Neidio i'r cynnwys

MAWRTH 10, 2023
NEWYDDION BYD-EANG

Rhyddhau Cyfieithiadau o’r Beibl yn Ne Affrica

Rhyddhau Cyfieithiadau o’r Beibl yn Ne Affrica

Ar Fawrth 5, 2023, gwnaeth y Brawd David Splane, aelod o’r Corff Llywodraethol, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Iaith Arwyddion De Affrica (SASL) a’r llyfr Mathew yn yr iaith Ndonga. Cafodd y Beiblau eu rhyddhau yn ystod rhaglen arbennig yn swyddfa gangen De Affrica. Cafodd y rhaglen ei ffrydio i gynulleidfaoedd ar draws y wlad, gyda dros 130, 000 o bobl yn ei gwylio. Roedd copïau digidol ar gael i’w lawrlwytho ar unwaith.

Dechreuodd y gwaith o gyfieithu i SASL yn 2007 yn swyddfa gangen De Affrica, yn agos i Johannesburg. Gwnaeth y tîm cyfieithu symud i swyddfa gyfieithu yn Durban yn 2022. Wrth sôn am y Beibl newydd, dywedodd y Brawd Ayanda Mdabe, henuriad byddar: “Gyda’r cyfieithiad hwn, mae pobl fyddar yn deall yn glir bod Gair Duw yn wir ac yn bwerus. Mae’n fy helpu i ddeall personoliaeth Iesu ac egwyddorion y Beibl yn well. O ganlyniad i hyn, mae’n newid fy ffordd o feddwl.”

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n siarad yr iaith Ndonga yn byw yn Namibia, ac mae’r swyddfa gyfieithu wedi ei leoli yn Ondangwa. a Dywedodd un cyfieithydd: “Mae’r Beibl newydd yn fy atgoffa i bod Jehofa wir yn caru pobl, ac eisiau iddyn nhw ddod i’w adnabod yn well.”

Rydyn ni’n llawenhau gyda’r brodyr a’r chwiorydd a fydd yn elwa o’r Beiblau newydd. Bydd y cyfieithiadau hyn yn eu helpu nhw i ddal ati i drysori gorchmynion Jehofa.—Diarhebion 2:1.

a Mae swyddfa gangen De Affrica yn gofalu am y gwaith yn Namibia.