Neidio i'r cynnwys

TACHWEDD 17, 2021
BOLIFIA

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn Cetshwa (Bolifia)

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn Cetshwa (Bolifia)

Ar Hydref 24, 2021, gwnaeth y Brawd Douglas Little, aelod o Bwyllgor Cangen Bolifia, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Cetshwa (Bolifia). Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn fformat digidol yn ystod cyfarfod a oedd wedi ei recordio o flaen llaw a’i ffrydio i fwy ’na 4,000 o wylwyr ym Molifia. Mae’n debyg y bydd fersiynau printiedig ar gael yn Ebrill 2022.

Mae gan yr iaith Cetshwa (Bolifia) lawer o dafodieithoedd, hynny yw, mae gan rai geiriau ystyron gwahanol mewn gwahanol ranbarthau. Er mwyn dod dros yr her, mae gan Cyfieithiad y Byd Newydd lawer o droednodiadau sy’n helpu esbonio geiriau a all gael amryw o wahanol ystyron sy’n newid o ranbarth i ranbarth.

Mae Beiblau yn yr iaith Cetshwa (Bolifia) wedi bod ar gael ers 1880. Ond, mae nifer o’r cyfieithiadau hyn ond yn defnyddio enw Duw, Jehofa, mewn troednodiadau neu yn ei newid i deitl “Duw’r Tad.” Dywedodd un cyfieithydd, “Dw i wrth fy modd fod gynnon ni Feibl gydag enw Duw ynddo o’r diwedd.”

Yn ystod y prosiect, wynebodd llawer o’r cyfieithwyr lawer o heriau, fel gofalu am aelodau o’u teuluoedd oedd yn sâl. Yn ogystal â hyn, creodd y pandemig COVID-19 heriau eraill oedd yn gwneud y prosiect yn anoddach. Dywedodd un cyfieithydd: “Dim ond gyda help Jehofa gallai’r prosiect gael ei gwblhau a’i ryddhau, a hynny o flaen y dyddiad disgwyliedig.”

Y gobaith yw y bydd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Cetshwa (Bolifia) yn helpu llawer sy’n siarad yr iaith i “gael eu hachub a dod i wybod y gwir.”—1 Timotheus 2:4.