Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Diweddglo

Diweddglo

Wyt ti weithiau’n hel atgofion am yr amserau da a gest ti gyda phobl Jehofa—cyfarfod calonogol, cynhadledd wefreiddiol, profiad bendigedig ar y weinidogaeth, neu jest sgwrs braf gyda chyd-grediniwr? Dwyt ti ddim wedi anghofio Jehofa, a dydy ef ddim wedi dy anghofio dithau. Mae ganddo atgofion melys o dy wasanaeth ffyddlon, ac mae’n awyddus i dy helpu i droi’n ôl ato.

“Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid,” meddai Jehofa. “Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i’n dod o hyd i’m praidd i. Bydda i’n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw. . . . Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw.”—Eseciel 34:11, 12, 15.