MAWRTH 24, 2023
BWRCINA FFASO
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Moore
Ar Fawrth 19, 2023, gwnaeth y Brawd Youssouf Ouedraogo, aelod o bwyllgor cangen Benin, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Moore. Cafodd y cyhoeddiad ei roi yn ystod rhaglen fyw yn Ouagadougou, prifddinas Bwrcina Ffaso. a Roedd dros 1,730 yn ei gwylio, rhai mewn person a llawer dros fideo-gynadleddau. Cafodd copïau printiedig eu dosbarthu i’r gynulleidfa yn syth ar ôl y cyhoeddiad, ac roedd y fersiwn digidol hefyd yn barod i’w lawrlwytho.
Moore ydy’r iaith mwyaf cyffredin yn Bwrcina Ffaso, gyda mwy ’na wyth miliwn o siaradwyr. Mae’r iaith hefyd yn cael ei defnyddio yn y Traeth Ifori, Ghana, Mali, Senegal, a Togo.
Dyma’r tro cyntaf i Dystion Jehofa cyfieithu Beibl cyfan i un o ieithoedd lleol Bwrcina Ffaso. Er bod cyfieithiadau eraill o’r Beibl ar gael yn yr iaith Moore, dydy’r un ohonyn nhw’n cynnwys yr enw dwyfol, Jehofa.
Dywedodd un cyfieithydd: “Dydy barddoniaeth ddim yn naturiol yn yr iaith Moore. Felly, roedd cyfieithu rhai o’r llyfrau barddonol, fel Diarhebion a Caniad Solomon, yn enwedig o heriol. Ond, ar ôl cyfieithu, roedd hi’n anhygoel i weld neges y llyfrau hyn yn dod drosodd yn glir.”
Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr sy’n siarad yr iaith Moore, am eu bod nhw wedi cael yr anrheg hyfryd hon oddi wrth Jehofa.—Iago 1:17
a Mae pwyllgor cangen Benin yn gofalu am y gwaith yn Bwrcina Ffaso.