Neidio i'r cynnwys

EBRILL 20, 2022
SIMBABWE

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tsitongeg (Simbabwe)

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tsitongeg (Simbabwe)

Ar Ebrill 10, 2022, gwnaeth y Brawd John Hunguka, aelod o Bwyllgor Cangen Simbabwe, ryddhau fersiwn digidol o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Tsitongeg (Simbabwe). Cafodd y rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ei ffrydio i gynulleidfa o tua 500 o bobl. Bydd copïau printiedig ar gael ym mis Gorffennaf 2022.

Mae’r iaith Tsitongeg yn cael ei siarad gan lwyth y Tonga, sy’n byw yn nhaleithiau deheuol a gorllewinol Sambia ac yng ngogledd Simbabwe. Yn 2014, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ei ryddhau yn Tsitongeg, chwaer iaith iddi a siaredir yn Sambia. Dyma’r tro cyntaf i Feibl gael ei gyfieithu a’i gyhoeddi yn yr iaith Tsitongeg (Simbabwe). Cyn hyn, roedd rhaid i bobl sy’n siarad Tsitongeg (Simbabwe) ddibynnu ar gyfieithiadau mewn tafodiaith o’r Tsitongeg sy’n cael ei siarad yn Sambia.

Er bod Tsitongeg Sambia a Tsitongeg (Simbabwe) yn debyg, mae ’na lawer o wahaniaethau mewn ystyron rhai geiriau ac ymadroddion. Er enghraifft, mae fersiwn Tsitongeg Sambia o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn dweud yn 1 Ioan 3:17, y dylai Cristion ddangos tosturi dros frawd sydd “mewn angen.” Ond, yn yr iaith Tsitongeg (Simbabwe), byddai’r un ymadrodd yn cael ei ddeall fel brawd sydd yn “wallgof.” Gwnaeth y tîm addasu’r geiriau i gyfleu’r ystyr cywir i’r rhai sy’n siarad Tsitongeg (Simbabwe).

Rhai o adeiladu’r swyddfa cyfieithu Tsitongeg (Simbabwe) yn Binga, Simbabwe

Dywedodd un o’r cyfieithwyr: “Yn y gorffennol, wrth ddarllen adnodau i bobl yn y weinidogaeth, byddwn i’n treulio llawer o amser yn ceisio esbonio geiriau. Nawr galla i ddarllen yr adnod yn syth a gadael i Air Duw siarad â nhw’n uniongyrchol.”

Llawenhawn gyda’n brodyr a’n chwiorydd Tsitongeg (Simbabwe) eu hiaith wrth iddyn nhw ddefnyddio’r cyfieithiad newydd i esbonio’r “ffordd i fywyd” i bobl ddiffuant.—Salm 16:11.