GORFFENNAF 8, 2022
NEWYDDION BYD-EANG
Record Cyfieithu Newydd Wrth i 13 o Feiblau Cael Eu Rhyddhau ar Un Penwythnos
Yn ystod penwythnos Mehefin 25-26, 2022, gwnaeth ein hymdrechion cyfieithu gyrraedd carreg filltir newydd gydag 13 o fersiynau o Cyfieithiad y Byd Newydd mewn gwahanol ieithoedd yn cael eu rhyddhau. Cyn hynny, y nifer uchaf o Feiblau i gael eu rhyddhau ar un penwythnos oedd chwech. Dyma adroddiad o’r digwyddiad hanesyddol.
Tseltal
Gwnaeth y Brawd Armando Ochoa o Bwyllgor Cangen Canolbarth America ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Tseltal. Cafodd y rhaglen ei ffrydio i gynulleidfa o tua 1,400. Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn fformatiau digidol a phrintiedig.
Dywedodd un o’r cyfieithwyr Tseltal: “O edrych yn ôl, galla i weld llaw Jehofa yn y prosiect yn glir. Dw i wedi synnu i weld beth cafodd ei gyflawni. Gwyddon ni ei fod ond yn bosib gyda help ysbryd Jehofa.”
Waiwwnaici
Gwnaeth y Brawd Carlos Moreno, cynrychiolydd cangen Colombia, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol (Mathew-Actau) yn yr iaith Waiwwnaici. Cafodd y rhaglen a recordiwyd o flaen llaw ei ffrydio i gynulleidfa o 2,000 o bobl yng Ngholombia a Feneswela. Roedd y Beibl ar gael mewn fformat digidol. Bydd copïau printiedig o’r Beibl newydd ar gael yn y dyfodol.
Baoleg
Gwnaeth y Brawd Christophe Coulot, aelod o Bwyllgor Cangen y Traeth Ifori, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Baoleg yn ystod rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw, ac a ffrydiwyd i gynulleidfa o dros 12,000. Cafodd copïau eu rhyddhau mewn fformat digidol. Bydd fersiynau printiedig ar gael ym mis Hydref 2022. Dyma’r tro cyntaf i Cyfieithiad y Byd Newydd gael ei gyfieithu i iaith frodorol o fewn tiriogaeth cangen y Traeth Ifori.
Gwnaeth aelod o’r tîm cyfieithu wneud sylw ar yr hyn oedd wedi rhoi hwb iddyn nhw wrth weithio ar y prosiect: “Pryd bynnag cododd rhyw anhawster, wnaethon ni feddwl am y llawenydd y byddai’r brodyr a’r chwiorydd a’r bobl yn y diriogaeth yn ei gael o dderbyn Beibl yn eu hiaith eu hunain. Fe wnaeth hyn, gyda chefnogaeth Jehofa, roi’r nerth inni ddal ati.”
Cymraeg
Gwnaeth y Brawd Peter Bell o Bwyllgor Cangen Prydain, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn y Gymraeg yn ystod rhaglen fyw o un o Neuaddau’r Deyrnas yng Nghymru. Roedd ’na ryw 2,057 yn bresennol mewn Neuaddau’r Deyrnas ar draws Cymru a’r Ariannin. Cafodd pawb lawrlwytho copïau digidol yn syth. Bydd argraffiad printiedig ar gael ym mis Rhagfyr 2022.
“Wna i byth anghofio’r tro cyntaf wnaethon ni ddefnyddio enw Jehofa yn y cyfieithiad. Roedd hi’n fraint cael bod yn dyst i’r enw dwyfol yn cael ei adfer i le y dylai fod,” meddai aelod o’r tîm cyfieithu.
Maniawa a Tewe
Gwnaeth y Brawd Marcelo Santos, aelod o Bwyllgor Cangen Mosambîc, ryddhau Y Beibl—Llyfr Mathew yn yr ieithoedd Maniawa a Tewe yn ystod dwy raglen oedd wedi eu recordio o flaen llaw. Roedd mynediad i’r rhaglenni ar JW Stream. Cawson nhw hefyd eu darlledu o orsafoedd teledu a radio. Cafodd y llyfrau eu rhyddhau mewn fformatiau sain a digidol. Bydd fersiynau printiedig ar gael ym mis Medi 2022.
