Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 5

Tro yn ôl at y Bugail Sy’n Gofalu Amdanat Ti

Tro yn ôl at y Bugail Sy’n Gofalu Amdanat Ti

Oeddet ti’n gallu uniaethu ag un neu fwy o’r heriau a gafodd eu trafod yn y llyfryn hwn? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae llawer o weision ffyddlon Duw—yn amser y Beibl ac yn ein hamser ni—wedi delio â heriau tebyg. Fel y cawson nhw help gan Jehofa i ddod dros eu heriau, fe gei dithau hefyd.

Bydd Jehofa yn bendant yno wrth iti droi’n ôl ato

COFIA y bydd Jehofa yn bendant yno wrth iti droi’n ôl ato. Fe fydd yn dy helpu di i ymdopi â phryder, i wella teimladau sydd wedi eu brifo, ac i gael yr heddwch meddwl a heddwch calon sy’n dod o gael cydwybod lân. Yna, efallai cei di dy gymell unwaith eto i wasanaethu Jehofa gyda dy gyd-gredinwyr. Bydd dy sefyllfa di yn debyg i sefyllfa rhai o Gristnogion y ganrif gyntaf. Ysgrifennodd yr apostol Pedr hyn atyn nhw: “Roeddech chi’n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 2:25.

Troi yn ôl at Jehofa yw’r peth gorau gallet ti ei wneud. Pam? Byddi di’n gwneud calon Jehofa’n hapus. (Diarhebion 27:11) Fel rwyt ti’n gwybod, mae gan Jehofa deimladau, felly mae ein gweithredoedd yn cael effaith arno. Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim yn ein gorfodi i’w garu a’i wasanaethu. (Deuteronomium 30:19, 20) Disgrifiodd un ysgolhaig Beiblaidd y sefyllfa fel hyn: “Does dim handlen ar du allan drws y galon ddynol. Mae’n rhaid ei agor o’r tu mewn.” Drwy addoli Jehofa â chalon yn llawn cariad, gallwn ni ddewis agor y drws hwnnw. Pan wnawn ni hynny, byddwn ni’n rhoi anrheg werthfawr iddo—ein ffyddlondeb—ac yn dod â llawenydd mawr i’w galon. Y gwir amdani yw, does dim byd all gymharu â’r hapusrwydd a gawn o addoli Jehofa—addoliad mae’n sicr yn ei haeddu.—Actau 20:35; Datguddiad 4:11.

Ar ben hynny, pan fyddi di’n ailddechrau dy addoliad Cristnogol, bydd dy angen ysbrydol yn cael ei fodloni. (Mathew 5:3) Ym mha ffordd? Mae pobl o gwmpas y byd yn gofyn iddyn nhw’u hunain, ‘Pam ’dyn ni yma?’ Maen nhw’n ysu am gael yr atebion i gwestiynau am bwrpas bywyd. Mae gan bobl yr angen hwnnw am mai dyna sut cawson nhw eu creu gan Jehofa. Cawson ni’n dylunio ganddo i gael boddhad o’i wasanaethu. Does dim byd yn gallu ein gwneud ni’n fwy bodlon na gwybod ein bod ni’n gwasanaethu Jehofa allan o gariad.—Salm 63:1-5.

Plîs cofia fod Jehofa eisiau iti ddod yn ôl ato. Sut gelli di fod yn sicr? Ystyria hyn: Cafodd y llyfryn hwn ei baratoi’n ofalus gyda llawer o weddïau. Efallai cest ti’r llyfryn gan henuriad Cristnogol neu gyd-grediniwr arall. Ac wedyn, cest ti dy sbarduno i’w ddarllen ac i ymateb i’w neges. Mae hyn i gyd yn profi nad ydy Jehofa wedi anghofio amdanat ti. I’r gwrthwyneb, mae ef yn dy dynnu yn ôl ato mewn ffordd dyner.—Ioan 6:44.

Gallwn ni gael cysur o wybod nad ydy Jehofa byth yn anghofio ei weision coll. Dyna beth daeth chwaer o’r enw Donna i’w werthfawrogi. Dywedodd hi: “O’n i wedi crwydro’n ara’ deg oddi wrth y gwirionedd, ond byddwn i’n aml yn myfyrio ar Salm 139:23, 24, sy’n dweud: ‘Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni. Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.’ Oeddwn i’n gwybod nad o’n i’n perthyn i’r byd—do’n i erioed wedi ffitio mewn yno go iawn—ac o’n i’n gwybod mai yng nghyfundrefn Jehofa o’n i angen bod. Dechreuais weld nad oedd Jehofa erioed wedi fy ngadael i; o’n i jest angen ffeindio fy ffordd yn ôl ato fo. A dw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny!”

“Dechreuais weld nad oedd Jehofa erioed wedi fy ngadael i; o’n i jest angen ffeindio fy ffordd yn ôl ato fo”

Gweddïwn yn daer y byddi dithau hefyd yn cael “bod yn llawen yn yr ARGLWYDD” unwaith eto. (Nehemeia 8:10) Wnei di byth ddifaru troi’n ôl at Jehofa.