Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 1

Bydda i’n Chwilio am yr Un Coll

Bydda i’n Chwilio am yr Un Coll

Mae’r ddafad wedi drysu’n llwyr. Rywsut neu’i gilydd, wrth iddi bori’r glaswellt, crwydrodd oddi wrth y defaid eraill. Nawr, mae hi’n methu gweld y praidd na’r bugail. Mae’n dechrau tywyllu. Ar goll mewn dyffryn lle mae anifeiliaid ysglyfaethus yn llechu, mae hi’n gwbl ddiamddiffyn. O’r diwedd, mae hi’n clywed llais cyfarwydd—llais y bugail, sy’n rhedeg at y ddafad, yn ei chodi a’i lapio yn ei ddilledyn, ac yn ei chario hi adref.

MAE Jehofa yn aml yn cymharu ei hun â bugail o’r fath. Yn ei Air, mae’n ein sicrhau: “Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid . . . Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw.”—Eseciel 34:11, 12, 15.

Y Defaid yn Fy Ngofal

Pwy yw defaid Jehofa? Yn syml, y rhai sy’n caru Jehofa ac yn ei addoli. Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo; mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD ein Crëwr. Fe ydy’n Duw ni, a ni ydy ei bobl e; y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw.” (Salm 95:6, 7) Fel mae defaid llythrennol yn dilyn bugail, mae addolwyr Jehofa yn awyddus i ddilyn eu Bugail nhw. Ydyn nhw’n berffaith? Nac ydyn. Mae gweision Duw ar adegau “wedi mynd ar chwâl” ac “fel defaid wedi mynd ar goll.” (Eseciel 34:12; Mathew 15:24; 1 Pedr 2:25) Er hynny, pan fydd rhywun yn crwydro i ffwrdd, dydy Jehofa ddim yn cefnu arno nac yn meddwl ei fod y tu hwnt i bob gobaith.

Wyt ti’n teimlo bod Jehofa yn dal yn Fugail i ti? Sut mae Jehofa yn dangos ei fod yn Fugail heddiw? Ystyria dair ffordd:

Mae’n ein bwydo ni’n ysbrydol. “Dw i’n mynd i roi porfa iddyn nhw,” meddai Jehofa. “Byddan nhw’n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog.” (Eseciel 34:14) Dydy Jehofa erioed wedi methu â’n hadfywio drwy roi amrywiaeth o fwyd ysbrydol yn ei bryd. A elli di feddwl am erthygl, anerchiad, neu fideo, a oedd yn ateb i dy weddi am help? Oni wnaeth hynny wneud iti deimlo fod Jehofa yn gofalu amdanat ti’n bersonol?

Mae’n ein hamddiffyn ac yn ein cefnogi. Mae Jehofa’n addo: ‘Dw i’n mynd i ddod â’r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i’n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu’r rhai sy’n wan.’ (Eseciel 34:16) Mae Jehofa’n atgyfnerthu’r rhai sy’n wan, neu sydd wedi cael eu llethu gan bryder. Mae’n rhwymo clwyfau ei ddefaid, gan eu helpu nhw i wella os ydyn nhw wedi cael eu brifo—hyd yn oed gan gyd-gredinwyr. Ac mae’n dod â’r rhai sydd wedi crwydro, neu sy’n stryffaglu gyda theimladau negyddol, yn eu holau.

Mae’n teimlo cyfrifoldeb droston ni. “Bydda i’n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw,” meddai Jehofa. “Dw i’n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll.” (Eseciel 34:12, 16) Dydy Jehofa ddim yn colli gobaith pan fydd yn colli dafad. Mae’n gwybod pan fydd dafad ar goll, mae’n chwilio amdani, ac yn llawenhau pan ddaw o hyd iddi. (Mathew 18:12-14) Wedi’r cwbl, mae’n cyfeirio at ei wir addolwyr fel “fy nefaid i.” (Eseciel 34:31) Rwyt ti yn un o’r defaid hynny.

Dydy Jehofa ddim yn colli gobaith pan fydd yn colli dafad. Mae’n llawenhau pan ddaw o hyd iddi

“Gwna Ni Eto fel Roedden Ni ers Talwm”

Pam mae Jehofa’n chwilio amdanat ti ac yn estyn gwahoddiad iti droi’n ôl ato? Oherwydd ei fod eisiau iti fod yn hapus. Mae’n addo i’w ddefaid: “Bydda i’n eu bendithio nhw,” a bydd y bendithion hynny yn tywallt fel y glaw. (Eseciel 34:26) Dydy hynny ddim yn addewid gwag. Rwyt ti eisoes wedi gweld tystiolaeth o hyn â dy lygaid dy hun.

Cofia’r profiadau gest ti wrth ddod i adnabod Jehofa. Er enghraifft, sut roeddet ti’n teimlo pan ddysgest ti’r gwirioneddau cyffrous am enw Duw a’i bwrpas ar gyfer y ddynoliaeth? Wyt ti’n cofio pa mor hyfryd oedd hi i fod yng nghwmni dy gyd-Gristnogion mewn cynulliadau a chynadleddau? Pan gest ti gyfle i rannu’r newyddion da â rhywun a ddangosodd ddiddordeb diffuant, mae’n siŵr dy fod ti wedi mynd adref yn hapus ac yn fodlon.

Gelli di fwynhau y pethau hynny unwaith eto. Gweddïodd gweision Duw gynt, “Tynn ni’n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl. Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.” (Galarnad 5:21) Atebodd Jehofa y weddi honno, a daeth ei bobl yn eu holau i’w wasanaethu gyda llawenydd o’r newydd. (Nehemeia 8:17) Bydd Jehofa yn gwneud yr un fath i ti.

Ond eto, mae troi yn ôl at Jehofa yn haws dweud na gwneud. Ystyria rai o’r heriau y gelli di eu hwynebu wrth droi yn ôl a sut gelli di eu trechu.