Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Annwyl gyd-grediniwr:

Fel rwyt ti’n gwybod, mae ’na lawer o sôn am bobl yn y Beibl. Roedd llawer yn ddynion a merched ffyddlon a oedd yn wynebu heriau tebyg i’n rhai ni. Unigolion “cyffredin fel ni” oedden nhw, gyda’r un teimladau. (Iago 5:17) Roedd rhai yn gwegian o dan bwysau ac yn pryderu am bob math o bethau. Cafodd eraill eu brifo gan rywun yn eu teulu neu gan eu cyd-addolwyr. Ac roedd cydwybod nifer ohonyn nhw yn eu pigo oherwydd eu camgymeriadau eu hunain.

A oedd y bobl hyn wedi gadael Jehofa yn gyfan gwbl? Nac oedden. Roedd llawer fel y salmydd a ddywedodd mewn gweddi: “Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.” (Salm 119:176) A wyt ti’n teimlo fel hyn?

Dydy Jehofa byth yn anghofio ei addolwyr sy’n crwydro oddi wrth y gorlan. I’r gwrthwyneb, mae’n estyn ei law atyn nhw—ac yn aml yn gwneud hynny drwy eu cyd-gredinwyr. Er enghraifft, ystyria sut helpodd Jehofa ei was Job a brofodd nifer o drychinebau—gan gynnwys problemau ariannol, colli anwyliaid, a salwch difrifol. Hefyd, cafodd ei frifo gan eiriau’r rhai a ddylai fod wedi ei helpu. Ond, wnaeth ef erioed droi ei gefn ar Jehofa, er iddo grwydro yn ei ffordd o feddwl am gyfnod. (Job 1:22; 2:10) Sut gwnaeth Jehofa helpu Job i ddod at ei hun?

Un ffordd y gwnaeth Jehofa helpu Job oedd drwy gyd-grediniwr o’r enw Elihw. Pan fynegodd Job ei bryderon, gwrandawodd Elihw a theimlodd yr angen i siarad. Beth byddai’n ei ddweud? A fyddai’n beirniadu Job neu’n ceisio ei gymell i newid ei ffordd o feddwl drwy wneud iddo deimlo’n euog neu drwy godi cywilydd arno? A oedd Elihw yn meddwl ei fod yn well na Job? Dim o gwbl! Dan arweiniad ysbryd Duw, dywedodd Elihw: “Dŷn ni’n dau yr un fath yng ngolwg Duw; ces innau hefyd fy ngwneud o’r pridd.” Yna aeth ati i dawelu meddwl Job drwy ddweud: “Does dim byd i ti ei ofni; fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti.” (Job 33:6, 7) Yn hytrach nag ychwanegu at broblemau Job, rhoddodd Elihw y cyngor a’r anogaeth gariadus roedd eu hangen ar Job.

Aethon ni ati i baratoi’r llyfryn hwn mewn ffordd debyg. Ein cam cyntaf oedd gwrando, gan ystyried yn ofalus amgylchiadau a theimladau sawl un a grwydrodd i ffwrdd. (Diarhebion 18:13) Yna, gan weddïo, gwnaethon ni edrych yn fanwl ar hanesion yn y Beibl i weld sut helpodd Jehofa ei weision yn y gorffennol pan wynebon nhw amgylchiadau tebyg. Yn olaf, er mwyn cynhyrchu’r llyfryn hwn, gwnaethon ni gyfuno hanesion o’r Beibl â phrofiadau pobl heddiw. Rydyn ni’n estyn croeso cynnes iti ddarllen y llyfryn hwn. Plîs cofia ein bod ni’n dy garu di o waelod ein calonnau.

Corff Llywodraethol Tystion Jehofa