Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 3, 2021
GWERINIAETH DDEMOCRATAIDD Y CONGO

Yn y Congo, Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Alwr

Yn y Congo, Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Alwr

Ar Fai 30, 2021, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei ryddhau yn yr Iaith Alwr. Rhyddhaodd y Brawd Hugues Kabitshwa, aelod o Bwyllgor Cangen Congo (Kinshasa), y Beibl mewn fformat digidol yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw.

Prif Ffeithiau’r Prosiect

  • Mae Alwr yn iaith sy’n cael ei siarad yng Nghanolbarth Affrica, yn benodol yn y rhannau gogledd-ddwyreiniol o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo a dros y ffin yn Iwganda

  • Mae tua 1,735,000 o bobl yn siarad Alwr

  • Mae dros 1,500 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 48 o gynulleidfaoedd a grwpiau Alwr eu hiaith

  • Cymerodd 12 mis i 6 chyfieithydd gyflawni’r dasg

Dywedodd y Brawd Christian Belotti, aelod o Bwyllgor Cangen Congo (Kinshasa): “Bydd cyhoeddwyr sy’n siarad Alwr wrth eu boddau yn darllen y Beibl hwn. Bydd yn eu helpu nhw i esbonio’r Ysgrythurau ac i gynorthwyo eraill i feithrin gwerthfawrogiad yn eu calonnau am Air Duw.”—Luc 24:32.

’Dyn ni’n sicr y bydd lansiad diweddar y Beibl hwn yn helpu ein brodyr a’n chwiorydd i ddal ati i gyhoeddi’r “neges dragwyddol.”—Datguddiad 14:6.