Neidio i'r cynnwys

Y Brawd Mark Sanderson yn cyflwyno copi caled o’r tri Beibl newydd yn Cwangali, Sepwlana, a Setswana

MAWRTH 10, 2021
DE AFFRICA

Rhyddhau Tri Beibl yn Ne Affrica

Rhyddhau Tri Beibl yn Ne Affrica

Yn Ne Affrica, cafodd cyhoeddwyr sy’n siarad Cwangali, Sepwlana, a Setswana anrheg arbennig ar Fawrth 7, 2021. Mewn anerchiad a gafodd ei recordio o flaen llaw, rhyddhaodd y Brawd Mark Sanderson o’r Corff Llywodraethol Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr ieithoedd Cwangali a Sepwlana a fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn Setswana. Gwyliodd y brodyr a’r chwiorydd y rhaglen arbennig drwy fideo-gynadledda, ac mi gafodd y Beiblau eu lansio mewn ffurf ddigidol.

Cwangali

Mi wnaeth tri chyfieithydd orffen y cyfieithiad mewn dwy flynedd. Bellach mae gan y 240 o gyhoeddwyr yn y maes Cwangali gyfieithiad hawdd ei ddarllen a fydd yn hwb i’w hastudiaeth bersonol a’u gweinidogaeth.

Sepwlana

Gweithiodd chwe chyfieithydd ar y prosiect, a gymerodd tua blwyddyn a hanner i’w gwblhau. Mae ’na 374 o gyhoeddwyr Sepwlana eu hiaith yn Ne Affrica.

Dywedodd un cyfieithydd: “Pan fydden ni’n pregethu o’r blaen, yn aml bydden ni’n troi at gyfieithiad Sepedi. Ond yn gyntaf, cyn esbonio adnod, roedd rhaid esbonio neu gyfieithu ambell air o’r adnod i’r person oedd wedi dangos diddordeb. Nawr, gyda’r cyfieithiad hwn, gall rhywun ei ddarllen unwaith ac mae’r neges yn mynd yn syth i’r galon.”

Setswana

Cymerodd y prosiect o ddiwygio’r Beibl tua phedair blynedd i’w gwblhau. Gweithiodd chwe chyfieithydd ar y prosiect. Mae dros 5,600 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu yn y maes Setswana.

Wrth sôn am Cyfieithiad y Byd Newydd yn Setswana, dywedodd un o’r cyfieithwyr: “Bydd hwn yn helpu cyhoeddwyr i ganolbwyntio ar wella eu sgiliau yn y weinidogaeth yn hytrach nag esbonio geiriau anodd. Mi fydd hefyd yn adnodd da ar gyfer astudio. Bydd y siartiau, mapiau, lluniau, a geirfa yn helpu’r cyhoeddwyr i ddychmygu hanesion y Beibl.”

Mi fydd y Beiblau newydd hyn yn helpu diwallu angen ysbrydol ein brodyr a’n chwiorydd yn ogystal â’r rhai maen nhw’n pregethu iddyn nhw. Gwerthfawrogwn yn fawr y wledd o fwyd ysbrydol sydd gynnon ni heddiw.—Esei. 65:13.