MEHEFIN 3, 2022
BENIN
Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Ffoneg
Ar Fai 29, 2022, gwnaeth y Brawd Sylvain Bois, aelod o Bwyllgor Cangen Benin, ryddhau Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew yn yr iaith Ffoneg. Cafodd y llyfr digidol ei ryddhau yn ystod rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw, a gafodd ei ffrydio i 7,000 o gyhoeddwyr a rhai â diddordeb. Rydyn ni’n disgwyl y bydd y copïau printiedig ar gael yn Rhagfyr 2023.
Er roedd Beiblau yn yr iaith Ffoneg ar gael o’r blaen, maen nhw’n hepgor enw Duw, ac mae llawer o’r ymadroddion yn y fersiynau hynny wedi eu trosi mewn ffordd sy’n cyfleu testun gwreiddiol y Beibl yn anghywir. Hefyd, maen nhw’n ddrud, ac mae rhai siopau yn gwrthod eu gwerthu nhw i Dystion Jehofa.
Mae’r cyfieithiad newydd hwn o lyfr Mathew yn cyfleu ystyr iaith wreiddiol y Beibl yn gywir. Er enghraifft mae Mathew 10:28 yn darllen: “Peidiwch ag ofni’r rhai sy’n lladd y corff, ond sy’n methu lladd yr enaid.” Mae troednodyn i’r adnod hon yn esbonio bod yr ymadrodd iaith wreiddiol ar gyfer “enaid” yn golygu “potensial am fywyd.” Bydd nodweddion fel hyn yn helpu cyhoeddwyr i ddysgu pobl sydd â diddordeb.
Dywedodd Palle Bjerre, aelod o Bwyllgor Cangen Benin: “Mae ’na lawer o gyfeiriadau at lyfr Mathew yn ein cyhoeddiadau. Bydd cael cyfieithiad cywir o Efengyl Mathew yn fantais fawr wrth bregethu a dysgu’r newyddion da. Diolchwn i Jehofa a’r tîm cyfieithu am eu gwaith caled i ryddhau’r llyfr newydd hwn.”
Rydyn ni’n hyderus y bydd Efengyl Mathew yn helpu ein brodyr a chwiorydd Ffoneg eu hiaith i ddal ati i ofalu am anghenion ysbrydol eu hunain yn ogystal ag anghenion pobl eraill.—Mathew 5:3.