Neidio i'r cynnwys

Feneswela: Chwaer yn recordio troslais yn iaith Warao (chwith uchaf), a dau frawd yn gweithio fel rhan o’r tîm cyfieithu Piaroa (chwith isaf). De Corea: Teulu yn gwylio rhaglen y gynhadledd 2020 (y dde)

MEDI 4, 2020
NEWYDDION BYD-EANG

Cynhadledd 2020—Cyfieithwyr yn Llwyddo er Gwaethaf Anawsterau

Cynhadledd 2020—Cyfieithwyr yn Llwyddo er Gwaethaf Anawsterau

Roedd y gynhadledd “Llawenha Bob Amser!” 2020 yn unigryw yn hanes modern Tystion Jehofa. Cafodd y rhaglen ei chyfieithu i fwy na 500 o ieithoedd a’i darlledu i gartrefi pobl. Roedd rhaid i gyfieithwyr ddod dros nifer o anawsterau, gan gynnwys diffyg amser ac adnoddau.

Dywedodd aelod o dîm cyfieithu Kikuyu yng Nghenia: “Oherwydd y cyfnod clo yn y gangen, dim ond ychydig o leisiau oedd ar gael i’w recordio. Daethon ni dros y cyfyngiadau drwy ddefnyddio brodyr a chwiorydd o bell. Mae wedi bod yn fraint i weld ysbryd Jehofa ar waith.”

Gwnaeth tîm cyfieithu Iaith Arwyddion Corea a thîm cyfieithu Coreeg wynebu problemau tebyg. Doedd gweithwyr oedd yn teithio mewn i gefnogi’r timau ddim yn gallu dod i’r Bethel ar gyfer sesiynau recordio.

Stiwdio dros dro wedi ei gosod yng nghartref brawd er mwyn recordio anerchiadau a fideos yn Iaith Arwyddion Corea

I ddatrys y broblem hon, gwnaeth brodyr osod stiwdios yn eu cartrefi. Cyfrannodd brodyr lleol y mwyafrif o’r offer recordio roedd eu hangen. Yn ogystal, oherwydd bod yr holl gynulliadau cylchdaith wedi eu canslo, roedd y gangen yn gallu defnyddio camerâu o Neuaddau Cynulliad er mwyn recordio’r rhaglen yn iaith arwyddion.

Yn Feneswela, roedd rhai o’r cyfieithwyr yn gorfod ymdopi â chysylltiad gwael â’r Rhyngrwyd. Doedd gan eraill ddim digon o offer. Ond roedd y cyfieithwyr creadigol hyn yn defnyddio beth bynnag oedd wrth law i gyflawni’r gwaith. Er enghraifft, defnyddiodd cyfieithwyr mewn un ardal fatresi i wella cyflwr y sain yn ystod sesiynau recordio.

Yn Juba, yn Ne Swdan, mae tîm yn cyfieithu i Sande. Dywed un o’r cyfieithwyr: “Pan glywais i bod ni’n mynd i gyfieithu rhaglen gyfan y gynhadledd, dywedais i fi fy hun, ‘Mae’n amhosib! ’Dyn ni’n ffaelu recordio rhaglen gyfan y gynhadledd gyda dros 90 rhan fideo a sain o fewn dau fis.’ Nawr, wrth weld llwyddiant y prosiect, dwi’n hollol hyderus does dim byd yn gallu rhwystro Jehofa rhag cyflawni ei ewyllys. Mae ei ffordd o wneud pethau yn fendigedig!”—Mathew 19:26.

Yn bendant, roedd y gynhadledd “Llawenha Bob Amser!” 2020 yn rhodd gan Jehofa, sydd “am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.”—1 Timotheus 2:4.