MAI 5, 2022
MALAWI
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tsïiao
Ar Ebrill 24, 2022, gwnaeth y Brawd Frank Madsen, aelod o Bwyllgor Cangen Malawi, ryddhau fersiwn digidol o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tsïiao. Cafodd y rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ei throsglwyddo dros deledu lloeren a llwyfannau eraill, gan gynnwys JW Box a JW Stream, i gynulleidfa o dros 148,000. Bydd copïau printiedig ar gael yn y dyfodol.
Mae’r Beibl cyfan ar gael yn Tsïiao ers 2014. Ond, mae gan y cyfieithiad hwnnw gamgyfieithiadau ac mae’n hepgor yn llwyr enw Duw, Jehofa, er bod yr enw hwnnw yn ymddangos filoedd o weithiau yn y testun gwreiddiol.
O ganlyniad i hynny, roedd llawer o gyhoeddwyr yn ei chael hi’n anodd defnyddio’r Beiblau hyn yn y weinidogaeth gyhoeddus. Esboniodd un cyfieithydd: “Roedden ni’n treulio llawer o amser yn esbonio pam nad oedd enw Duw yn ymddangos yn y Beibl yn lle dysgu pwysigrwydd enw Duw iddyn nhw.” Er enghraifft, mae un Beibl Tsïiao yn trosi Mathew 22:44 fel hyn: “Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd.” Ond, mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn ei drosi’n gywirach, sef, “dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd.”
Wrth feddwl am fuddion eraill y cyfieithiad hwn, dywedodd cyfieithydd arall: “Gan fod Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Tsïiao yn glir a dealladwy, bydd pobl yn deall beth mae’n ei ddweud yn syth a chael eu cymell i roi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu ar waith.”
Llawenhawn fod y Beibl hwn bellach ar gael i helpu miliynau o bobl sy’n siarad yr iaith Tsïiao i ddod i adnabod enw Jehofa, yr un sydd “Oruchaf ar yr holl ddaear,” a chlosio ato.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.