Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 2

Pryder—“Trafferthion yn Gwasgu o Bob Cyfeiriad”

Pryder—“Trafferthion yn Gwasgu o Bob Cyfeiriad”

“Ar ôl inni fod yn briod am 25 mlynedd, ges i a fy ngŵr ysgariad. Aeth fy mhlant allan o’r gwir. Ges i un broblem iechyd ar ôl y llall. Yna, wnes i ddioddef iselder. O’n i’n teimlo bod fy myd yn chwalu o ’nghwmpas, ac oedd pob dim wedi mynd yn ormod imi. Wnes i stopio mynd i’r cyfarfodydd, ac es i’n anweithredol.”—June.

MAE pryder yn effeithio ar bawb—hyd yn oed pobl Dduw. Ysgrifennodd y salmydd: “Oeddwn i’n poeni am bob math o bethau.” (Salm 94:19) A dywedodd Iesu y byddai pryderon bywyd yn ystod amser y diwedd yn gallu ei gwneud hi’n ofnadwy o anodd gwasanaethu Jehofa. (Luc 21:34) Beth amdanat ti? A wyt ti’n boddi o dan broblemau ariannol, problemau teuluol, neu salwch? Sut gall Jehofa dy helpu i ymdopi?

“Grym Anhygoel”

Allwn ni ddim delio â phryder ar ein pennau’n hunain. Mae “trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad,” ysgrifennodd yr apostol Paul. “Dŷn ni’n ansicr weithiau . . . ; yn cael ein taro i lawr.” Ond eto, ychwanegodd: “Dŷn ni ddim wedi cael ein llethu’n llwyr,” rydyn ni “heb anobeithio” ac rydyn ni’n “cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro.” Beth sy’n ein helpu i ddal ati? Y “grym anhygoel” sy’n dod oddi wrth ein Duw hollalluog, Jehofa.—2 Corinthiaid 4:7-9.

Myfyria ar sut y cest ti ‘rym anhygoel’ yn y gorffennol. Wyt ti’n cofio sut cafodd dy werthfawrogiad am gariad ffyddlon Jehofa ei gryfhau gan anerchiad calonogol? A gafodd dy ffydd yn addewidion Duw ei chryfhau pan oeddet ti’n dysgu eraill am obaith y Baradwys? Pan fyddwn ni’n mynd i’r cyfarfodydd, ac yn rhannu ein ffydd ag eraill, cawn ni’r nerth i wynebu pryderon bywyd a chael heddwch meddwl er mwyn inni allu gwasanaethu Jehofa’n llawen.

Profa Drostot Ti Dy Hun Mor Dda Ydy Jehofa!

Y ffaith amdani yw, gelli di deimlo dy fod yn cael dy dynnu i bob cyfeiriad ar unwaith. Er enghraifft, mae Jehofa eisiau inni roi ei Deyrnas yn gyntaf a chadw rhaglen gyson o weithgareddau ysbrydol. (Mathew 6:33; Luc 13:24) Ond, beth os ydy gwrthwynebiad, salwch, neu broblemau teuluol wedi sugno dy egni? Neu beth os ydy dy waith seciwlar yn dy flino ac yn cymryd amser y byddet ti fel arall yn ei dreulio gyda’r gynulleidfa? Hwyrach bod ceisio ymdopi â hyn i gyd heb ddigon o amser nac egni yn dy lethu. Efallai dy fod ti hyd yn oed wedi meddwl bod Jehofa yn disgwyl gormod gen ti.

Mae Jehofa yn ein deall ni. Dydy ef byth yn gofyn mwy gynnon ni nag y gallwn ni ei roi. Ac mae’n cydnabod ei bod hi’n cymryd amser inni ddod at ein hunain ar ôl straen corfforol a stres emosiynol.—Salm 103:13, 14.

Er enghraifft, ystyria sut gofalodd Jehofa am y proffwyd Elias. Pan oedd Elias yn ddigalon ac yn llawn ofn, rhedodd i ffwrdd i’r anialwch, ond a wnaeth Jehofa ddweud y drefn wrth y proffwyd a’i hel yn ôl i’w aseiniad? Naddo. Anfonodd Jehofa angel at Elias ddwywaith er mwyn ei ddeffro’n garedig a rhoi bwyd iddo. Er hynny, 40 diwrnod wedyn, roedd Elias yn dal yn llawn pryder ac ofn. Beth arall wnaeth Jehofa i’w helpu? Yn gyntaf, dangosodd Jehofa ei fod yn gallu ei amddiffyn. Yn ail, mewn “llais tawel yn sibrwd,” cysurodd Jehofa Elias. Ac yn olaf, datgelodd Jehofa fod miloedd o bobl eraill yn addoli Duw yn ffyddlon. Yn fuan wedyn, ailgydiodd Elias yn ei waith fel proffwyd selog. (1 Brenhinoedd 19:1-19, tdn.) Y wers? Pan gafodd Elias ei lethu gan bryder, tosturiodd Jehofa wrtho yn llawn amynedd. Dydy Jehofa ddim wedi newid. Mae’n gofalu amdanon ninnau mewn ffordd debyg iawn.

Wrth iti feddwl am beth gelli di ei roi i Jehofa, bydda’n rhesymol. Paid â chymharu’r hyn y gelli di ei wneud heddiw â’r hyn roeddet ti’n ei wneud o’r blaen. Meddylia am redwr sy’n stopio hyfforddi am nifer o fisoedd neu flynyddoedd. Fydd ef ddim yn gallu ailgychwyn ei hen raglen yn syth. Yn hytrach, mae’n dechrau drwy gymryd camau bach i adeiladu ei nerth a’i stamina. Mae Cristnogion yn debyg i redwyr. Maen nhw’n ymarfer gyda nod penodol mewn golwg. (1 Corinthiaid 9:24-27) Beth am ddechrau gydag un nod ysbrydol yn gyntaf, yr un sydd hawsaf iti ei gyrraedd ar hyn o bryd? Er enghraifft, gallet ti osod y nod o fynd i gyfarfod. Gofynna i Jehofa dy helpu i gyrraedd dy nod. Wrth iti adennill dy nerth ysbrydol, byddi di’n profi drostot ti dy hun pa mor dda ydy Jehofa. (Salm 34:8) Cofia, mae beth bynnag rwyt ti’n ei wneud i ddangos dy gariad tuag at Jehofa yn werthfawr iddo, ni waeth pa mor fach mae’n ymddangos.—Luc 21:1-4.

Dydy Jehofa byth yn gofyn mwy gynnon ni nag y gallwn ni ei roi

“Yr Hwb o’n i ei Angen”

Sut gwnaeth Jehofa alluogi June i droi’n ôl ato? Dywedodd hi: “Wnes i ddal ati i weddïo ar Jehofa, gan ofyn iddo fy helpu. Wedyn, dyma fy merch yng nghyfraith yn sôn am gynulliad oedd am ddigwydd yn lleol. Penderfynais fynd am un diwrnod. Roedd hi’n deimlad hyfryd bod yng nghwmni pobl Jehofa eto! Y cynulliad hwnnw oedd yr hwb o’n i ei angen. Erbyn hyn, dw i’n gwasanaethu Jehofa’n llawen unwaith eto. Mae gan fywyd lawer mwy o ystyr imi. Yn fwy nag erioed o’r blaen, dw i’n deall na alla i ynysu fy hun na gwrthod help fy mrodyr a chwiorydd. Dw i’n ddiolchgar nad oedd hi’n rhy hwyr imi ddod yn ôl.”