MEHEFIN 17, 2021
NEWYDDION BYD-EANG
Lansiad Rhithiol o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Tajici
Ar Fehefin 13, 2021, rhyddhaodd y Brawd Mark Sanderson, aelod o’r Corff llywodraethol, Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Tajici. Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn fformat digidol yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw.
Prif Ffeithiau’r Prosiect
Mae tua 14 miliwn o bobl yn siarad Tajici, amcangyfrifir fod 5 miliwn ohonyn nhw’n byw yn Tajicistan
Cymerodd cyfieithwyr o sawl gwlad tua 4 blynedd i gwblhau’r prosiect
Dywedodd un o’r cyfieithwyr: “Gyda Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Tajici, bydd darllenwyr yn deall yr ystyr yn syth a gwybod sut i’w roi ar waith. Does dim dwywaith y bydd yn helpu pawb i glosio at Jehofa, Awdur y Beibl.”—Iago 4:8.