I ni wybod, dyma lyfr cyntaf y Beibl i gael ei gyfieithu i’r iaith Maniawa, ac ychydig iawn o lyfrau’r Beibl sydd wedi cael eu cyfieithu i’r iaith Tewe. Bydd darllenwyr a gwrandawyr fel ei gilydd yn elwa’n fawr ohonyn nhw.
Cetshwa (Ancash), Cetshwa (Ayacucho), a Cetshwa (Cuzco)
Gwnaeth y Brawd Marcelo Moyano, aelod o Bwyllgor Cangen Periw, ryddhau’r fersiwn digidol o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr ieithoedd Cetshwa (Ancash), Cetshwa (Ayacucho), a Cetshwa (Cuzco). Dyma’r tair prif iaith Cetshwa sy’n cael eu siarad ym Mheriw. Cafodd y rhaglen a recordiwyd o flaen llaw ei ffrydio i gynulleidfa o dros 7,000. Bydd copïau printiedig ar gael ym mis Hydref 2022.
Er bod yr ieithoedd yn tarddu o’r un gwreiddyn, mae tafodieithoedd Cetshwa yn ddigon gwahanol i’w gilydd i’w gwneud hi’n anodd deall y Beibl heb gyfieithiadau gwahanol. Gwnaeth timoedd y tafodieithoedd penodol ddewis geiriau sy’n hawdd eu deall gan ddarllenwyr brodorol yn eu rhanbarthau nhw.
Ndebele, Sesotho (Lesotho), a Sesotho (De Affrica)
Gwnaeth y Brawd Kenneth Cook, aelod o’r Corff llywodraethol ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr ieithoedd Ndebele, a Sesotho (De Affrica). Hefyd rhyddhaodd fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Sesotho (Lesotho). Gwyliodd dros 28,000 y rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw, ac a gafodd ei ffrydio i Neuaddau’r Deyrnas penodol a thai preifat ar draws y wlad. Roedd copïau ar gael yn syth mewn fformat digidol, ac mae cynlluniau ar y gweill i ryddhau copïau printiedig ym mis Rhagfyr 2022. Dyma’r tro cyntaf mae fersiwn cyflawn o Cyfieithiad y Byd Newydd wedi cael ei gyfieithu i Ndebele a Sesotho (De Affrica).
Wrth sôn am y Beibl Ndebele, dywedodd aelod o’r tîm cyfieithu: “Bydd y cyfieithiad hwn yn wir fendith i’r bobl Ndebele eu hiaith yn ein tiriogaeth am ei fod yn defnyddio enw Jehofa. Am y tro cyntaf, byddan nhw’n gallu dod i adnabod ei enw o’i ddarllen yn syth o’u Beiblau.”
Ndebele (Simbabwe)
Gwnaeth y Brawd Shingirai Mapfumo, aelod o Bwyllgor Cangen Simbabwe, ryddhau fersiwn cyflawn o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Ndebele (Simbabwe) mewn fformat digidol. Bydd copïau printiedig ar gael ym mis Gorffennaf 2022. Cafodd y rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen law ei ffrydio i Neuaddau’r Deyrnas ar draws Simbawe gyda dros 8,700 yn bresennol.
Er bod Beiblau eraill ar gael yn Ndebele (Simbabwe), mae gwirioneddau’r Beibl yn gliriach yn y cyfieithiad hwn. Er enghraifft, yn Ioan 17:3, mae Beiblau Ndebele eraill yn galw Iesu Grist y “Gwir Dduw.” Mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn dangos y gwahaniaeth yn glir rhwng Jehofa Dduw ac Iesu Grist. “Bydd y cyfieithiad hwn wir yn siarad â’r darllenydd mewn iaith pob dydd,” meddai un o’r cyfieithwyr.
Llawenhawn i weld Gair Duw ar gael i bobl sy’n ceisio’r gwir ledled y byd, gan ganiatáu iddyn nhw “gymryd dŵr y bywyd am ddim” yn eu hiaith eu hunain.—Datguddiad 22:17.