisgyblion, ond i ble roedd yn rhaid iddo fynd nesaf?

  4. Cyn gadael ei ddisgyblion, pa orchymyn a roddodd Iesu iddyn nhw?

  5. Beth sy’n digwydd yn y llun, a sut cafodd Iesu ei guddio o olwg ei ddisgyblion?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch 1 Corinthiaid 15:3-8.

    Pam roedd yr apostol Paul mor sicr fod Iesu wedi cael ei atgyfodi, ac am beth y gall Cristnogion heddiw bregethu yn hyderus? (1 Cor. 15:4, 7, 8; Esei. 2:2, 3; Math. 24:14; 2 Tim. 3:1-5)

  2. Darllenwch Actau 1:1-11.

    Pa mor bell lledaenodd y gwaith pregethu, fel y rhagfynegwyd yn Actau 1:8? (Act. 6:7; 9:31; 11:19-21; Col. 1:23)

Stori 105

Aros yn Jerwsalem

  1. Beth ddigwyddodd i ddilynwyr Iesu yn Jerwsalem? (Gweler y llun.)

  2. Pam roedd yr ymwelwyr yn Jerwsalem wedi eu syfrdanu?

  3. Beth ddywedodd Pedr wrth y dyrfa?

  4. Sut roedd y bobl yn teimlo ar ôl iddyn nhw glywed geiriau Pedr, a beth ddywedodd Pedr wrthyn nhw am ei wneud?

  5. Faint o bobl gafodd eu bedyddio ar ddiwrnod Pentecost 33 OG?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 2:1-47.

    1. Sut mae geiriau Pedr yn Actau 2:23, 36 yn dangos bod holl dŷ Israel wedi rhannu’r cyfrifoldeb am farwolaeth Iesu? (1 Thes. 2:14, 15)

    2. Sut gosododd Pedr esiampl dda o ran defnyddio Gair Duw? (Act. 2:16, 17, 29, 31, 36, 39; Col. 4:6)

    3. Sut defnyddiodd Pedr yr un gyntaf o “allweddau teyrnas nefoedd”? (Act. 2:14, 22-24, 37, 38; Math. 16:19)

Stori 106

Rhyddhau’r Apostolion

  1. Beth ddigwyddodd i Pedr ac Ioan wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r deml?

  2. Beth ddywedodd Pedr wrth y dyn cloff, a beth roddodd Pedr iddo sy’n llawer mwy gwerthfawr nag arian?

  3. Pam roedd yr arweinwyr crefyddol yn flin, a beth a wnaethon nhw i Pedr ac Ioan?

  4. Beth ddywedodd Pedr wrth yr arweinwyr crefyddol, a pha rybudd gafodd yr apostolion?

  5. Pam roedd yr arweinwyr crefyddol yn genfigennus, ond beth ddigwyddodd pan gafodd yr apostolion eu carcharu am yr ail dro?

  6. Beth ddywedodd yr apostolion wrth yr arweinwyr crefyddol yn neuadd y Sanhedrin?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 3:1-10.

    Er nad ydyn ni’n gallu gwneud gwyrthiau heddiw, sut mae geiriau Pedr yn Actau 3:6 yn ein helpu ni i weld gwerth neges y Deyrnas? (Ioan 17:3; 2 Cor. 5:18-20; Phil. 3:8)

  2. Darllenwch Actau 4:1-31.

    Pan fydd pobl yn ein gwrthwynebu yn y weinidogaeth, sut gallwn ni efelychu ein brodyr yn y ganrif gyntaf? (Act. 4:29, 31; Eff. 6:18-20; 1 Thes. 2:2)

  3. Darllenwch Actau 5:17-42.

    Sut mae rhai nad ydyn nhw’n wir Gristnogion wedi bod yn rhesymol yn eu hagwedd tuag at y gwaith pregethu? (Act. 5:34-39)

Stori 107

Steffan yn Cael ei Ladd

  1. Pwy oedd Steffan, a beth oedd Duw yn ei helpu i’w wneud?

  2. Beth ddywedodd Steffan a oedd yn gwylltio’r arweinwyr crefyddol?

  3. Ar ôl i’r dynion lusgo Steffan allan o’r ddinas, beth wnaethon nhw?

  4. Yn y llun, pwy yw’r dyn ifanc sy’n sefyll wrth ymyl y cotiau?

  5. Beth ddywedodd Steffan wrth Jehofa mewn gweddi cyn iddo farw?

  6. Sut dylen ni fod fel Steffan pan fydd rhywun yn gas wrthon ni?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 6:8-15.

