Neidio i'r cynnwys

Mae brodyr a chwiorydd ar draws Ewrop yn mwynhau llyfr Mathew sydd newydd gael ei ryddhau yn Cwrdeg Cwrmanjeg a Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws)

GORFFENNAF 11, 2023
NEWYDDION BYD-EANG

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Ieithoedd Cwrdeg Cwrmanjeg a Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws)

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Ieithoedd Cwrdeg Cwrmanjeg a Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws)

Ar Orffennaf 2, 2023, cafodd Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew ei ryddhau mewn dwy iaith Cwrdeg mewn dau ddigwyddiad ar wahân. Yn yr Almaen, cafodd y llyfr ei ryddhau yn Cwrdeg Cwrmanjeg. Cafwyd y llyfr Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws) hefyd ei ryddhau yn Georgia. Roedd tua 750 o bobl yn bresennol yn y digwyddiadau.

Cwrdeg Cwrmanjeg

Gwnaeth y Brawd Dirk Ciupek, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth Ewrop, ryddhau llyfr Mathew yn iaith Cwrdeg Cwrmanjeg yn ystod rhaglen a gynhaliwyd yn swyddfa gangen Canolbarth Ewrop yn Selters, Yr Almaen. Cafwyd y rhai a oedd yn bresennol copïau printiedig. Roedd copïau digidol hefyd ar gael i’w lawrlwytho.

Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws)

Yn ystod rhaglen yn Tbilisi, Georgia, gwnaeth y Brawd Levani Kopaliani, aelod o Bwyllgor Cangen Georgia, ryddhau llyfr Mathew yn iaith Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws). Roedd brodyr a chwiorydd yn Aparan, Armavir, a Yerevan, Armenia, yn gwylio dros fideo-gynadledda. Derbyniodd y rhai a oedd yn bresennol gopïau printiedig. Roedd fersiwn digidol hefyd ar gael i’w lawrlwytho.

Mae’r ieithoedd Cwrdeg Cwrmanjeg a Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws) yn debyg i’w gilydd ond gall y gramadeg a strwythur y brawddegau amrywio. Yn ychwanegol i hynny, gall geiriau gael eu sillafu yn yr un ffordd ond golygu pethau gwahanol. Felly, roedd y timoedd cyfieithu yn cyd-weithio’n agos i gynhyrchu llyfr Mathew yn eu hieithoedd nhw. Wrth egluro buddion y llyfr hwn, dywedodd un cyfieithydd: “Bydd y cyfieithiad newydd hwn mor adfywiol â glasiad o ddŵr glan i’r bobl Cwrdeg sy’n sychedu am y gwir.”

Ynghyd â’n brodyr a chwiroydd sy’n siarad Cwrdeg Cwrmanjeg a Cwrdeg Cwrmanjeg (Cawcasws), rydyn ni’n diolch i Jehofa ac yn ei foli gan ei fod wedi llywio’r ffordd i fwy o unigolion fodloni ei chwant ysbrydol!—Mathew 5:3.