Neidio i'r cynnwys

RHAGFYR 9, 2022
ANGOLA

Rhyddhau Llyfrau Mathew ac Actau yn yr Ieithoedd Tsiocweg ac Ibindeg

Rhyddhau Llyfrau Mathew ac Actau yn yr Ieithoedd Tsiocweg ac Ibindeg

Ar Ragfyr 3, 2022, gwnaeth y Brawd Samuel Campos, aelod o Bwyllgor Cangen Angola, ryddhau llyfrau Mathew ac Actau yn yr ieithoedd Tsiocweg ac Ibindeg. Cafodd y llyfrau hyn o’r Beibl eu rhyddhau mewn ffurf ddigidol yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw. Gwnaeth tua 2,000 o bobl ei gwylio.

Mae hanes Tystion Jehofa yn y maes Tsiocweg yn mynd yn ôl i 2007 pan gafodd y grŵp cyntaf yn yr iaith ei ffurfio. Bellach, mae ’na 10 cynulleidfa Tsiocweg yn Angola a 23 yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Dywedodd un cyfieithydd Tsiocweg: “Mae fersiynau gwahanol o’r Beibl ar gael yn yr iaith Tsiocweg. Mae un yn defnyddio iaith bob dydd, ond mae’n aralleirio’r testun. Mae ’na un arall sy’n fwy cywir, ond mae’n anodd ei ddeall. Pan dw i’n darllen y cyfieithiad newydd yma, dw i’n teimlo bod Jehofa yn siarad i mi yn bersonol.”

Cafodd y gynulleidfa gyntaf yn yr iaith Ibindeg ei sefydlu yn 2014. Erbyn hyn mae ’na 13 cynulleidfa. Cyn i lyfrau Mathew ac Actau gael eu rhyddhau yn Ibindeg, doedd y Beibl ddim ar gael o gwbl yn yr iaith honno, felly roedd cyhoeddwyr yn defnyddio Cyfieithiad y Byd Newydd ym Mhortiwgaleg. Dywedodd un o gyfieithwyr y tîm Ibindeg: “Dw i wedi darllen rhai adnodau o’r Beibl llawer o weithiau, ond dim ond nawr dw i’n eu deall nhw’n glir. Mae’n fraint i fod yn rhan o’r prosiect hwn. Mae wedi cryfhau fy ffydd.”

Rydyn ni’n hollol sicr bydd y llyfrau hyn yn Tsiocweg ac Ibindeg yn helpu ein brodyr a’n chwiorydd i nesáu at Jehofa.—Iago 4:8.