    Sut mae arweinwyr crefyddol wedi ceisio rhwystro gwaith pregethu Tystion Jehofa? (Act. 6:9, 11, 13)

  2. Darllenwch Actau 7:1-60.

    1. Beth oedd yn helpu Steffan i fod yn effeithiol wrth amddiffyn y newyddion da o flaen y Sanhedrin, a beth mae ei esiampl yn ei ddysgu inni? (Act. 7:51-53; Rhuf. 15:4; 2 Tim. 3:14-17; 1 Pedr 3:15)

    2. Beth yw agwedd Cristnogion tuag at y rhai sy’n gwrthwynebu eu gwaith? (Act. 7:58-60; Math. 5:44; Luc 23:33, 34)

Stori 108

Ar y Ffordd i Ddamascus

  1. Beth wnaeth Saul ar ôl i Steffan gael ei ladd?

  2. Beth ddigwyddodd i Saul ar ei ffordd i Ddamascus?

  3. Beth ddywedodd Iesu wrth Saul am ei wneud?

  4. Beth ddywedodd Iesu wrth Ananias, a sut cafodd Saul ei olwg yn ôl?

  5. Pa enw arall oedd ar Saul, a beth a wnaeth yn nerth Jehofa?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 8:1-4.

    Sut roedd erledigaeth y Cristnogion cynnar yn achosi i’r ffydd ledaenu, a sut mae rhywbeth tebyg wedi digwydd yn yr oes fodern? (Act. 8:4; Esei. 54:17)

  2. Darllenwch Actau 9:1-20.

    I ba dri grŵp roedd Iesu am i Saul bregethu? (Act. 9:15; 13:5; 26:1; 27:24; Rhuf. 11:13)

  3. Darllenwch Actau 22:6-16.

    Sut gallwn ni ddilyn esiampl Ananias, a pham mae hynny’n bwysig? (Act. 22:12; 1 Tim. 3:7; 1 Pedr 1:14-16; 2:12)

  4. Darllenwch Actau 26:8-20.

    Sut mae tröedigaeth Saul yn codi calon rhywun sydd â chymar nad yw’n Gristion? (Act. 26:11; 1 Tim. 1:14-16; 2 Tim. 4:2; 1 Pedr 3:1-3)

Stori 109

Pedr a Cornelius

  1. Pwy yw’r dyn sy’n ymgrymu o flaen Pedr?

  2. Beth ddywedodd angel wrth Cornelius?

  3. Beth a welodd Pedr mewn gweledigaeth tra ei fod ar do tŷ Simon?

  4. Pam dywedodd Pedr wrth Cornelius am beidio ag ymgrymu o’i flaen a’i addoli?

  5. Pam roedd y disgyblion gyda Pedr wedi eu syfrdanu?

  6. Beth gallwn ni ei ddysgu o ymweliad Pedr i dŷ Cornelius?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 10:1-48.

    Beth mae geiriau Pedr yn Actau 10:42 yn ei ddangos am y gwaith o bregethu newyddion da’r Deyrnas? (Math. 28:19; Marc 13:10; Act. 1:8)

  2. Darllenwch Actau 11:1-18.

    Beth oedd ymateb Pedr i gyfarwyddyd Jehofa ynglŷn â phregethu i’r Cenhedloedd, a sut medrwn ni efelychu ei esiampl? (Act. 11:17, 18; 2 Cor. 10:5; Eff. 5:17)

Stori 110

Timotheus yn Helpu Paul

  1. Pwy yw’r dyn ifanc yn y llun, lle mae’n byw, a beth yw enwau ei fam a’i nain?

  2. Beth ddywedodd Timotheus pan ofynnodd Paul iddo fynd gydag ef a Silas ar daith bregethu?

  3. Ym mha le cafodd dilynwyr Iesu eu galw’n Gristnogion am y tro cyntaf?

  4. Lle aeth Paul, Silas, a Timotheus ar ôl iddyn nhw adael Lystra?

  5. Sut roedd Timotheus yn helpu Paul, a pha gwestiwn dylai pobl ifanc ofyn iddyn nhw eu hunain?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 9:19-30.

    Sut roedd yr apostol Paul yn ymateb yn ddoeth i wrthwynebiad? (Act. 9:22-25, 29, 30; Math. 10:16)

  2. Darllenwch Actau 11:19-26.

    Sut mae’r hanes yn Actau 11:19-21, 26 yn dangos mai ysbryd Jehofa sy’n arwain y gwaith pregethu?

