Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 27, 2022
GWLAD PWYL

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Iaith Arwyddion Gwlad Pwyl

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Iaith Arwyddion Gwlad Pwyl

Ar Fehefin 19, 2022, gwnaeth y Brawd Przemysław Bobów, aelod o Bwyllgor Cangen Gwlad Pwyl, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Iaith Arwyddion Gwlad Pwyl. Roedd cynulleidfa o tua 1,000 yn gwylio’r rhaglen arbennig oedd wedi ei recordio o flaen llaw.

Mae’r cyfieithiad newydd, y cyntaf erioed o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Iaith Arwyddion Gwlad Pwyl, ar gael ar jw.org ac ar yr ap JW Library Sign Language.

“’Dyn ni wrth ein boddau fod pobl fyddar bellach yn gallu gwylio hanesion Beiblaidd dramatig a fydd yn eu helpu i ddilyn Iesu yn agosach byth a chlosio at ein Tad cariadus, Jehofa,” meddai’r Brawd Bobów.

Mae Tystion Jehofa wedi cyhoeddi deunydd yn Iaith Arwyddion Gwlad Pwyl ers 2004, gan ddechrau gyda’r llyfryn Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Cafodd y ddwy gynulleidfa iaith arwyddion gyntaf eu sefydlu yng Ngwlad Pwyl yn 2006. Bellach mae ’na 13 cynulleidfa a 22 o grwpiau a rhag-grwpiau yn y maes iaith arwyddion.

Aelodau o dîm cyfieithu Iaith Arwyddion Gwlad Pwyl wrth eu gwaith

Rydyn ni’n gwbl sicr fod lansiad Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Iaith Arwyddion Gwlad Pwyl yn unol ag ewyllys Jehofa y bydd “pobl o bob math yn cael eu hachub ac yn cael gwybodaeth gywir am y gwir.”—1 Timotheus 2:4.