Neidio i'r cynnwys

TACHWEDD 29, 2021
ANGOLA

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Cimbwndweg

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Cimbwndweg

Ar ddydd Sul, Tachwedd 21, gwnaeth y Brawd Eric Raffaeli, aelod o Bwyllgor Cangen Angola, ryddhau’r fersiwn digidol o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Cimbwndweg. Bydd copïau printiedig ar gael yn 2022. Cafodd y rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ei ffrydio i gynulleidfa o 11,000.

Tua’r flwyddyn 1920, cafodd Cimbwndweg, yn ogystal ag ieithoedd Affricanaidd eraill, eu gwahardd ym maes addysg Angola, gan y llywodraeth drefedigaethol Portiwgaleg. Ond, heddiw, mae Cimbwndweg yn cael ei siarad gan tua 1.7 miliwn o bobl yn Angola, gan gynnwys preswylwyr y brifddinas, Luanda. Mae hi’n un o brif ieithoedd y wlad.

Mae llenyddiaeth Tystion Jehofa wedi bod ar gael yn Cimbwndweg ers tua 1990, ond chafodd y gynulleidfa Cimbwndweg gyntaf mo’i sefydlu tan 2008. Erbyn heddiw, mae ’na 55 o gynulleidfaoedd Cimbwndweg eu hiaith gyda 2,614 o gyhoeddwyr.

Mae aelod o’r tîm cyfieithu Cimbwndweg yn gweithio o’i gartref yn y maes

Mae llawer o ddarllenwyr yn cael y cyfieithiad newydd yn haws ei ddeall nag un o gyfieithiadau blaenorol y Beibl. Er enghraifft, yn y cyfieithiad blaenorol, mae Mathew 5:3 yn cael ei drosi fel: “Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd.” Mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn trosi’r adnod fel hyn: “Hapus yw’r rhai sy’n gwybod eu bod nhw angen Duw.”

Dywedodd un cyfieithydd: “Dw i’n sicr y bydd y Beibl hwn yn wir fendith i’n brodyr Cimbwndweg eu hiaith. Bydd yn eu helpu i glosio at Jehofa wrth iddyn nhw ei ddefnyddio yn eu hastudiaeth bersonol ac yn eu gweinidogaeth. Dw i’n ei ystyried yn fraint fawr cael bod yn rhan fach o’r prosiect. I mi, mae’n dangos caredigrwydd Jehofa.”

Gwyddon ni y bydd y Beibl Cimbwndweg ei iaith yn galluogi ein brodyr a’n chwiorydd sy’n siarad yr iaith i ddal ati i helpu’r rhai sydd â diddordeb i gael “gwybod beth ydy’r gyfrinach am deyrnasiad Duw.”—Luc 8:10.