Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 9, 2022
MALEISIA

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Ibaneg

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Ibaneg

Ar Fehefin 5, 2022, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei ryddhau yn yr Iaith Ibaneg. Daeth llawer o frodyr a chwiorydd ynghyd mewn Neuaddau’r Deyrnas i wylio’r rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw. Gwnaeth cyhoeddwyr eraill wylio’r rhaglen drwy fideo-gynadledda. Bydd copïau printiedig ar gael ym mis Gorffennaf neu Awst 2022.

Wrth weithio ar y cyfieithiad, roedd rhaid i’r tîm cyfieithu feddwl yn ofalus am y gwahaniaethau tafodieithol sy’n bodoli yn yr ardaloedd gwahanol. Gwnaeth tîm o bobl o sawl rhanbarth ddarllen y testun a helpu’r cyfieithwyr i ddewis trosiadau gall y mwyafrif o bobl Ibaneg eu hiaith eu deall.

Bydd y cyfieithiad newydd hefyd yn helpu cyhoeddwyr i esbonio gwirioneddau’r Beibl yn gywir yn eu gweinidogaeth. Er enghraifft, yn y gorffennol mae wedi bod yn anodd i gyhoeddwyr esbonio Ioan 4:24, sy’n dweud yn rhannol. ‘Rhaid i addolwyr Duw ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd.’ Mae Beiblau Ibaneg eraill yn camgyfieithu “ysbryd” gyda gair sy’n golygu “ysbryd y meirw.” Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i’r rhai â diddordeb ddeall sut dylen nhw addoli Duw.

Wrth sôn am werth y cyfieithiad newydd, dywedodd aelod o’r tîm cyfieithu: “Mae cael Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn ein hiaith ni yn dangos cariad cryf Jehofa tuag at bob math o bobl.”

Gweddïwn y bydd y Beibl newydd yn helpu hyd yn oed mwy o bobl Ibaneg eu hiaith i ddeall y Beibl yn well, i glosio at Dduw, a dod â chlod i enw Jehofa.—Salm 117:1.