IONAWR 17, 2023
MECSICO
Cyfieithiad y Byd Newydd Cyfan Nawr ar Gael yn Iaith Arwyddion Mecsico
Ar Ionawr 1, 2023, gwnaeth y Brawd Armando Ochoa, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, gyhoeddi rhywbeth cyffrous yn ystod digwyddiad arbennig yn Neuadd Cynulliad El Tejocote. Cyhoeddodd fod Cyfieithiad y Byd Newydd nawr ar gael yn Iaith Arwyddion Mecsico (LSM) yn ei gyfanrwydd ar jw.org ac ar yr ap JW Library Sign Language.
Dyma oedd y tro cyntaf i grŵp mawr o Dystion Jehofa gyfarfod wyneb yn wyneb yn nhiriogaeth y gangen Canolbarth America ers i’r pandemig COVID-19 ddechrau. Roedd cyfanswm o 2,317 yn bresennol mewn person, a gwnaeth miloedd mwy wylio’r rhaglen yn fyw o Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad trwy gydol Mecsico.
Hefyd yn bresennol oedd Mr. Sergio Peña, arbenigwr Iaith Arwyddion America a LSM, a Ms. María Teresa Vázquez, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Institute for the Inclusion of People with Disabilities yn Nhalaith Yucatan.
Dywedodd Mr. Peña “Hoffwn ddiolch i Dystion Jehofa ym Mecsico. O Ionawr 1, 2023 mae gan y cymuned byddar . . . Feibl cyfan yn LSM. Mae’n rhagorol ac yn gwaith campus.”
Dechreuodd y gwaith o gyfieithu’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol y Beibl i LSM ym mis Awst 2008. Mae llyfrau’r Beibl wedi eu rhyddhau fesul un dros y 14 blynedd ddiwethaf.
Hyd yn oed yn ystod y pandemig COVID-19, mwynhaodd cyhoeddwyr byddar sawl llyfr o’r Beibl a gafodd ei ryddhau. Mynegodd un brawd: “Roeddwn i mor ddiolchgar cawson ni lawer o lyfrau’r Beibl er gwaethaf y pandemig, ac roedd Jehofa yn ein bwydo ni gyda gwledd ysbrydol.”
Dywedodd un chwaer fyddar: “Cyn inni gael y Beibl yn LSM, roedd y brodyr yn gyfieithu adnodau o’r Beibl imi. Ond yn anffodus, roedd hi’n anodd i’r brodyr gyfieithu’r adnodau mewn ffordd gyson. Roedd hynny yn gwneud hi bron yn amhosib imi ddysgu ar gof adnodau o’r Beibl. Erbyn hyn, dydw i ddim angen dibynnu ar eraill i ddeall y Beibl.”
Rydyn ni’n hyderus bydd ein brodyr a’n chwiorydd trwm eu clyw a byddar yn elwa ar cael y Beibl cyfan. Gweddïwn am fendith Jehofa ar eu hymdrechion i rannu’r neges am ‘ddyfodol llawn gobaith’ ag eraill.—Jeremeia 29:11.