  3. Darllenwch Actau 13:13-16, 42-52.

    Sut mae Actau 13:51, 52 yn dangos nad oedd y disgyblion yn gadael i wrthwynebiad eu digalonni? (Math. 10:14; Act. 18:6; 1 Pedr 4:14)

  4. Darllenwch Actau 14:1-6, 19-28.

    Sut mae’r cyngor i ‘gyflwyno’ pobl newydd i ofal Jehofa yn ein helpu ni i beidio â phryderu’n ormodol amdanyn nhw? (Act. 14:21-23; 20:32; Ioan 6:44)

  5. Darllenwch Actau 16:1-5.

    Sut mae’r ffaith fod Timotheus yn fodlon cael ei enwaedu yn dangos pa mor bwysig yw “gwneud pob peth” dros y newyddion da? (Act. 16:3; 1 Cor. 9:23; 1 Thes. 2:8)

  6. Darllenwch Actau 18:1-11, 18-22.

    Sut mae Actau 18:9, 10 yn dangos mai Iesu sy’n arwain y gwaith pregethu, a sut mae hynny’n rhoi hyder inni heddiw? (Math. 28:20)

Stori 111

Bachgen a Aeth i Gysgu

  1. Yn y llun, pwy yw’r bachgen ar y llawr, a beth ddigwyddodd iddo?

  2. Beth a wnaeth Paul pan welodd fod y bachgen wedi marw?

  3. Lle roedd Paul, Timotheus, a’r rhai oedd yn teithio gyda nhw’n mynd, a beth ddigwyddodd ym Miletus?

  4. Pa rybudd oedd gan y proffwyd Agabus ar gyfer Paul, a sut daeth ei eiriau’n wir?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 20:7-38.

    1. Yn ôl geiriau Paul yn Actau 20:26, 27, sut gallwn ni fod ‘yn ddieuog o waed unrhyw un’? (Esec. 33:8; Act. 18:6, 7)

    2. Pam dylai pob henuriad “ddal ei afael yn dynn yn y gair” wrth iddo ddysgu eraill? (Act. 20:17, 29, 30; Titus 1:7-9; 2 Tim. 1:13)

  2. Darllenwch Actau 26:24-32.

    Sut defnyddiodd Paul ei ddinasyddiaeth Rufeinig i gyflawni’r comisiwn i bregethu? (Act. 9:15; 16:37, 38; 25:11, 12; 26:32; Luc 21:12, 13)

Stori 112

Llongddrylliad

  1. Beth ddigwyddodd i’r llong yr oedd Paul arni wrth fynd heibio ynys Creta?

  2. Beth ddywedodd Paul wrth bawb ar y llong?

  3. Sut cafodd y llong ei chwalu’n ddarnau?

  4. Beth ddywedodd y swyddog, a faint o bobl gafodd eu hachub?

  5. Beth oedd enw’r ynys, a beth ddigwyddodd i Paul pan gododd y tywydd?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 27:1-44.

    Sut mae’r hanes am daith Paul i Rufain yn cryfhau ein hyder yng nghywirdeb y Beibl? (Act. 27:16-19, 27-32; Luc 1:3; 2 Tim. 3:16, 17)

  2. Darllenwch Actau 28:1-14.

    Os oedd pobl Malta, a hwythau’n baganiaid, yn garedig wrth yr apostol Paul a’i gymdeithion, sut dylai Cristnogion fod yn garedig heddiw? (Act. 28:1, 2; Heb. 13:1, 2; 1 Pedr 4:9)

Stori 113

Paul yn Rhufain

  1. I bwy roedd Paul yn pregethu tra ei fod yn y carchar yn Rhufain?

  2. Yn y llun, pwy yw’r dyn wrth y bwrdd, a sut roedd yn helpu Paul?

  3. Pwy oedd Epaffroditus, a beth a roddodd i’r Cristnogion yn Philipi?

  4. Pam ysgrifennodd Paul at ei ffrind annwyl Philemon?

  5. Beth wnaeth Paul ar ôl iddo gael ei ryddhau, a beth ddigwyddodd iddo wedyn?

  6. Pwy gafodd ei ysbrydoli gan Jehofa i ysgrifennu llyfrau olaf y Beibl, ac am beth mae llyfr Datguddiad yn sôn?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Actau 28:16-31 a Philipiaid 1:13.

    Sut defnyddiodd Paul ei amser tra ei fod yn y carchar yn Rhufain, a sut gwnaeth ei ffydd gadarn effeithio ar y gynulleidfa Gristnogol? (Act. 28:23, 30; Phil. 1:14)

  2. Darllenwch Philipiaid 2:19-30.

    Sut dangosodd Paul ei fod yn gwerthfawrogi Timotheus ac Epaffroditus, a sut gallwn ni efelychu ei esiampl? (Phil. 2:20, 22, 25, 29, 30; 1 Cor. 16:18; 1 Thes. 5:12, 13)

  3. Darllenwch Philemon 1-25.

    1. Wrth annog Philemon, beth oedd sail apêl Paul, a sut gall henuriaid heddiw efelychu ei esiampl? (Philem. 9; 2 Cor. 8:8; Gal. 5:13)

