Neidio i'r cynnwys

Mae’r Brawd Mark Sanderson, aelod o’r Corff Llywodraethol, yn cyhoeddi bod Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion Rwseg wedi ei ryddhau. Gwyliodd gyhoeddwyr o sawl wlad y digwyddiad, gan gynnwys (yn glocwedd o’r ochr chwith) Wcráin; Latfia; Astana, Casachstan; ac Almaty, Casachstan

MAI 31, 2023
NEWYDDION BYD-EANG

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion Rwseg

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion Rwseg

Ar Fai 27, 2023, gwnaeth y Brawd Mark Sanderson, aelod o’r Corff Llywodraethol, gyhoeddi fod Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion Rwseg (RSL) nawr ar gael yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf. Roedd 148 yn bresennol mewn person ar gyfer y rhaglen. Ar ben hynny, roedd 5,000 o bobl o 15 o wledydd yn gwylio’r rhaglen un ai yn fyw neu drwy wylio recordiad yn hwyrach ymlaen. Mae’r Beibl newydd nawr ar gael ar jw.org ac yn yr ap JW Library Sign Language.

Dywedodd un brawd byddar: “Pan dw i’n gweld y Beibl yn iaith arwyddion, mae fel petaswn i yn gweld ymateb Iesu i ddioddefaint pobl. Mae hynny yn wir gyffwrdd â fy nghalon!”

Cyn cafodd y Beibl ei ryddhau yn RSL, roedd llawer o’r Tystion byddar yn dibynnu ar y Beibl Rwseg printiedig. Ond gan fod RSL yn iaith ddisgrifiadol iawn, roedd rhai cyhoeddwyr yn ei chael hi’n anodd deall ystyr sawl ymadrodd.

Er enghraifft dywedodd y weddw o Sareffath wrth Elias yn 1 Brenhinoedd 17 y byddai hi a’i mab yn marw ar ôl iddyn nhw fwyta eu pryd. Roedd rhai o’r cyhoeddwyr byddar yn meddwl bod y geiriau hyn yn awgrymu bod bwyd y weddw wedi cael ei ddifetha neu wenwyno. Yng nghyfieithiad RSL, mae’n fwy eglur ei fod yn golygu mai hyn oedd eu pryd olaf.

Gan fod RSL yn cael ei defnyddio gan amrywiaeth o bobl o wahanol cenhedloedd a diwylliannau, ystyriodd y cyfieithwyr y tafodieithoedd lleol gwahanol. Eglurodd un o’r cyfieithwyr: “Gall un arwydd olygu ‘pechod’ mewn un ardal, a ‘Duw’ mewn ardal arall. A gall arwydd ar gyfer ‘disgybl’ mewn un ardal olygu ‘olaf’ neu ‘tlawd’ rhywle arall. Fel tîm cyfieithu, ceisiwn ddefnyddio yr arwyddion ac ymadroddion mwyaf cyffredin.”

Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a’n chwiorydd sy’n defnyddio RSL, ac yn diolch i Jehofa am eu bendithio nhw gyda’r rhodd hyfryd hon.—Diarhebion 10:22.