Neidio i'r cynnwys

Y Brawd Taurai Mazarura yn gafael mewn tabled yn dangos llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Simbabwe yn ystod rhaglen gafodd ei recordio o flaen llaw

IONAWR 26, 2021
SIMBABWE

Tystion Jehofa yn Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Simbabwe

Tystion Jehofa yn Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Simbabwe

Ar Ionawr 24, 2021, cafodd Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew ei ryddhau yn Iaith Arwyddion Simbabwe (ZSL). Gwnaeth y Brawd Taurai Mazarura, aelod o Bwyllgor Cangen Simbabwe, ryddhau’r Beibl mewn rhaglen gafodd ei recordio o flaen llaw.

Roedd y 401 o gyhoeddwyr sy’n gwasanaethu mewn cynulleidfaoedd ZSL wrth eu boddau i dderbyn y cyhoeddiad hwn. Maen nhw’n edrych ymlaen at ddefnyddio llyfr Mathew yn eu hastudiaeth bersonol yn ogystal ag ar y weinidogaeth.

Tîm cyfieithu Iaith Arwyddion Simbabwe yn ystod sesiwn recordio

Gwnaeth y pandemig wneud pethau’n anoddach i’r tîm cyfieithu ZSL. Fel arfer, byddai cyfieithwyr yn ymweld â rhai byddar yn y gymuned i wneud yn siŵr eu bod nhw’n defnyddio’r arwyddion mwyaf cyfarwydd yn eu cyfieithiad. Ond, roedd cyfyngiadau COVID-19 yn gwneud hynny’n amhosib. Daeth y cyfieithwyr dros y broblem drwy gyfathrebu’n rheolaidd â phobl fyddar gan ddefnyddio galwadau fideo. Gwnaeth hyn helpu’r cyfieithwyr i gynhyrchu cyfieithiad sy’n hawdd i boblogaeth fyddar Simbabwe ei ddeall.

Dywedodd y Brawd John Hunguka, aelod o Bwyllgor Cangen Simbabwe: “Dim ond y cychwyn ydy rhyddhau llyfr Mathew. Mae Tystion Jehofa wedi dechrau prosiect i gyfieithu’r Beibl cyfan i ZSL. Bydd hyn yn cymryd tua deg mlynedd i’w gwblhau.”

Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu’r cariad sydd gan Jehofa tuag at bob math o bobl. Rydyn ni’n trysori ei fendith wrth inni bregethu’r “neges dragwyddol . . . i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.”—Datguddiad 14:6.