HYDREF 14, 2022
NEWYDDION BYD-EANG
Rhyddhau Fersiwn Diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn Samöeg
Ar Hydref 9, 2022, cafodd fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd ei ryddhau yn Samöeg. Gwnaeth y Brawd Geoffrey Jackson o’r Corff Llywodraethol ryddhau’r Beibl mewn rhaglen a oedd wedi cael ei recordio o flaen llaw. Gwyliodd cyhoeddwyr o Samoa America, Awstralia, Seland Newydd, a Samoa. Yn syth ar ôl yr anerchiad cafodd copïau printiedig o’r Beibl eu dosbarthu, ac roedd copïau digidol ar gael i’w lawrlwytho.
Cychwynnodd y gwaith pregethu yn Samoa ym 1931, a chafodd y gynulleidfa cyntaf ei ffurfio yn Apia ym 1953. Roedd Tystion Jehofa, a’r cyhoedd, yn hapus i dderbyn Cyfieithiad y Byd Newydd am y tro cyntaf yn 2009 am ei fod yn gywir, ac ar gael i bawb.
Yn y fersiwn diwygiedig, mae’r cyfieithwyr wedi gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio iaith fodern sydd yn dal yn gywir. Dywedodd un cyfieithydd: “Mae pobl Samoa yn parchu’r Beibl, dyna pam wnaeth y tîm cyfieithu ddefnyddio iaith syml sy’n hawdd i’w deall ond eto sydd ddim yn rhy llafar. Bellach, gyda help Jehofa, mae’r Beibl Samöeg gyfan wedi cael ei ddiwygio, a bydd hynny o les i ni i gyd.”
Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad hwn yn helpu’r darllenwyr i ddeall meddyliau Jehofa yn well byth.—Salm 139:17.