Neidio i'r cynnwys

MAI 4, 2022
GHANA

Rhyddhau Fersiwn Diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Twi (Asante)

Rhyddhau Fersiwn Diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Twi (Asante)

Roedd y Beibl diwygiedig ar gael i’w lawrlwytho yn syth ar ôl anerchiad y Brawd Sanderson

Ar ddydd Sul, Ebrill 24, 2022, gwnaeth y Brawd Mark Sanderson, aelod o’r Corff Llywodraethol, ryddhau fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Twi (Asante). Yn syth ar ôl yr anerchiad, roedd hi’n bosib lawrlwytho’r Beibl mewn ffurf ddigidol. Bydd copïau printiedig ar gael ym mis Awst.

Mae Twi (Asante) a Twi (Acwapem) yn perthyn i’r grŵp ieithyddol Acaneg, sy’n cael ei siarad gan filiynau yng Ngorllewin Affrica. Cafodd cyfieithiad Twi o’r Beibl ei argraffu ym 1871, ond yn yr iaith Twi (Acwapem) yn unig. Ym 1897, cafodd cyfieithiad Twi (Acwapem) arall ei ryddhau. Yn 2012, cyhoeddodd Tystion Jehofa argraffiad o Cyfieithiad y Byd Newydd yn Twi (Asante).

Mae chwaer yn gwylio’r rhaglen sydd wedi ei recordio o flaen llaw yn ei chartref

Wrth edrych yn ôl ar y prosiect, dywedodd un cyfieithydd: “Yn y cychwyn, roedd y gwaith yn edrych fel mynydd o’n blaenau ni. Ond, gyda llawer o weddïau a dibynnu’n llwyr ar ysbryd Jehofa, bob diwrnod gwelson ni law Jehofa yn y gwaith.”

Mae fersiwn diwygiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd yn rhodd arall i helpu brodyr a chwiorydd Twi eu hiaith i wasanaethu ein Duw hael, Jehofa, yn well.—Iago 1:17.