MEHEFIN 1, 2022
NEWYDDION BYD-EANG
Ailgychwyn Tystiolaethu’n Gyhoeddus
Ar Fai 31, 2022, rhoddodd y Corff Llywodraethol wybod i bob Pwyllgor Cangen y gallan nhw ailgychwyn pob ffurf o dystiolaethu cyhoeddus, oni bai am fynd o ddrws i ddrws. Bydd pob Pwyllgor Cangen yn pwyso a mesur y sefyllfa leol yn nhiriogaeth y gangen, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau gan y llywodraeth, ac yn rhoi cyfarwyddyd i’r cynulleidfaoedd yn fuan. (Rhufeiniaid 13:1) Rydyn ni wrth ein boddau y byddwn ni’n cael mwy o gyfleoedd i rannu’r newyddion da am Deyrnas Dduw gyda’n cymdogion!—Mathew 28:19, 20.