GORFFENAF 6, 2023
GEORGIA
Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Mingreleg
Ar Fehefin 30, 2023, gwnaeth y Brawd Joni Shalamberidze, aelod o bwyllgor cangen Georgia, ryddhau Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew yn yr iaith Mingreleg. Dyma’r llyfr cyntaf o’r Beibl i gael ei gyfieithu i’r iaith hon. Cafodd fersiynau printiedig a digidol o’r llyfr eu rhyddhau yn ystod Cynhadledd Ranbarthol 2023 “Byddwch yn Amyneddgar”! a gafodd ei chynnal yn Zugdidi, Georgia, i gynulleidfa o 627.
Mae’r iaith Mingreleg yn cael ei defnyddio yn bennaf gan y rhai sy’n byw yn ardal Samegrelo, Georgia. Gwnaeth Tystion Jehofa sefydlu swyddfa gyfieithu yn Zugdidi yn 2019.
Mai dim ond ychydig o gyfundrefnau sydd wedi cyfieithu pethau ysgrifenedig i Mingreleg, gan gynnwys Tystion Jehofa. “Mae Mingreleg yn iaith lafar, felly does ’na ddim rheolau sillafu a gramadeg cyffredin,” meddai un o’r cyfieithwyr. “Dyna oedd ein her fwyaf. Yn y pen draw, gwnaethon ni benderfynu dilyn rheolau’r iaith Georgeg, ond roi sylw manwl i’r ffordd mae Mingreleg yn cael ei siarad.”
Ar ben hynny, dydy rhai o’r geiriau sy’n cael eu defnyddio yn y Beibl ddim yn bodoli yn yr iaith Mingreleg. Er enghraifft, does ’na ddim gair am “edifarhau”, felly gwnaeth y cyfieithwyr esbonio’r syniad drwy ddweud “tristwch ar ôl gwneud rhywbeth anghywir.”
Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a’n chwiorydd sy’n siarad yr iaith Mingreleg wrth iddyn nhw ddefnyddio’r cyfieithiad newydd hwn i helpu mwy o bobl “sy’n newynu ac yn sychedu am gyfiawnder.”—Mathew 5:6.