MAWRTH 29, 2022
INDIA
Rhyddhau Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew yn yr Iaith Concani (Rhufeinig)
Ar Fawrth 27, 2022, cafodd Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew yn yr iaith Concani ei ryddhau mewn sgript Rufeinig. Cafodd y rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ei chyflwyno i gynulleidfa o tua 600. Roedd y llyfr ar gael yn syth i’w lawrlwytho mewn gwahanol fformatiau. Bydd y copïau printiedig ar gael hwyrach yn y flwyddyn.
Concani yw un o’r 23 iaith swyddogol India. Siaredir fwyaf ar arfordir gorllewinol canolbarth India. Dechreuodd Tystion Jehofa bregethu yn y maes Concani ym 1957 pan gafodd arloeswyr arbennig eu haseinio i’r ardal. Cafodd y gynulleidfa iaith Concani gyntaf ei sefydlu ym 1959.
Ychydig iawn o fersiynau o’r Beibl oedd ar gael yn Concani tan 1974. Yn y flwyddyn honno, cafodd gyfieithiad Concani o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei ryddhau i’r cyhoedd. Yn 2006, cyhoeddwyd cyfieithiad o’r Ysgrythurau Hebraeg hefyd. Ond, roedd gan y cyfieithiadau hynny iaith oedd braidd yn anghyfarwydd i siaradwyr Concani.
Mae cyhoeddwyr Concani eu hiaith wedi elwa ar yr adnoddau dysgu a gyhoeddir gan Dystion Jehofa yn yr iaith Concani. Ond, doedd gan gyhoeddwyr ddim cyfieithiad cywir o’r Beibl roedden nhw’n gallu dibynnu arno. Er enghraifft, esboniodd un cyfieithydd: “Roedd y cyfieithiad blaenorol yn trosi Mathew 6:33 fel: ‘Dylai ein pryder mwyaf fod, rhodio yn ôl rheolau Teyrnas Dduw a gwneud yr hyn sy’n ei blesio.’ Ond, o ganlyniad i lawnsiad llyfr Mathew yn ddiweddar, mae’r adnod bellach yn gliriach ac yn haws i’w deall.”
Dywedodd cyfieithydd arall: “Er bod nifer y cyhoeddwyr yn y maes yn gymharol fach, mae’r ffaith ein bod ni’n cael y llyfr hwn o Cyfieithiad y Byd Newydd yn ein hiaith ni yn dangos bod Jehofa yn gofalu am bob un ohonon ni.”
Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad newydd hwn yn helpu ein brodyr Concani eu hiaith i ddal ati yn y gwaith o ddenu pobl at Jehofa.—Ioan 6:44.