    2. Sut mae geiriau Paul yn Philemon 13, 14 yn dangos ei fod yn parchu cydwybod pobl eraill yn y gynulleidfa? (1 Cor. 8:7, 13; 10:31-33)

  4. Darllenwch 2 Timotheus 4:7-9.

    Fel yr apostol Paul, sut gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni os arhoswn yn ffyddlon hyd y diwedd? (Math. 24:13; Heb. 6:10)

Stori 114

Diwedd Pob Drygioni

  1. Pam mae’r Beibl yn sôn am geffylau yn y nefoedd?

  2. Beth yw enw rhyfel Duw yn erbyn pobl ddrwg ar y ddaear, a beth bydd y rhyfel hwnnw yn ei wneud?

  3. Yn y llun, pwy sy’n arwain y fyddin, a pham mae coron a chleddyf ganddo?

  4. O edrych yn ôl ar Storïau 10, 15, a 33, pam na ddylwn ni synnu bod Duw yn mynd i ddinistrio pobl ddrwg?

  5. Sut mae Storïau 36 a 76 yn dangos na fydd Jehofa yn arbed pobl ddrwg sy’n honni eu bod nhw’n addoli Duw?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Datguddiad 19:11-16.

    1. Sut mae’r Beibl yn dangos mai Iesu Grist yw marchog y ceffyl gwyn? (Dat. 1:5; 3:14; 19:11; Esei. 11:4)

    2. Sut mae’r gwaed ar fantell Iesu yn dangos ei fod yn llwyr fuddugol? (Dat. 14:18-20; 19:13)

    3. Pwy, mae’n debyg, fydd yn rhan o’r fyddin sy’n dilyn Iesu ar ei geffyl gwyn? (Dat. 2:26, 27; 12:7; 19:14; Math. 25:31, 32)

Stori 115

Y Baradwys Newydd

  1. Sut mae’r Beibl yn disgrifio bywyd yn y Baradwys ar y ddaear?

  2. Beth mae’r Beibl yn ei addo ar gyfer y rhai fydd yn byw yn y Baradwys?

  3. Pryd bydd Iesu yn troi’r ddaear yn baradwys?

  4. Beth a wnaeth Iesu tra ei fod ar y ddaear i ddangos beth y byddai’n ei wneud pan fyddai’n Frenin ar Deyrnas Dduw?

  5. Sut bydd Iesu a’r rhai sy’n teyrnasu gydag ef yn gofalu am bawb ar y ddaear?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Datguddiad 5:9, 10.

    Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd y rhai sy’n frenhinoedd ac yn offeiriaid yn ystod y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd yn garedig ac yn drugarog? (Eff. 4:20-24; 1 Pedr 1:7; 3:8; 5:6-10)

  2. Darllenwch Datguddiad 14:1-3.

    Beth a olygir gan y ffaith fod enw’r Tad ac enw’r Oen ar dalcennau’r 144,000? (1 Cor. 3:23; 2 Tim. 2:19; Dat. 3:12)

Stori 116

Byw am Byth

  1. Pwy y mae angen inni ei adnabod er mwyn byw am byth?

  2. Yn debyg i’r ferch fach a’i ffrindiau yn y llun, sut gallwn ni ddysgu am Jehofa a Iesu?

  3. Beth yw’r llyfr arall yn y llun, a pham dylen ni ei ddarllen yn rheolaidd?

  4. Yn ogystal â dysgu am Jehofa a Iesu, beth arall sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn byw am byth?

  5. Beth yw’r wers yn Stori 69?

  6. Beth mae esiampl dda Samuel yn Stori 55 yn ei ddangos?

  7. Sut gallwn ni ddilyn esiampl Iesu Grist, ac o wneud hynny, pa fendith a gawn ni yn y dyfodol?

Cwestiynau ychwanegol:

  1. Darllenwch Ioan 17:3.

    Sut mae’r Beibl yn dangos bod adnabod Jehofa Dduw a Iesu Grist yn golygu mwy na dysgu ffeithiau amdanyn nhw? (Math. 7:21; Iago 2:18-20; 1 Ioan 2:17)

  2. Darllenwch Salm 145:1-21.

    1. Pa resymau sydd gennyn ni i glodfori Jehofa? (Salm 145:8-11; Dat. 4:11)

    2. Sut mae Jehofa yn “dda wrth bawb,” a sut mae hyn yn ein tynnu ni yn nes ato? (Salm 145:9; Math. 5:43-45)

    3. Os yw Jehofa yn annwyl iawn inni, beth byddwn ni’n dymuno ei wneud? (Salm 119:171, 172, 175; 145:11, 12, 21)