Neidio i'r cynnwys

IONAWR 18, 2023
GOGLEDD MACEDONIA

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Romani (Macedonia)

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Romani (Macedonia)

Ar Ionawr 8, 2023, gwnaeth y Brawd Daniel Jovanovic, aelod o Bwyllgor Cangen Gogledd Macedonia, ryddhau Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew yn yr iaith Romani (Macedonia) mewn sgript Syrilig a sgript Rufeinig.

Cafodd y llyfr ei ryddhau yn ystod rhaglen fyw arbennig yn Skopje, Gogledd Macedonia. Cafodd pob cynulleidfa a grŵp Romani (Macedonia) yn nhiriogaeth pwyllgor cangen Canolbarth Ewrop eu gwahodd i wylio’r rhaglen yn fyw drwy JW Stream–Studio. Roedd y llyfr ar gael ar unwaith ar ffurf sain ac yn ddigidol. Roedd y rhai oedd yn bresennol mewn person hefyd yn cael copi printiedig o’r llyfr yn y sgript Syrilig.

Mae’r ieithoedd Romani yn eang ac yn amrywio o un lle i’r llall. a Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu ein cyhoeddiadau yn rheolaidd i’r iaith Romani (Macedonia) yn 2007. Ar hyn o bryd, mae’r tîm cyfieithu yn gweithio yn y swyddfa gangen yn Skopje, lle mae’r poblogaeth mwyaf o siaradwyr Romani (Macedonia) yn byw yng Ngogledd Macedonia.

Mae’r tîm cyfieithu Romani (Macedonia) yn gweithio yn y swyddfa gangen yn Skopje

Dywedodd un brawd: “Pan dw i’n darllen y cyfieithiad hwn yn fy iaith fy hun, dw i’n teimlo bod Jehofa yn siarad â fi yn uniongyrchol.”

Dywedodd brawd arall: “Nawr wrth imi ddarllen llyfr Mathew, gallwn ddychmygu yn syth yr hyn roedd Iesu yn cyfleu i’w wrandawyr.”

Gweddïwn y bydd ein brodyr a’n chwiorydd yn gallu defnyddio y cyhoeddiad newydd hwn i ‘bregethu newyddion da’r Deyrnas.’—Mathew 9:35.