Neidio i'r cynnwys

Y Brawd a’r Chwaer Mudaheranwa, sydd hefyd yn arloeswyr, ar eu ffordd i’r gwaith

EBRILL 6, 2020
CANADA

Heddwch yng Nghanol Helbul

Heddwch yng Nghanol Helbul

Mae’r Brawd Jean-Yves a’i wraig, Vasthie Mudaheranwa ymhlith y rhai yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y coronafirws ym Montreal, Canada. Mae’r Brawd Mudaheranwa yn feddyg sy’n trin pobl sydd â salwch resbiradol mewn ysbyty cymuned, ac mae’r Chwaer Mudaheranwa yn gweithio fel nyrs mewn canolfan arbennig ar gyfer cleifion COVID-19. Er gwaethaf y gofid emosiynol, maen nhw’n dibynnu ar Jehofa sy’n “gwneud ei bobl yn gryf” ac yn rhoi heddwch iddyn nhw.—Salm 29:11.

Dywed y Brawd Mudaheranwa: “Mae llawer o’m cyd-weithwyr wedi dychryn mewn ffordd dw i erioed wedi ei weld o’r blaen.” Mae ei wraig yn dweud:“Mae fy astudiaeth bersonol yn help mawr. Rydyn ni’n meddwl am arwyddion y dyddiau diwethaf, ac yn cofio bod Jehofa gyda ni, a fydd e byth yn cefnu arnon ni. Mae gweddïo’n help mawr hefyd. Cyn imi fynd i’r gwaith dw i’n gweddïo ac mae hynny yn rhoi heddwch imi.”

Jean-Yves a Vasthie Mudaheranwa yn cymryd rhan mewn cyfarfod gyda’r gynulleidfa

“Dw i’n dod o Rwanda ac wedi goroesi’r hil-laddiad a ddigwyddodd yno,” meddai’r Brawd Mudaheranwa. “Yng Nghanada, dydyn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hynny, felly weithiau rydyn ni’n anghofio bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf. Rhaid imi gyfaddef doeddwn i ddim bob amser yn cofio bod dydd Jehofa yn agos. Mae’r pandemig wedi f’atgoffa fi mai dyma’r dyddiau diwethaf, ac wedi atgyfnerthu fy ffydd yn y Beibl a’i broffwydoliaethau.

Mae pobl Jehofa ledled y byd yn teimlo’r un ffordd â’r Brawd a’r Chwaer Mudaheranwa ac yn parhau i fod yn dawel eu meddwl yn ystod yr argyfwng presennol hwn.—Eseia 48:18.