MAWRTH 9, 2022
ECWADOR
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Nhafodieithoedd Citshwa o Daleithiau Chimborazo ac Imbabura
Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 5, 2022, gwnaeth y Brawd Alan Costa, aelod o Bwyllgor Cangen Ecwador, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn nhafodieithoedd Citshwa o daleithiau Chimborazo ac Imbabura. Dyma’r ddwy brif dafodiaith o’r iaith Citshwa a siaredir yn Ecwador. Cafodd y Beiblau eu rhyddhau mewn fformatiau digidol a phrintiedig yn ystod rhaglen fyw, a gafodd ei ffrydio i gyhoeddwyr.
Mae mwyafrif o’r siaradwyr Citshwa yn byw ym Mynyddoedd yr Andes, rhwng 2,700 a 3,700 metr (8,900 a 12,200 tr) uwch lefel y môr. Maen nhw’n byw mewn cymunedau clòs ac yn adnabyddus am fod yn hael, yn weithgar, ac yn lletygar. Mae llawer yn credu yn y Creawdwr ac mae ganddyn nhw barch mawr tuag at y Beibl.
Yn y 1990au, roedd Tystion Jehofa yn cyfieithu cyhoeddiadau i’r hyn sy’n cael ei galw’n Citshwa Unedig, sef cymysgedd o wahanol dafodieithoedd sy’n cael eu siarad ar draws Ecwador. Ond, prin oedd y bobl oedd yn ymateb i neges y Deyrnas yn y diriogaeth Citshwa. Daeth yn amlwg bod y brodyr angen llenyddiaeth oedd wedi ei chyfieithu i’r gwahanol dafodieithoedd unigol er mwyn bod yn effeithiol.
Cafodd y timau cyfieithu Citshwa gymorth gan gyhoeddwyr mewn gwahanol rannau o’r wlad. Roedd y rhain yn adolygu’r cyfieithiadau. “Gyda’u help nhw, fe wnaethon ni gyfieithiad y byddai pawb yn gallu ei ddeall,” meddai un cyfieithydd, a oedd yn siarad am yr her o gynhyrchu Beibl Chimborazo ar gyfer grŵp ieithyddol mor amrywiol. Esboniodd cyfieithydd o’r tîm Imbabura: “Buodd Jehofa yn ein harwain ni, a gallwn weld yn glir ei fod eisiau i bawb wybod ei Air a’i ddeall.”
Bydd y ddau gyfieithiad newydd yn fendith i’r brodyr a chwiorydd Citshwa eu hiaith wrth iddyn nhw wasanaethu ein Duw, Jehofa, yr Un “sy’n achub pob math o bobl.”—1 Timotheus 4:10.