MEDI 26, 2022
BRASIL
Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion Brasil Nawr ar Gael yn ei Gyfanrwydd
Ar ddydd Sul, Medi 18, 2022, gwnaeth y Brawd Hamilton Vieira, aelod o Bwyllgor Cangen Brasil, gyhoeddi fod Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion Brasil nawr ar gael yn ei gyfanrwydd ar jw.org ac ar yr ap JW Library Sign Language. Roedd dros 36,300 yn gwylio’r rhaglen a gafodd ei ffrydio’n fyw o’r awditoriwm yn swyddfa cangen Brasil.
Dyma’r tro cyntaf i’r Beibl cyfan gael ei gyfieithu i Iaith Arwyddion Brasil, a dim ond y trydydd Beibl cyfan mewn iaith arwyddion yn y byd. Cychwynnodd y prosiect gydag efengyl Mathew yn 2006. Cafodd llyfrau eraill y Beibl eu rhyddhau wrth iddyn nhw gael eu cyfieithu.
Dywedodd un chwaer fyddar o’r enw Angellyca: “Yn y gorffennol, wnes i drio darllen y Beibl yn Portiwgaleg, ond wnes i ddim deall llawer ohono. Ond gyda’r Beibl yn Iaith Arwyddion Brasil, dw i’n ei ddeall mor dda dw i’n teimlo fy mod i’n rhan o’r hanes!”
Ym 1982, sefydlodd Tystion Jehofa y gynulleidfa iaith arwyddion gyntaf yn Rio de Janeiro. Bellach, mae ’na tua 9,500 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 246 cynulleidfa Iaith Arwyddion Brasil, 337 grŵp, a 63 rhag-grŵp.
Mae’r Beibl hwn yn dangos cymaint mae Jehofa yn caru ein brodyr a’n chwiorydd byddar. Rydyn ni’n gweddïo y bydd yr anrheg werthfawr hon yn helpu llawer mwy o bobl i ddysgu am Jehofa a’i Fab, ac i gael hyd i’r ffordd sy’n arwain i fywyd tragwyddol.—Ioan 17:3.