Neidio i'r cynnwys

CHWEFROR 28, 2022
GWERINIAETH DDEMOCRATAIDD Y CONGO

Rhyddhau yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Cipende

Rhyddhau yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Cipende

Ar Chwefror 20, 2022, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Cristnogol Groeg ei ryddhau yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw. Gwnaeth aelod o Bwyllgor Cangen Congo (Kinshasa), y Brawd Nicolas Hifinger, ryddhau fersiwn digidol o’r Beibl i gynulleidfa o ryw 10,000 o gyhoeddwyr. Bydd copïau caled ar gael yn Ebrill 2022.

Dechreuodd hanes Tystion Jehofa yn y maes Cipende ei iaith yn y 1960au pan gafodd copi o’r Tŵr Gwylio ei roi i ddyn o’r enw Makanda Madinga Henri. Ar ôl ystyried y wybodaeth, roedd yn gwbl sicr fod y neges yn wir a dechreuodd ddweud wrth eraill am yr hyn roedd yn ei ddysgu. Maes o law cafodd ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa. Yn hwyrach ymlaen, cafodd y gynulleidfa Cipende gyntaf ei ffurfio yn Kiefu ym 1979.

Y swyddfa cyfieithu Cipende yn Kikwit, tua 500 cilomedr (310 milltir) o swyddfa’r gangen yn Kinshasa

Bydd y cyfieithiad yn helpu brodyr a chwiorydd yn eu hastudiaeth bersonol ac wrth bregethu’r newyddion da. Er enghraifft, esboniodd y Brawd Hifinger fod y cyfieithiad newydd yn “gywir ac yn hawdd ei ddeall” ac yn “adfer enw Jehofa lle bynnag yr oedd yn y testunau gwreiddiol.”

Gweddïwn y bydd y Cyfieithiad y Byd Newydd hwn yn helpu ein brodyr i ddal ati i “fyw bywydau sy’n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well.”—Colosiaid 1:10.