Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 1

Edrychwch at Dduw am Briodas Hapus

Edrychwch at Dduw am Briodas Hapus

“Yn wryw a benyw y gwnaeth y creawdwr hwy o’r dechreuad.”—Mathew 19:4

Trefnodd Jehofa a y briodas gyntaf. Mae’r Beibl yn dweud mai Jehofa greodd y ddynes gyntaf, ac yna ‘ddaeth â hi at y dyn.’ Roedd Adda mor hapus nes iddo ddweud: “Dyma hi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd.” (Genesis 2:22, 23) Dymuniad Jehofa hyd heddiw yw i bobl briod fod yn hapus.

Ar ôl ichi briodi, efallai byddwch yn disgwyl i bopeth fod yn berffaith. Ond, mewn gwirionedd, bydd hyd yn oed gŵr a gwraig sy’n caru ei gilydd yn fawr iawn yn wynebu problemau o dro i dro. (1 Corinthiaid 7:28) Yn y llyfryn hwn, byddwch yn darganfod egwyddorion o’r Beibl sy’n gallu gwneud eich priodas a’ch teulu yn hapus.—Salm 19:8-11.

1 DERBYNIWCH Y RHAN MAE JEHOFA WEDI EI RHOI ICHI

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Y gŵr yw pen y teulu.—Effesiaid 5:23.

Os ydych chi’n ŵr, mae Jehofa yn disgwyl ichi ofalu’n dyner am eich gwraig. (1 Pedr 3:7) Creodd Jehofa hi er mwyn eich helpu a’ch cynorthwyo, ac mae’n disgwyl ichi ei thrin hi gyda pharch a chariad. (Genesis 2:18) Dylech chi garu’ch gwraig gymaint nes eich bod yn fodlon rhoi ei hanghenion hi o flaen rhai eich hun.—Effesiaid 5:25-29.

Os ydych chi’n wraig, mae Jehofa yn disgwyl i chi barchu eich gŵr a’i helpu i gyflawni ei gyfrifoldebau. (1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 5:33) Cefnogwch ei benderfyniadau a chydweithiwch gydag ef ym mhob peth. (Colosiaid 3:18) Pan fyddwch yn gwneud hynny, fe fyddwch yn werthfawr yng ngolwg eich gŵr ac yng ngolwg Jehofa.—1 Pedr 3:1-6.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gofynnwch i’ch cymar sut y gallwch chi wella fel gŵr neu wraig. Gwrandewch yn astud, a gwnewch eich gorau i wella

  • Byddwch yn amyneddgar. Fe fydd hi’n cymryd amser i’r ddau ohonoch ddysgu sut i wneud eich gilydd yn hapus

2 GWIR OFALWCH AM DEIMLADAU EICH CYMAR

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Mae angen gofalu am anghenion eich cymar. (Philipiaid 2:3, 4) Cofiwch fod eich cymar yn werthfawr, a bod Jehofa yn gofyn i’w weision fod “yn dirion tuag at bawb.” (2 Timotheus 2:24) Mae geiriau difeddwl “fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iacháu.” Felly, dewiswch eich geiriau’n ofalus. (Diarhebion 12:18) Bydd ysbryd Jehofa yn eich helpu i siarad yn gariadus.—Galatiaid 5:22, 23; Colosiaid 4:6.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gweddïwch am help i aros yn dawel ac i gadw meddwl agored cyn trafod materion pwysig gyda’ch cymar

  • Meddyliwch yn ofalus am yr hyn rydych chi am ei ddweud a sut i’w ddweud

3 MEDDYLIWCH FEL TÎM

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Wrth ichi briodi, rydych chi a’ch cymar yn dod yn “un cnawd.” (Mathew 19:5) Ond, unigolion ydych chi, ac efallai bydd gennych chi farn wahanol weithiau. Felly, bydd rhaid ichi ddysgu i fod yn unol yn eich meddyliau a’ch teimladau. (Philipiaid 2:2) Mae undod yn hanfodol wrth wneud penderfyniadau. Mae’r Beibl yn dweud: “Sicrheir cynlluniau trwy gyngor.” (Diarhebion 20:18) Wrth ichi wneud penderfyniadau pwysig gyda’ch gilydd, gadewch i egwyddorion y Beibl eich arwain chi.—Diarhebion 8:32, 33.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Rhannwch eich teimladau gyda’ch cymar yn ogystal â gwybodaeth neu farn

  • Siaradwch gyda’ch cymar cyn gwneud penderfyniadau

a Yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, mae’n datgelu mai Jehofa yw enw Duw.