TACHWEDD 5, 2021
FENESWELA
Rhyddhau Llyfrau Cyntaf o’r Beibl yn Iaith Arwyddion Feneswela
Ar Hydref 30, 2021, cafodd efengylau Mathew ac Ioan eu rhyddhau yn Iaith Arwyddion Feneswela. Cysylltodd 2,200 o frodyr a chwiorydd drwy fideo-gynadledda i raglen arbennig oedd wedi ei recordio o flaen llaw. Gwnaeth y Brawd Miguel Guillén, aelod o Bwyllgor Cangen Feneswela, ryddhau’r llyfrau. Mae’r gangen wedi cyfieithu bron 7,000 o adnodau i Iaith Arwyddion Feneswela ers 2006, ond dyma’r tro cyntaf i lyfrau cyfan o’r Beibl fod ar gael yn yr iaith.
Dechreuodd cyfieithwyr Cyfieithiad y Byd Newydd gydag Efengylau Mathew ac Ioan am fod hanesion bywyd Iesu yn fwy cyfarwydd, a’u harddull storïol yn haws i gyfieithu na llyfrau eraill y Beibl.
Yn 2003, cafodd y gynulleidfa iaith arwyddion gyntaf ei sefydlu yn ninas Cabimas, yng ngorllewin Feneswela. Heddiw, mae 1,204 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 53 o gynulleidfaoedd iaith arwyddion trwy’r wlad. Mae llawer o bobl fyddar yn awyddus i ddysgu am y Beibl ond yn ei chael hi’n anodd deall Iaith Arwyddion Sbaen, sy’n eithaf gwahanol.
“Dywedodd un dyn byddar ei fod wedi cael hyd i Feibl yn Sbaeneg, ond pan geisiodd ei ddarllen, roedd e’n methu deall gair ohono,” meddai arolygwr cylchdaith. “Crefodd ar Dduw am help. . . . Unwaith cafodd e wybod y gallai ddysgu am y Beibl drwy Iaith Arwyddion Feneswela, derbyniodd y dyn astudiaeth Feiblaidd yn syth.”
Gweithiodd tîm o chwe chyfieithydd am ddeg mis i gwblhau’r cyfieithiad. Fe wnaethon nhw ymgynghori â phanel o saith brawd byddar o wahanol ranbarthau’r wlad er mwyn adolygu’r cynnwys. Gwnaeth hyn helpu’r cyfieithwyr i sicrhau y byddai pobl o wahanol ranbarthau yn deall er gwaethaf y gwahaniaethau rhanbarthol yn yr iaith.
Oherwydd y pandemig COVID-19, roedd rhaid i’r cyfieithwyr gweithio mewn lleoliadau gwahanol drwy fideo-gynadledda. Roedd cysylltiad gwael â’r We yn ei gwneud hi’n arbennig o heriol. Dywedodd un cyfieithydd: “Doedd hi ddim yn hawdd, ond gwnaeth Jehofa helpu ni i oresgyn yr heriau.”
Gweddïwn y bydd pob un o’n brodyr a’n chwiorydd yn Feneswela yn gallu elwa’n llawn ar “arian wedi ei buro” sef Gair Jehofa yn eu hiaith eu hunain.—Salm 12:6.