Neidio i'r cynnwys

Cwpl priod sy’n Dystion yn mwynhau cyfarfod wythnosol drwy gyfrwng fideo-gynhadledd. I lawer o bobl, dyma’r tro cyntaf i Swper yr Arglwydd gael ei gynnal fel hyn

EBRILL 3, 2020
NEWYDDION BYD-EANG

Coffáu Marwolaeth Crist Mewn Ffordd Hanesyddol

Llawer o Gynulleidfaoedd yn Dod at ei Gilydd Drwy Gyfrwng Fideo-Gynhadledd yng Nghanol Pandemig Byd-Eang

Coffáu Marwolaeth Crist Mewn Ffordd Hanesyddol

Bydd miliynau o Dystion a’r rhai sydd â diddordeb yn cwrdd nos Fawrth, Ebrill 7, 2020, ar gyfer cyfarfod mwyaf pwysig y flwyddyn, sef Coffadwriaeth marwolaeth Iesu. Fodd bynnag, eleni, oherwydd pandemig y COVID-19 bydd ein Coffadwriaeth yn un unigryw. Bydd llawer o bobl o amgylch y byd yn dod at ei gilydd drwy gyfrwng fideo-gynhadledd.

O ganlyniad i bandemig y coronafirws, dydy llywodraethau mewn llawer o wledydd ddim yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd mewn grwpiau mawr. Felly, mae llawer o gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd wedi bod yn defnyddio gwasanaethau fideo-gynadledda er mwyn cynnal cyfarfodydd wythnosol. Bydd y cynulleidfaoedd hyn hefyd yn defnyddio gwasanaethau fideo-gynadledda er mwyn dathlu’r Goffadwriaeth. Ar gyfer y cyhoedd, bydd rhaglen sydd wedi’i recordio ymlaen llaw ar gael ar jw.org.

Daeth mwy nag 20 miliwn o bobl i’r Goffadwriaeth y llynedd. Y gobaith yw y bydd miliynau o’r cyhoedd yn gwylio’r Goffadwriaeth neu’n gwrando arni drwy gyfrwng gwasanaethau fideo-gynadledda, dros y ffôn, neu drwy gyfrwng recordiad ar jw.org.

Mewn llawer o wledydd, mae’r firws yn parhau i fod yn beryglus. Er mwyn diogelu ein brodyr mae’n bwysig inni fod yn hynod o ofalus ac yn dilyn cyfarwyddiadau’r awdurdodau hyd nes y bydd y peryg wedi pasio. Eto, wrth ddibynnu’n llwyr ar gefnogaeth Jehofa, rydyn ni’n benderfynol o ddilyn gorchymyn Iesu Grist: “Gwnewch hyn i gofio amdana i.”—Luc 22:19.