RHAGFYR 23, 2022
MAWRISIWS
Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yng Nghreoliaith Mawrisiws
Ar Ragfyr 17, 2022, gwnaeth y Brawd Louis Breine, aelod o Bwyllgor Cangen Ffrainc, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yng Nghreoliaith Mawrisiws. a Cafodd y Beibl ei ryddhau yn ystod rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw. Gwnaeth dros 2,200 o bobl ei gwylio. Mae copïau digidol a phrintiedig nawr ar gael.
Mae Creoliaith Mawrisiws yn cael ei defnyddio yn bennaf yn Mawrisiws, ynys yn ne-gorllewin Cefnfor India sydd tua 800 cilomedr (500 milltir) i’r dwyrain o Madagasgar. Mae’r ynys yn mesur tua 2,007 cilomedr sgwâr (775 milltir sgwâr). Ym 1933, daeth Tystion o Dde Affrica i bregethu ar yr ynys. Cafodd y gynulleidfa gyntaf ei ffurfio ym 1951. Ar y pryd, roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Saesneg, sef iaith swyddogol Mawrisiws.
Does ond un cyfieithiad cyfan arall o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn bodoli yng Nghreoliaith Mawrisiws. Ond dydy’r enw dwyfol, Jehofa, ddim yn ymddangos ynddo. Yn Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae enw Jehofa yn ymddangos 237 o weithiau, ac yn defnyddio iaith bob dydd.
Yn ystod y pandemig COVID-19, roedd rhaid i’r cyfieithwyr stopio eu gwaith am gyfnod. Dywedodd un ohonyn nhw: “Pan wnaethon ni ailafael yn ein gwaith, oedden ni’n llawn frwdfrydedd. Symudodd y prosiect yn ei flaen yn gynt nag o’r blaen. Gwnaethon ni hyd yn oed lwyddo i’w orffen erbyn yr un dyddiad roedden ni wedi ei osod cyn y pandemig.”
Rydyn ni’n sicr y bydd y cyfieithiad newydd hwn yn helpu ein brodyr a’n chwiorydd i ofalu am eu hanghenion ysbrydol.—Eseia 65:13.
a Pwyllgor Cangen Ffrainc sy’n gofalu am y gwaith pregethu ym Mawrisiws.