Neidio i'r cynnwys

AWST 11, 2021
MALAWI

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Malawi

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Malawi

Ar Awst 8, 2021, gwnaeth y Brawd Mark Hutchinson, aelod o Bwyllgor Cangen Malawi, ryddhau Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew yn Iaith Arwyddion Malawi. Dyma’r llyfr cyntaf o’r Beibl i gael ei ryddhau yn Iaith Arwyddion Malawi.

Cafodd y llyfr Beiblaidd ei ryddhau yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw a’i ffrydio i bob rhan o diriogaeth y gangen. Hefyd cafodd y rhaglen ei darlledu ar sianel deledu leol a gan orsaf radio.

Cafodd y gynulleidfa iaith arwyddion gyntaf ei sefydlu yn Lilongwe yn 2005. Yn 2009, rhoddwyd cychwyn ar gyfieithu i Iaith Arwyddion Malawi. Ers yr adeg honno, mae cyfanswm o 34 o gyhoeddiadau wedi cael eu cyfieithu i’r iaith. Nawr mae ’na bum tîm cyfieithu, gyda 21 o gyfieithwyr.

Dywedodd un o’r cyfieithwyr byddar sy’n gweithio ar y prosiect: “Wnaethon ni elwa ar yr adnodau gafodd eu cyfieithu yn ein cyhoeddiadau. Nawr mae gynnon ni’r cyfle i elwa ar adnodau yn eu cyd-destun yn ystod ein hastudiaeth bersonol ac ar y weinidogaeth.”

Un enghraifft o ba mor glir yw’r cyfieithiad yw’r ffordd y cafodd Mathew 22:44 ei drosi. Esboniodd un cyfieithydd: “Mewn cyfieithiadau eraill o’r Beibl mae’r adnod yn dweud ‘dywedodd fy Arglwydd wrth fy Arglwydd.’ Roedd hyn yn gwneud i rai pobl feddwl bod Jehofa ac Iesu yn un person. Yn y cyfieithiad hwn, mae’n amlwg mai Jehofa yw’r un sy’n siarad â’r Arglwydd Iesu.”

Rydyn ni’n gweddïo y bydd y rhodd hwn i’n brodyr a’n chwiorydd ym Malawi yn cryfhau eu perthynas â rhoddwr pob “rhodd berffaith,” Jehofa.—Iago 1:17, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.