Neidio i'r cynnwys

EBRILL 12, 2022
NEWYDDION BYD-EANG

Cyfieithiad y Byd Newydd Braille ar Gael Mewn Tair Iaith Ychwanegol

Cyfieithiad y Byd Newydd Braille ar Gael Mewn Tair Iaith Ychwanegol

Dros y misoedd diwethaf, cafodd fersiwn braille Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ei ryddhau mewn tair iaith, sef Almaeneg, Coreeg, ac Wcreineg. Rhoddwyd ffeiliau electronig ar jw.org. Mae modd defnyddio’r ffeiliau Coreeg ac Wcreineg gyda pheiriannau trawsgrifio braille, a elwir cofnodyddion nodiadau, sef dyfeisiau digidol cludadwy sy’n cofnodi a darllen nodiadau. Mae’n bosib darllen y ffeiliau braille Almaeneg drwy ddefnyddio darllenydd sgrin.

Mae brawd o Corea yn darllen ffeil braille electronig drwy ddefnyddio cofnodydd nodiadau

Yn aml bydd pobl ddall yn defnyddio cyhoeddiadau sain a chofnodyddion nodiadau. Ond mae’n well gan lawer gopïau papur braille. Mae copïau caled o’r cyfrolau cyntaf o’r Beibl mewn braille Almaeneg eisoes wedi cael eu cynhyrchu a’u hanfon at gyhoeddwyr. Bydd copïau caled o’r Beibl mewn braille Coreeg yn cael eu hanfon at gyhoeddwyr dros y misoedd nesaf. Oherwydd y rhyfel yn Wcráin, dydyn ni ddim yn gwybod pryd byddwn ni’n gallu anfon copïau caled o’r Beibl at gyhoeddwyr.

Er mwyn cynhyrchu Cyfieithiad y Byd Newydd mewn braille, mae’n rhaid trawsgrifio’r holl destun gan gynnwys y cyfeiriadau i gyd i lythrennau braille. Mae’n rhaid trosi cymhorthion gweledol fel mapiau a diagramau i fformat mae’r deillion yn gallu ei ddeall.

Dywedodd un chwaer ddall sy’n byw yn yr Almaen: “Mi fyddai’n cofio’n well yr hyn dw i’n ei ddarllen mewn braille. Mae’n well o lawer na gwrando’n unig. Mae wedi gwneud imi garu Jehofa a’i drystio yn fwy.”

Chwith uchaf: Boglynnydd braille a ddefnyddir i foglynnu dotiau braille ar bapur arbennig. Canol: Chwaer yn rhwymo cyfrol braille. Dde: Pacio cyfrolau braille er mwyn eu dosbarthu i gyhoeddwyr dall

Mae pob Beibl braille yn cael eu hargraffu yn Wallkill, Efrog newydd, UDA, gan ddefnyddio boglynnydd braille. Mae’r peiriant hwn yn boglynnu dotiau braille ar bapur arbennig, sy’n cael eu casglu at ei gilydd a’u rhwymo mewn cyfrolau. Wedyn bydd y cyfrolau yn cael eu hanfon at y swyddfeydd cangen er mwyn eu dosbarthu i gyhoeddwyr. Gall argraffiad cyflawn Cyfieithiad y Byd Newydd mewn braille gynnwys dros 30 o gyfrolau a chymryd tua 2 fetr o le ar y silff.

Dywedodd un o’r trawsgrifwyr a weithiodd ar y fersiwn Coreeg: “Pan ’dyn ni’n meddwl sut bydd ein brodyr a’n chwiorydd dall yn elwa’n ysbrydol a’r cysur a gân nhw o’r Beibl hwn, mae hyn yn gwneud ni hyd yn oed yn fwy diolchgar i Jehofa.”

Rydyn ni’n hyderus y bydd y fersiynau hyn o Cyfieithiad y Byd Newydd mewn braille o fudd mawr i’n brodyr a’n chwiorydd dall wrth i Jehofa eu llenwi nhw “â phethau daionus.”—Salm 107:9.