IONAWR 20, 2022
NEWYDDION BYD-EANG
Defnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth! yn Fwy Effeithiol Gyda Help Nodweddion JW Library
Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd y Corff Llywodraethol fod llyfr a llyfryn newydd o’r enw Mwynhewch Fywyd am Byth! ar gael. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn defnyddio dulliau dysgu rhyngweithiol sy’n ein helpu ni i astudio’r Beibl yn fwy effeithiol gyda phobl.
Mae nodweddion newydd yn yr ap JW Library, sy’n gwneud y llyfr a’r llyfryn digidol yn fwy deniadol i’r athro ac i’r myfyriwr. Cymerwch amser i ddysgu sut i ddefnyddio’r nodweddion newydd hyn.
Ydych chi eisiau tynnu sylw’r myfyriwr at ran benodol yn y wers? Tapiwch ar y paragraff a bydd dewislen yn codi. Dewiswch y botwm Rhannu er mwyn rhannu linc i’r paragraff penodol hwnnw.
Ydych chi eisiau gwrando gyda’r myfyriwr ar y paragraff yn cael ei ddarllen? Tapiwch ar y paragraff er mwyn agor y ddewislen. Dewiswch y botwm Chwarae er mwyn chwarae recordiad sy’n dechrau o’r paragraff hwnnw. a
Efallai bydd y myfyriwr yn defnyddio fersiwn printiedig a chithau’n defnyddio fersiwn digidol. Ydych chi eisiau gweld sut mae’r fersiwn printiedig yn edrych? O’r ddewislen Mwy (sy’n ymddangos fel tri dot yn y gornel uchaf ar ochr dde’r sgrin), dewiswch Fersiwn Printiedig. I fynd yn ôl i’r cyhoeddiad digidol, dewiswch Fersiwn Digidol yn yr un ddewislen.
Ydych chi eisiau helpu eich myfyrwyr i gadw cofnod o’u cynnydd yn y cyhoeddiad digidol? Anogwch nhw i ddefnyddio’r blychau i nodi dyddiad cwblhau’r wers neu i osod nod personol. Gallan nhw hefyd ddefnyddio’r siart rhyngweithiol “Darllen y Beibl—Eich Cofnod Personol”.
a Nid yw’r recordiadau ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.