Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 28, 2021
INDIA

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Tamil mewn Sgript Rufeinig yn India

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Tamil mewn Sgript Rufeinig yn India

Ar Fehefin 27, 2021, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Tamil ei ryddhau mewn Sgript Rufeinig. Cafodd y rhaglen rithiol ei darlledu i frodyr a chwiorydd Tamil eu hiaith sy’n byw mewn 16 o wahanol wledydd.

Prif Ffeithiau’r Prosiect

  • Mae Tamil yn cael ei siarad gan tua 85 miliwn o bobl o gwmpas y byd

  • Mae dros 20,500 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 334 o gynulleidfaoedd a 32 o grwpiau Tamil eu hiaith

  • Gweithiodd 5 cyfieithydd am 6 mis i gwblhau’r prosiect

Cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ei ryddhau mewn sgript Tamil ym mis Medi 2016. Mae wedi bod yn fendith fawr i’r maes Tamil eu hiaith yn fyd-eang. Ond mae rhai siaradwyr Tamil yn ei chael hi’n anodd darllen sgript Tamil ac mae gwell ganddyn nhw sgript Rufeinig.

Ynghylch ei astudiaeth bersonol o’r Beibl, esboniodd un cyfieithydd: “O’n i’n cael trafferth darllen y sgript Tamil ac oedd rhaid imi ddibynnu ar y cyfieithiad Saesneg. Bydd y fersiwn newydd o gymorth mawr imi.”

Rydyn ni’n sicr y bydd y cyfieithiad hwn yn helpu llawer o frodyr a chwiorydd i ddarllen a myfyrio ar Air Duw, a chael llawenydd a llwyddiant yn eu bywydau a’u gweinidogaeth.—Josua 1:8.