MEHEFIN 19, 2023
GWLAD GROEG
Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Romani (De Groeg)
Ar Fehefin 10, 2023, gwnaeth y Brawd Geoffrey Jackson, aelod o’r Corff Llywodraethol, ryddhau Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew yn yr iaith Romani (De Groeg) yn ystod rhaglen arbennig. Cafodd y rhaglen ei chynnal yn swyddfa gangen Gwlad Groeg yn Piraeus, ond hefyd cafodd ei ffrydio i bob cynulleidfa yng Ngwlad Groeg a Cyprus. Roedd mwy na 29,000 o bobl yn ei gwylio. Yn dilyn y cyfarfod, roedd y fersiwn digidol ar gael i lawrlwytho’n syth, ac bydd copïau printiedig ar gael ar gyfer y cynulleidfaoedd yn y misoedd i ddod.
Yn yr iaith Romani (De Groeg) does dim rheolau ar sut i siarad nac ysgrifennu’r iaith ac mae hynny’n gwneud y gwaith o gyfieithu yn fwy heriol. Mae’r tîm cyfieithu gyda 10 o gyfieithwyr ac maen nhw wedi eu sefydlu yn swyddfa gangen Gwlad Groeg. Mae’r tîm hefyd yn ddiolchgar o gael help gwerthfawr gan frodyr a chwiorydd sy’n gweithio yn y maes.
Ar ôl darllen llyfr Mathew yn yr iaith Romani (De Groeg), mynegodd un chwaer: “Fe ddes i adnabod Jehofa drwy astudio’r Beibl drwy gyfrwng yr iaith Roegaidd. Er fy mod i’n deall beth roeddwn i’n darllen a chlywed, mae darllen y Beibl yn fy mamiaith yn cyffwrdd â fy nghalon ac yn fy ysgogi i roi ar waith beth rydw i’n ei ddysgu.”
Dywedodd chwaer arall: “Mae’r ffordd mae Mathew 26:38, 39 wedi cael eu trosi yn yr iaith Romani (De Groeg) yn fy nghyffwrdd i’r byw. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion ei fod yn “ofnadwy o drist, hyd at farw.” Ond gweddïodd ar Jehofa am y nerth i wneud Ei ewyllys. Yn y bôn , mae’r adnodau hyn yn dangos i mi nad yw’n anghywir i fod yn drist ar adegau. Maen nhw hefyd yn fy atgoffa i weddïo’n daer ar Jehofa am y nerth i ddelio ag anawsterau, ac i rannu fy nheimladau â fy mrodyr a fy chwiorydd.”
Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a’n chwiorydd Romani gan eu bod nhw wedi derbyn y rhodd werthfawr hon a fyddai’n eu helpu nhw i nesáu at Jehofa.—Iago 4:8.