GORFFENNAF 1, 2021
BOLIFIA
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Aimareg
Ar Fehefin 27, 2021, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ei ryddhau mewn fformat digidol yn yr iaith Aimareg. Cafodd y rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ei ffrydio i bob cynulleidfa a grŵp ym Molifia. Y Brawd Nelvo Cavalieri, aelod o Bwyllgor Cangen Bolifia, wnaeth ryddhau’r Beibl.
Prif Ffeithiau’r Prosiect
Mae Aimareg yn cael ei siarad gan 1.6 miliwn o bobl sy’n byw gan fwyaf yn ardal Llyn Titicaca, yng nghesail Mynyddoedd yr Andes
Aimareg yw’r ail iaith fwyaf eang ei defnydd ym Molifia o blith y 36 o ieithoedd brodorol swyddogol
Mae tua 2,000 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn mwy na 60 o gynulleidfaoedd Aimareg eu hiaith yn Yr Ariannin, Bolifia, Brasil, Periw, a Tsile
Cymerodd 6 chyfieithydd 4 blynedd i gwblhau’r prosiect
Dywedodd un cyfieithydd: “Mae’r Beibl hwn yn anrheg fawr gan Jehofa i’r bobl Aimareg eu hiaith. Bellach gallan nhw ddarllen y Beibl mewn iaith maen nhw’n ei defnyddio a’i deall. Mi fyddan nhw’n teimlo bod Jehofa yn siarad yn syth i’w calonnau.”
Yn ôl y Brawd Mauricio Handal, aelod o Bwyllgor Cangen Bolifia: “Ers rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Aimareg yn 2017, cawson ni lawer o negeseuon gan bobl yn diolch am y cyfieithiad gan ddweud ei bod yn cyffwrdd â’u calonnau. Nawr mae gynnon ni’r Beibl cyfan, cyfieithiad sy’n naturiol ac yn glir. ’Dyn ni’n sicr y bydd y cyfieithiad hwn yn helpu darllenwyr i ddeall y Beibl, ac yn bwysicaf oll, i glosio at ei Awdur, Jehofa.”
Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad hwn yn cymell ein brodyr a’n chwiorydd Aimareg eu hiaith i adleisio geiriau’r salmydd, a ddywedodd: “Dw i’n dyheu i ti fy achub i! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi!”—Salm 119:81.