IONAWR 20, 2021
ANGOLA
Cyfieithiad y Byd Newydd Wedi ei Ryddhau yn Wmbwndw
Ar Ionawr 16, 2021, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ei ryddhau mewn fformat electronig yn yr iaith Wmbwndw. Cafodd y rhaglen ei recordio o flaen llaw a’i ffrydio i bob cynulleidfa Wmbwndw ei hiaith yn Angola. Cafodd y Beibl ei ryddhau gan y Brawd Genésio Verdiano, aelod o Bwyllgor Cangen Angola.
Wmbwndw yw’r iaith fwyaf cyffredin yn Angola, gyda thua saith miliwn o siaradwyr brodorol. Mae ’na fwy na 6,500 o gyhoeddwyr yno sy’n siarad Wmbwndw.
Gweithiodd dau dîm o dri chyfieithydd am bum mlynedd i gwblhau’r cyfieithiad. Dywedodd un ohonyn nhw: “Bydd y cyfieithiad newydd hwn yn dod â’r Ysgrythurau’n fyw, am ei fod mor hawdd i’w ddeall. Bydd hefyd yn ei gwneud hi’n haws i ddysgu Gair Duw i eraill yn y weinidogaeth.”
Dywedodd un aelod o Bwyllgor y Gangen: “’Dyn ni’n gwybod, pan fydd pobl yn darllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain, mae’r gwirionedd cymaint yn haws i’w ddeall. Bydd hi’n gyffrous i weld sut bydd Jehofa yn defnyddio ei Air yn Wmbwndw i gyrraedd mwy o bobl.”—2 Thesaloniaid 3:1.