Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 3

Teimladau Wedi eu Brifo—Pan Fydd Gynnon Ni Gŵyn

Teimladau Wedi eu Brifo—Pan Fydd Gynnon Ni Gŵyn

“Ges i fai ar gam gan chwaer yn y gynulleidfa am ddwyn arian oddi arni. Clywodd eraill yn y gynulleidfa am y peth a dechrau cymryd ochrau. Yn y pen draw, dywedodd y chwaer wrtho i ei bod hi wedi cael gwybodaeth newydd oedd yn clirio fy enw. Er iddi ymddiheuro, teimlais yn fy nghalon nad oeddwn i’n gallu maddau iddi am yr hyn oeddwn i wedi mynd drwyddo.”—Linda.

ELLI di uniaethu â Linda, a gafodd ei brifo’n arw gan gyd-grediniwr? Gwaetha’r modd, mae rhai wedi cael eu brifo gan ymddygiad eraill gymaint nes iddo effeithio ar eu bywyd ysbrydol. Ydy hynny’n wir yn dy achos di?

A All Unrhyw Un Ein “Gwahanu Ni Oddi Wrth Gariad Duw”?

Mae’n rhaid cyfaddef ei bod hi’n anodd iawn weithiau i faddau i gyd-grediniwr sydd wedi ein brifo ni. Wedi’r cwbl, dylai Cristnogion garu ei gilydd. (Ioan 13:34, 35) Os ydy cyd-grediniwr wedi pechu yn ein herbyn, gall y boen a’r siom ein llorio ni.—Salm 55:12.

Wrth gwrs, mae’r Beibl yn cydnabod y bydd adegau pan fydd gan Gristnogion “gŵyn yn erbyn rhywun arall.” (Colosiaid 3:13) Ond, pan fydd hynny’n digwydd i ni, mae’n gallu bod yn anodd delio â’r peth. Oes ’na rywbeth sy’n gallu ein helpu ni? Ystyria dair egwyddor o’r Beibl:

Mae ein Tad nefol yn ymwybodol o bopeth. Mae Jehofa’n sylwi ar bopeth sy’n digwydd, gan gynnwys unrhyw anghyfiawnder a wynebwn a’r boen mae’n ei achosi. (Hebreaid 4:13) Ar ben hynny, mae Jehofa’n teimlo droston ni pan ydyn ni’n dioddef. (Eseia 63:9) Dydy ef byth yn caniatáu “poen . . . na dioddefaint,” nac unrhyw beth arall—ddim hyd yn oed un o’i weision eraill—i’n “gwahanu ni oddi wrth gariad Duw.” (Rhufeiniaid 8:35, 38, 39) Felly, ddylen ninnau byth ganiatáu i unrhyw beth nac unrhyw un ddod rhyngon ni â Jehofa.

Dydy maddau ddim yn golygu esgusodi. Pan fyddwn ni’n maddau i’r rhai sydd wedi ein pechu, dydyn ni ddim yn minimeiddio, yn cyfiawnhau, nac yn esgusodi yr hyn a wnaethon nhw. Cofia, dydy Jehofa byth yn cymeradwyo pechod, ond fe fydd yn ei faddau os oes sail dros wneud hynny. (Salm 103:12, 13; Habacuc 1:13) Pan fydd Jehofa yn ein hannog ni i faddau i eraill, mae’n gofyn inni ei efelychu. Dydy ef ddim yn “dal dig am byth.”—Salm 103:9; Mathew 6:14.

Byddwn ni ar ein hennill o gael gwared ar ddrwgdeimlad. Ym mha ffordd? Dychmyga’r sefyllfa ganlynol. Rwyt ti’n codi carreg, efallai un weddol ysgafn, ac yn ei dal hyd braich oddi wrthot ti. Mae’n debyg na fyddai hi’n anodd iti ddal y garreg am gyfnod byr. Ond beth petaset ti’n ceisio gwneud hynny am gyfnod hir? Am faint byddet ti’n gallu dal dy afael ynddi—rhai munudau? awr? neu’n hirach? Does dim amheuaeth y byddai dy fraich yn blino’n ofnadwy! Wrth gwrs, dydy pwysau’r garreg ddim yn newid. Ond hiraf yn y byd rwyt ti’n dal dy afael ynddi, trymaf yn y byd y bydd hi’n teimlo. Mae’r un peth yn wir am ddrwgdeimlad. Hiraf yn y byd y byddwn ni’n dal dig—hyd yn oed dros y pethau lleiaf—y mwyaf yn y byd y byddwn ni’n brifo’n hunain. Does dim syndod felly, fod Jehofa yn ein hannog ni i beidio â dal dig. Y ffaith amdani yw, byddwn ni ar ein hennill o gael gwared ar ddrwgdeimlad.—Diarhebion 11:17.

Byddwn ni ar ein hennill o gael gwared ar ddrwgdeimlad

“O’n i’n Teimlo Fel Petai Jehofa ei Hun yn Siarad â Mi”

Beth helpodd Linda i beidio â dal dig dros y ffordd cafodd hi ei thrin gan gyd-grediniwr? Ymysg pethau eraill, myfyriodd hi ar resymau Ysgrythurol dros ddangos maddeuant. (Salm 130:3, 4) Yr hyn a gyffyrddodd â chalon Linda fwyaf oedd gwybod y bydd Jehofa’n maddau i ni os maddeuwn ninnau i eraill yn gyntaf. (Effesiaid 4:32–5:2) Wrth sôn am yr effaith cafodd hyn arni, dywedodd: “O’n i’n teimlo fel petai Jehofa ei hun yn siarad â mi.”

Mewn amser, llwyddodd Linda i stopio dal dig. Maddeuodd y chwaer yn llwyr, a nawr mae’r chwaer honno yn ffrind annwyl iddi. Mae Linda yn parhau i wasanaethu Jehofa. Cofia fod Jehofa eisiau dy helpu dithau i wneud yr un fath.